Mwy o wasanaethau trên yng nghymoedd y de o ddydd Sul

Y newid i amserlenni'r cymoedd fydd y trawsnewidiad mwyaf yn yr ardal ers 30 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mapiau lliwgar newydd o’r rheilffyrdd, yr opsiwn i deithwyr dalu gyda cherdyn digyffwrdd, a byrddau sydd â'r wybodaeth ddiweddaraf am y trenau nesaf.
Dyma bethau fyddai'n fwy arferol i bobl sy'n teithio mewn dinas fel Llundain, efallai, ond yng nghymoedd de Cymru mae hyn.
Bydd gwasanaethau ychwanegol, sy'n cael eu cyflwyno o ganlyniad i fuddsoddiad o £1bn, yn dechrau o'r penwythnos yma.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi galw ar bobl i wirio trefniadau cyn teithio gan ei bod hi'n bosib y bydd rhai amseroedd a llwybrau yn newid o ddydd Sul ymlaen.

Map o'r Metro sy'n cael ei gyflwyno yn ne Cymru
Fel rhan o'r newidiadau mwyaf i amserlenni trenau'r ardal ers 30 mlynedd, bydd pob llwybr Trafnidiaeth Cymru o hen linellau’r cymoedd yn gweld dwywaith nifer y trenau - rhai newydd sbon hefyd - o fewn y ddwy flynedd nesaf.
Mae’r newidiadau diweddaraf yma hefyd yn cynnwys dau lwybr ychwanegol, sef gwasanaethau shuttle rhwng Caerdydd a Phontypridd a Caerffili.
Ond mae'r datblygiadau yn golygu bod rhai llwybrau i ac o Gaerdydd wedi newid, er mwyn gallu cwblhau gwaith fydd yn sicrhau bod modd i orsafoedd y brif ddinas ymdopi pan fydd nifer y gwasanaethau'n cynyddu ymhen 18 mis.
O ganlyniad i hyn bydd angen i rai teithwyr newid trenau mewn gorsafoedd penodol er mwyn cyrraedd pen eu taith yn fwy cyflym - yn debyg i'r hyn fyddai rhywun yn ei wneud ar wasanaeth Underground Llundain.

Mae'r gost o adeiladu rhwydwaith rheilffyrdd Metro De Cymru wedi codi i £1bn
Y gobaith yw, unwaith y bydd yr holl waith adeiladu wedi ei gwblhau, y bydd gan bobl y cymoedd ddewis o bedwar trên i Gaerdydd bob awr.
Bydd y gwaith o drydaneiddio'r llwybrau yn cael ei orffen eleni, tra bod bron i 40 o orsafoedd wedi eu huwchraddio a 36 o drenau newydd wedi cyrraedd ac yn barod i'w cyflwyno i'r rhwydwaith.
Mae trenau newydd eisoes yn cael eu defnyddio ar rai o lwybrau'r cymoedd, gyda mwy i gael eu hychwanegu ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst, a fydd yn denu rhyw 150,000 o ymwelwyr i Bontypridd.
Ond dyw hi ddim yn bosib dyblu nifer y gwasanaethau tan fod systemau arwyddo a thraciau wedi eu huwchraddio yng ngorsaf Heol y Frenhines Caerdydd.
Unwaith y bydd y gwaith yna wedi cael ei gwblhau, bydd trên yn gallu teithio drwy'r orsaf bron bob munud.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2024