'Angen £2bn' i ailagor rheilffyrdd rhwng y gogledd a'r de

  • Cyhoeddwyd
tren trafnidiaeth cymruFfynhonnell y llun, Huw Fairclough
Disgrifiad o’r llun,

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn edrych ar ddatblygu coridorau teithio posib ar hyd arfordir y gorllewin

Byddai cynlluniau i ailagor llinellau rheilffyrdd rhwng y gogledd a'r de yn costio tua £2bn, meddai Trafnidiaeth Cymru.

Edrychodd y cwmni ar ailagor llinell rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth ac Afon Wen a Bangor.

Yn ôl y Prif Weithredwr James Price, byddai hynny'n gostus iawn i'w ddatblygu ac yn anodd i'w weithredu.

Dywedodd ymgyrchwyr ei bod yn aneglur sut y daeth Trafnidiaeth Cymru i'r ffigwr hwnnw.

O dan gytundeb cydweithio Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, gofynnwyd i Trafnidiaeth Cymru edrych ar sut y gallai cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y gogledd a'r de gael eu datblygu, dolen allanol.

Roedd hynny'n cynnwys coridorau teithio posib ar hyd arfordir gorllewin Cymru o Gaerfyrddin i Fangor.

Edrychodd Trafnidiaeth Cymru ar ail-gysylltu llwybrau trên sydd ddim yn cael eu defnyddio bellach rhwng Bangor ac Afon Wen oedd tua 28 o filltiroedd.Roedd y llinell rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin tua 50 o filltiroedd a chafodd y ddwy eu cau yn y 60au.

Llywodraeth Cymru yw perchennog Trafnidiaeth Cymru - y corff sy'n gyfrifol am nifer o wasanaethau trên ar draws y wlad ers 2018.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru yn credu y byddai modd cyllido'r cynllun gydag arian canlyniadaol o gynllun HS2 yn Lloegr

Mewn llythyr at gadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd Senedd Cymru, dywedodd y Prif Weithredwr eu bod wedi gwneud "asesiad eang" i edrych ar sut y gallai cysylltiadau gael eu gwella ar arfordir gorllewinol Cymru.

Ychwanegodd James Price: "Roedd y cynigion rheilffordd, tra'n cynnig teithiau byrrach, yn gostus iawn i'w datblygu a'u gweithredu (byddai cynllun trên ysgafn yn costio tua £2bn) ac yn cymryd 10 mlynedd i'w weithredu.

"Felly, fe fyddai'n anodd gweithredu'r rhain, hyd yn oed fel cynlluniau trên ysgafn. Mae'r achos dros Fangor - Caernarfon/Afon Wen yn gryfach gan fod y daith yn fyrrach a mwy o alw.

"Yr argymhelliad yw cymryd camau pellach i amddiffyn y llwybr hwnnw rhag datblygiad pellach lle mae'n bosib gwneud hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Dydi'r arbenigwr trafnidiaeth Stuart Cole ddim yn gweld y cynlluniau'n cael eu gwireddu

Yn ôl yr arbenigwr trafnidiaeth Stuart Cole, mae'n annhebygol y bydd y cynlluniau'n cael eu gwireddu oherwydd y gost a'r cymhlethdod.

"S'dim lot o siawns," meddai. "O'r galon mi fyddwn i'n hoffi cael rheilffordd sy'n mynd o Abertawe, Llanelli, Caerfyrddin i Aberystwyth. Byddai hynny'n grêt.

"Ond fel economist galla i ddim dweud hynny. Mae'n rhy ddrud am beth mae'r arian yn cael yn ôl mewn maint y teithwyr a'r amser sy'n cael ei arbed."

'Gweledigaeth cyffrous'

Dywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru Adam Price y byddai'n bosib ei gyllido drwy waraint ar gynllun HS2 yn Lloegr.

"Pe bai Cymru yn cael yr arian ni'n haeddu drwy HS2 - hyd yn oed HS2 wedi ei dalfyrru - byddai digon o arian canlyniadaol neu consequential yn dod i Gymru," meddai AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

"Gobeithio bydd Llywodraeth nesa' San Steffan yn gwneud hynny ac y gallwn ni wireddu'r weledigaeth cyffrous yma."

Disgrifiad o’r llun,

Byddai Margaret Jones a Branwen Evans o Gaerfyrddin yn hoffi gweld y cynlluniau'n cael eu gwireddu

Yng Nghaerfyrddin, roedd 'na gefnogaeth i'r syniad, ond hefyd pryderon am y gost.

"Bydde fe'n grêt achos fi'n mynd i Aberystwyth eithaf lot... ond mae'n rhaid bod yn bragmatig," meddai Branwen Evans.

Dywedodd Margaret Jones: "Fi'n credu bod ishe system trenau gwell fel bod pobl yn gallu symud o un man i'r llall a hefyd mae'n arbed mwy o draffig ar y ffordd."

Dywedodd Mark Davies o grŵp ymgyrchu Traws Link Cymru eu bod wedi eu "synnu" gyda sylwadau Trafnidiaeth Cymru.

"Dylid nodi nad yw astudiaethau cwmpasu a dichonoldeb wedi'u cwblhau eto ar gyfer rhan ogleddol y lein ac felly nid yw'n glir sut mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyrraedd y cyfanswm o £2bn," meddai.

Ychwanegodd y byddai ailagor y lein yn "ysgogiad mawr" i'r economi leol.