Mwy'n gwylio S4C yng Nghymru, ond cwymp ar draws y DU
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad blynyddol S4C yn dangos bod nifer y gwylwyr yng Nghymru wedi codi 8% yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
324,000 oedd y nifer fu'n gwylio'r sianel ar y teledu yn wythnosol yn ystod 2022/23 o'i gymharu â 300,000 y flwyddyn gynt, yn ôl tystiolaeth BARB, sy'n mesur cynulleidfaoedd o fewn y diwydiant darlledu.
Er hynny bu cwymp yn nifer y gwylwyr drwy'r Deyrnas Unedig - 509,000 oedd nifer y gwylwyr wythnosol o'i gymharu â 602,000 yn 2021/22.
Roedd mwy yn gwylio yn ystod yr oriau brig rhwng 19:00 a 22:00.
20,600 oedd y gynulleidfa ar gyfartaledd drwy'r DU yn ystod yr oriau hyn yn 2022/23, i fyny o 17,400 yn 2021/22.
Roedd cynnydd hefyd yn y nifer fu'n gwylio rhaglenni ar wasanaethau ailddarlledu, yn enwedig gwasanaeth BBC iPlayer.
Roedd pobl wedi gwylio dros dair miliwn o oriau o raglenni S4C ar iPlayer a Clic.
Rhaglenni chwaraeon wnaeth ddenu'r cynulleidfaoedd mwyaf, gyda 456,000 yn gwylio'r gêm rhwng tîm pêl-droed dynion Cymru a Gwlad Belg yng Nghynghrair y Cenhedloedd ym mis Medi.
Rhaglenni chwaraeon oedd yr wyth uchaf ar restr rhaglenni mwyaf poblogaidd S4C.
Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod mae S4C yn rhoi pwyslais ar ddenu oedolion ifanc rhwng 25 a 44 oed.
Maen nhw'n dweud bod Gogglebocs Cymru eisoes wedi treblu'r niferoedd fu'n gwylio ar lwyfannau "dal i fyny".
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2023
Ers Ebrill 2022 mae arian S4C wedi dod yn gyfan gwbl o ffi'r drwydded.
£88.85m yw'r grant blynyddol ar hyn o bryd, a bydd yn codi'n unol â graddfa chwyddiant yn ystod y pedair blynedd nesaf.
Gwariodd y sianel bron i £7.4m ar gyflogau a chyfraniadau pensiwn ac fe fuon nhw'n cyflogi 118 o staff - 69 o fenywod a 49 o ddynion.
Fe hawliodd aelodau'r bwrdd rheoli £46,814 mewn treuliau wrth wneud eu gwaith yn ystod y flwyddyn, a hynny dros deirgwaith yn fwy na'r flwyddyn gynt (£15,723).
S4C yn 'trawsnewid'
Dywedodd Rhodri Williams, cadeirydd Bwrdd Unedol S4C: “Yn ystod y flwyddyn rydym wedi gweld cynnydd sylweddol wrth i S4C drawsnewid o fod yn sianel deledu llinol yn unig i fod yn gyhoeddwr cynnwys creadigol, aml-blatfform
“Mae argaeledd ein cynnwys ar amrywiaeth o lwyfannau digidol wedi golygu bod mwy o bobl yn ei weld, yn enwedig gwylwyr iau.
“Mae argaeledd ac amlygrwydd yn mynd law yn llaw, ac mae hynny yn bwysicach nag erioed o’r blaen er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd yn gallu mwynhau’r cyfoeth o gynnwys gafaelgar sydd i’w gael ar eu cyfer yn yr iaith Gymraeg."
Ychwanegodd bod y sianel yn croesawu penderfyniad Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi cyllid ychwanegol i S4C o Ebrill 2022 ymlaen, a’r cynlluniau i ddeddfu "i sicrhau amlygrwydd i ddarparwyr cyfryngau cyhoeddus".
Ychwanegodd prif weithredwr S4C, Siân Doyle: “Rwy’n falch fod ein cynnwys wedi arwain at dwf ar ein holl blatfformau, ein perfformiad cryf ymysg gwylwyr iau a’r llwyddiant wrth werthu ein rhaglenni yn rhyngwladol.
“Mae’r cynnydd yma yn brawf o frwdfrydedd ac ymdrech staff S4C a’n partneriaid ni yn y sector yma yng Nghymru.
“Gwych hefyd yw gweld parhad y cynnydd welwyd yn 2022-23 yn ein ffigurau ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn hon.
“Mae S4C yn falch o hybu’r iaith Gymraeg, sbarduno siaradwyr newydd a chodi hyder siaradwyr i ddefnyddio’r iaith.
“Ein bwriad ni yw cyfleu Cymru yn ei chyfanrwydd, gan adlewyrchu’r amrywiaeth eang o bobl a straeon sydd yw canfod ar hyd a lled y wlad.”