Rhoi bet ar yr etholiad cyffredinol yn 'gamsyniad difrifol'

Craig WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

“Fe wnes i gamgymeriad barn enfawr yn sicr ac rwy’n ymddiheuro” meddai Craig Williams

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgeisydd Ceidwadol, a fu'n gweithio fel cynorthwyydd i Rishi Sunak, wedi cyfaddef iddo wneud "camsyniad difrifol" wrth roi bet ar yr etholiad cyffredinol.

Mae papur newydd y Guardian yn honni bod Craig Williams wedi gosod bet £100 ar y ffaith y byddai’r etholiad yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf, rai dyddiau cyn i’r prif weinidog wneud ei gyhoeddiad.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Mr Williams, ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer Maldwyn a Glyndŵr, "nad oedd am weld hyn yn tynnu sylw oddi ar yr ymgyrch".

Ond fe wnaeth o wrthod dweud wrth y BBC a oedd ganddo unrhyw wybodaeth fewnol wrth iddo osod bet ar y mater.

Cyfaddefodd, fodd bynnag, “fe wnes i gamsyniad difrifol yn sicr ac rwy’n ymddiheuro”, meddai.

“Ni fyddaf yn ymhelaethu ar fy natganiad oherwydd ei fod yn broses annibynnol. Mae’r Comisiwn Hapchwarae yn edrych arno nawr.”

'Siomedig iawn'

Wrth siarad â gohebwyr yn uwchgynhadledd yr G7 yn Yr Eidal, dywedodd Mr Sunak ei bod yn "newyddion siomedig iawn a byddwch wedi gweld Craig Williams yn dweud ei fod yn gamsyniad difrifol".

“Nawr mae yna ymchwiliad annibynnol sy’n mynd rhagddo, sydd o reidrwydd yn gyfrinachol yn ogystal ag yn annibynnol, a byddwch yn gwerthfawrogi o ystyried hynny na fyddai’n briodol i mi wneud sylw tra bod hynny’n mynd rhagddo.”

Pan ofynnwyd iddo a oedd wedi dweud y dyddiad wrth Mr Williams, atebodd: "O ystyried natur yr ymchwiliad, sy'n gyfrinachol, ni fyddai'n iawn i mi wneud sylw tra bod yr ymchwiliad hwnnw'n parhau."

Yn y cyfamser, mae'r cyn-Brif Weinidog, yr Arglwydd David Cameron, wedi dweud bod y penderfyniad gan ei gyd-Geidwadwr yn un "ffôl iawn".

Yn ôl y Guardian fe wnaeth Craig Williams, fu'n gweithio'n agos gyda Rishi Sunak, osod bet £100 ar etholiad ym mis Gorffennaf, dridiau cyn i’r prif weinidog gyhoeddi y byddai etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf.

Dywedodd y papur newydd y byddai bet o'r fath yn gallu arwain at daliad o £500.

'Well bod yn gwbl dryloyw'

Mewn datganiad ar X, dywedodd Craig Williams fod "newyddiadurwr wedi cysylltu â mi ynghylch ymholiadau’r Comisiwn Hapchwarae ynglŷn ag un o fy nghyfrifon ac rwy'n meddwl ei fod yn well bod yn gwbl dryloyw".

"Fe wnes i roi bet ar yr etholiad cyffredinol rai wythnosau yn ôl.

"Mae hyn wedi arwain at ymholiadau arferol a dwi'n cadarnhau y byddaf yn cydweithredu'n llawn â rhain.

"Dydw i ddim eisiau i'r mater dynnu sylw oddi ar yr ymgyrch. Fe ddylwn i fod wedi meddwl sut y byddai'n edrych".

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Arglwydd Cameron fod penderfyniad Craig Williams yn un "ffôl iawn"

Mewn cyfweliad ar raglen BBC Breakfast, dywedodd y cyn-Brif Weinidog, yr Arglwydd David Cameron: "Mae'r Comisiwn Hapchwarae yn ymchwilio i hyn ac mae ganddyn nhw bwerau sylweddol o ran beth allai ddigwydd nesaf.

Dywedodd y bydd yn rhaid i Mr Williams "wynebu goblygiadau'r ymchwiliad" ac nad oedd yn gallu gwneud sylw pellach wrth i'r Comisiwn edrych ar y sefyllfa.

'Codi cwestiynau'

Mae Llafur wedi disgrifio'r honiadau fel rhai "cwbl anghredadwy".

Mae'r gwleidydd Llafur blaenllaw, John Ashworth wedi honni fod Rishi Sunak "yn gwybod am y wybodaeth yma ers mwy nag wythnos ac nad oedd ganddo unrhyw asgwrn cefn i wneud rhywbeth am y mater".

Dywedodd cydweithiwr i Mr Ashworth, Stephen Kinnock, wrth Wales Live nad oedd "ganddo reswm i gredu y byddai John yn dweud hynny os nad oedd yn wir".

Dywed y Democratiaid Rhyddfrydol y dylai'r Prif Weinidog gael ei wahardd fel ymgeisydd ar gyfer Maldwyn a Glyndŵr ac o'r Blaid Geidwadol tra bod ymholiadau yn cael eu cynnal.

"Mae pleidleiswyr yn cael eu cymryd yn ganiataol gan Rishi Sunak a'r Ceidwadwyr," meddai dirprwy arweinydd y blaid, Daisy Cooper.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts: "Tybed a oedd gan y llywodraeth y wybodaeth yma eisoes?

"Mae'n codi cwestiynau ynghylch beth oedd rhesymeg Mr Williams i ddewis y dyddiad yr oedd yn meddwl y byddai'r Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal."

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol eu bod yn ymwybodol o ymholiadau'r Comisiwn Hapchwarae, ond ei fod yn "fater personol i'r unigolyn dan sylw".

Hefyd ar raglen Wales Live, dywedodd Ysgrifennydd Swyddfa Cymru, Fay Jones "ei bod hi'n bwysig bod y ffeithiau yn dod i'r amlwg a bod y Comisiwn Hapchwarae yn medru gwneud eu swydd heb i unrhyw wleidydd fel fi amharu".

Ychwanegodd: "Nid yw'n grêt, does dim dwywaith am hynny".

Mewn datganiad i’r Guardian, dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Hapchwarae: “Os bydd unrhyw un yn defnyddio gwybodaeth gyfrinachol er mwyn cael mantais annheg wrth fetio, gall hyn fod yn drosedd o dwyllo o dan adran 42 o’r Ddeddf Hapchwarae.

“Nid yw’r Comisiwn Hapchwarae fel arfer yn cadarnhau nac yn gwadu a oes unrhyw ymchwiliadau ar y gweill oni bai eu bod wedi dod i ben, neu os bydd arestiadau’n cael eu gwneud neu fod cyhuddiadau’n cael eu dwyn yn ystod ymchwiliad troseddol.”

Yr ymgeiswyr eraill sydd yn sefyll yn etholaeth Maldwyn a Glyndŵr yw:

Jeremy Brignell-Thorp, Y Blaid Werdd

Oliver Lewis, Reform UK

Glyn Preston, Democratiaid Rhyddfrydol

Elwyn Vaughan, Plaid Cymru

Steve Witherden, Llafur