Prif Weinidog Yr Alban, Humza Yousaf i ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd
Bydd Humza Yousaf yn ymddiswyddo o'i rôl fel Prif Weinidog Yr Alban unwaith y bydd olynydd iddo wedi cael ei ddewis.
Daw'r penderfyniad, meddai, wedi cyfnod yn ystyried yr hyn oedd orau i blaid yr SNP, y llywodraeth a'r wlad.
Dywedodd Mr Yousaf ei fod wedi dod i'r casgliad y byddai'n rhaid i rywun arall arwain er mwyn ceisio adfer y berthynas rhwng y prif bleidiau.
Roedd arweinydd plaid yr SNP wedi bod dan bwysau ers dyddiau, ar ôl iddo ddod a'r cytundeb rhannu grym gyda'r Gwyrddion i ben.
Roedd y penderfyniad i ddod â'r cytundeb hwnnw i ben yn golygu nad oedd ganddo ddigon o gefnogaeth ymhlith Aelodau Senedd Yr Alban i arwain llywodraeth leiafrifol.
Roedd disgwyl y byddai'n rhaid i Mr Yousaf wynebu dwy bleidlais o ddiffyg hyder yr wythnos hon, gyda'r Gwyrddian yn dweud eu bod o blaid cael gwared ohono fel prif weinidog.
Dywedodd Mr Yousaf nad oedd wedi sylweddoli maint y drwgdeimlad y byddai'r penderfyniad i ddod â'r cytundeb rhannu grym i ben wedi ei achosi.
"Ar ôl treulio'r penwythnos yn ystyried yr hyn sydd orau i'm mhlaid, i'r llywodraeth ac i'r wlad yr wyf fi yn ei harwain - rydw i wedi dod i'r casgliad mai'r unig ffordd i adfer y berthynas rhwng y pleidiau yw drwy benodi arweinydd newydd.
"O ganlyniad, rydw i wedi rhoi gwybod i ysgrifennydd cenedlaethol yr SNP fy mod i'n bwriadu ymddiswyddo fel arweinydd y blaid."
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2023
Daw'r cyhoeddiad ond 13 mis ar ôl iddo drechu Kate Forbes ac Ash Regan yn y ras i olynu Nicola Sturgeon.
Wrth ymateb i'r newyddion fore Llun, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth: “Dymunaf yn dda i Humza Yousaf i’r dyfodol a diolch iddo am barhau i gryfhau’r cwlwm cyfeillgarwch rhwng ei blaid ef a minnau.
"Mae’r achos dros annibyniaeth i’r Alban yn parhau mor gryf ag erioed ac edrychaf ymlaen at symud ei achos ymlaen gydag arweinydd newydd yr SNP yn yr un modd ag y mae Plaid Cymru yn parhau i wneud yr achos yng Nghymru."