Betio: Ymchwilio i Aelod Ceidwadol o'r Senedd

Russell GeorgeFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Russell George yw'r Aelod o'r Senedd dros Sir Drefaldwyn

  • Cyhoeddwyd

Mae Aelod Ceidwadol o'r Senedd yn destun ymchwiliad gan y Comisiwn Hapchwarae yn sgil betio honedig ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol.

Mewn datganiad nos Fawrth, dywedodd Russell George ei fod yn cydweithredu'n llawn ag ymchwiliad y comisiwn, a'i fod yn camu’n ôl o gabinet cysgodol y Ceidwadwyr tra bo'r ymchwiliad ar waith.

Bydd hefyd yn camu o'i rôl fel cadeirydd pwyllgor iechyd y Senedd am y tro.

Mr George yw'r gwleidydd Ceidwadol diweddaraf i fod yn destun ymchwiliad gan y Comisiwn Hapchwarae yn sgil betio honedig ar yr etholiad cyffredinol.

Daw hyn ar ôl i'r Blaid Geidwadol benderfynu “na all gefnogi” Craig Williams - eu hymgeisydd ym Maldwyn a Glyndŵr.

Mae'r BBC yn deall fod cyfanswm o hyd at 15 o ymgeiswyr a swyddogion y Ceidwadwyr yn destun ymchwiliad gan y Comisiwn Hapchwarae.

Mae'r comisiwn hefyd yn ymchwilio i ymgeisydd Llafur yn Suffolk - Kevin Craig - oedd wedi betio ar ei hun i golli.

Mae'r BBC ar ddeall fod Mr George wedi gosod bet ar-lein ar y ffaith y byddai'r etholiad yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf, dros wythnos cyn i Rishi Sunak gyhoeddi'r dyddiad.

Does dim gwybodaeth ynglŷn â maint y fet na'r ods.

Mae'r BBC hefyd wedi cael gwybod nad oedd Mr George a Mr Williams yn ymwybodol o fetiau ei gilydd.

'Cydweithredu'n llawn'

Dywedodd Mr George yn ei ddatganiad: "Tra fy mod yn cydweithredu'n llawn gyda gwaith y Comisiwn Hapchwarae, ni fyddai'n briodol i mi wneud sylw ar y broses annibynnol a chyfrinachol yma.

"Byddai gwneud hynny yn gallu tanseilio'r ymchwiliad.

"Y comisiwn, nid y wasg, sydd â'r cyfrifoldeb, y pwerau a'r adnoddau i ymchwilio i'r mater yn llawn - a phenderfynu ar yr ymateb priodol.

"Rydw i wedi camu'n ôl o'r cabinet cysgodol tra bod yr ymchwiliad ar waith. Rydw i'n gwneud hyn er mwyn sicrhau nad wyf yn tynnu sylw o'u gwaith."

Ychwanegodd na fyddai'n gwneud sylw cyhoeddus pellach ar y mater tan fod yr ymchwiliad wedi ei gwblhau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Craig Williams hefyd yn destun ymchwiliad gan y Comisiwn Hapchwarae

Mr George yw'r ail wleidydd Ceidwadol o Gymru i fod yn destun ymchwiliad gan y Comisiwn Hapchwarae dros fetio ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol.

Pythefnos yn ôl fe wnaeth Craig Williams, fu'n ysgrifennydd preifat seneddol Rishi Sunak, gyfaddef gosod bet ar gynnal etholiad ym mis Gorffennaf.

Yn gynharach ddydd Mawrth fe ddywedodd y Blaid Geidwadol “na all gefnogi” ef fel ymgeisydd, a'u bod yn tynnu eu cefnogaeth iddo fel ymgeisydd ar gyfer sedd Maldwyn a Glyndŵr.

Mae Mr Williams wedi mynnu y bydd yn parhau i geisio cael ei ailethol i San Steffan.

Ychwanegodd ei fod yn “cydweithredu’n llawn ag ymholiadau arferol gan y Comisiwn Hapchwarae, ac rwy’n bwriadu clirio fy enw".

Ddydd Mercher dywedodd y cyn-AS Glyn Davies a chadeirydd y Ceidwadwyr yng Nghymru fod Mr Williams yn "ddyn anrhydeddus iawn a'i fod yn parhau i'w gefnogi".

"Mae wedi gwneud swydd dda fel ein haelod seneddol ond rwy'n derbyn ei fod wedi gwneud camgymeriad.

"Byddaf yn parhau i'w gefnogi. Mae'n ddyn abl iawn ac fe fydd yn siom fawr os nad yw'n ennill."

Aelodau eraill 'heb osod unrhyw fetiau'

Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd: “Mae Russell George wedi rhoi gwybod i mi ei fod wedi derbyn llythyr gan y Comisiwn Hapchwarae ynglŷn â betiau ar amseriad yr etholiad cyffredinol.

“Mae Russell George wedi camu’n ôl o gabinet cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig tra bod yr ymchwiliadau hyn yn parhau.

“Mae holl aelodau eraill Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig wedi cadarnhau nad ydyn nhw wedi gosod unrhyw fetiau."

Wrth ymateb, dywedodd cadeirydd ymgyrch Llafur Cymru, Jessica Morden: "Fe wnaeth hi gymryd bron i bythefnos i Rishi Sunak weithredu yn sgil honiadau am un o'i ymgeiswyr Ceidwadol.

"Pa mor hir wnaiff hi gymryd tan fod Andrew RT Davies yn gwahardd Russell George?"

Yn ôl yr AS Plaid Cymru Mabon ap Gwynfor dylai'r grŵp Ceidwadol yn y Senedd dynnu'r chwip oddi ar Mr George "ar unwaith".

Ychwanegodd: "Ni allwch chi fod wedi dychmygu'r peth. Oriau ar ôl cefnogi Craig Williams, sydd wedi ei ollwng fel ymgeisydd yn dilyn sgandal fetio arall, daw i'r amlwg bod Russell George wedi gwneud yn union yr un peth."

Dywedodd Oliver Lewis o blaid Reform fod y Ceidwadwyr "yn bydredig yn sefydliadol, gan hefyd ddweud y dylai Mr George golli'r chwip Geidwadol.

Ymgeiswyr etholaeth Maldwyn a Glyndŵr

Jeremy Brignell-Thorp - Y Blaid Werdd

Oliver Lewis - Reform UK

Glyn Preston - Democratiaid Rhyddfrydol

Elwyn Vaughan - Plaid Cymru

Craig Williams - Ceidwadwyr

Steve Witherden - Llafur