Pryder am ddynes, 91, sydd ar goll ers dros 20 awr

AdeleFfynhonnell y llun, Llun teulu
  • Cyhoeddwyd

Mae yna bryder am ddynes oedrannus sydd ar goll yn Sir Conwy.

Fe welwyd Adele, 91 oed, ddiwethaf pan aeth am dro o'i chartref yn Llanfair Talhaearn am 18:30 nos Fawrth i gyfeiriad Llangernyw.

Ar y pryd roedd hi'n gwisgo het wlan wen, sgarff amryliw, siaced las a chardigan glas golau, jîns glas ac esgidiau cerdded.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio ar unrhyw sydd ag unrhyw wybodaeth am Adele i gysylltu gyda nhw drwy ffonio'r rhif argyfwng, 999, gan ddyfynnu'r cyfeirnod Q076589.

Eisoes mae timau o'r heddlu, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a gwirfoddolwyr wedi bod yn chwilio amdani yn yr ardal.

Dywedodd y Prif Arolygydd Emma Parry: "Rydym yn gynyddol bryderus am les Adele, gan ei bod nawr wedi bod ar goll am dros 20 awr.

"Rwy'n gofyn i drigolion lleol i edrych yn eu gerddi ac adeiladau allanol, ac os ydych chi'n credu eich bod wedi gweld Adele yna cysylltwch â ni cyn gynted â phosib drwy ffonio 999."

Pynciau cysylltiedig