Codi tâl ar daith disgyblion i ysgol Gymraeg yn 'drychinebus' i'r iaith

Dylan, 16 oed o Dreharris. Maer Ieuenctid Merthyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan o Dreharris yn ofni y bydd y newidiadau yn arwain at lai o bobl yn siarad Cymraeg ym Merthyr

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr ym Merthyr Tudful yn rhybuddio y bydd dechrau codi tâl ar ddisgyblion chweched dosbarth i fynd i'r ysgol gyfun Gymraeg leol yn "drychinebus" i'r iaith.

Mae Cyngor Merthyr yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ynglŷn â newid posib i'r ddarpariaeth trafnidiaeth i ddisgyblion dros 16 oed, allai olygu rhoi'r gorau i gynnig cludiant am ddim.

Does dim rheidrwydd statudol ar yr awdurdod i gynnig trafnidiaeth am ddim i ddisgyblion dros 16 oed ac mae'r ymgynghoriad yn rhan o ymdrech y cyngor i ddod o hyd i arbedion.

Mae rhieni a disgyblion yn dweud byddai hynny yn ergyd i Ysgol Gyfun Rhydywaun sy'n cynnig addysg trwy gyfrnwg y Gymraeg i bobl ifanc y sir.

Disgrifiad o’r llun,

Gallai'r newidiadau fod yn ergyd i Ysgol Gyfun Rhydywaun

Mae'r ysgol yn ardal Aberdâr, dros y ffin yn Rhondda Cynon Taf, ac mae tua hanner y disgyblion yn teithio o fwrdeistref sirol Merthyr Tudful.

"Dwi'n credu bydd e'n cael effaith enfawr ar ysgolion yn enwedig Rhydywaun," meddai Dylan, sy'n ddisgybl 16 oed yn yr ysgol, ac yn Faer Ieuenctid Merthyr.

"Heb y chweched bydd y pobl sy'n mynd nôl i Rydywaun yn dirywio, a wedyn bydd llai o bobl yn siarad Cymraeg ym Merthyr."

Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn darparu trafnidiaeth am ddim i Goleg Merthyr Tudful, yn ogystal â Choleg y Cymoedd, Coleg Pen-y-bont, Ysgol Gyfun Rhydywaun, Ysgol Cwm Rhymni, ac Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru.

Cyngor yn ceisio dod o hyd i arbedion

Mae'r cyngor yn dweud bod y ddarpariaeth yn costio bron i £97,000.

Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am farn ynglyn â phedwar dewis posib:

  • Codi tâl llawn ar ddisgyblion am y gwasanaeth;

  • Cynnig gwasanaeth am ddim i Goleg Merthyr Tudful ac Ysgol Gyfun Rhydywaun yn unig;

  • Dileu'r gwasanaeth yn llwyr;

  • Cadw pethau fel ag y maen nhw.

Ofn effaith unrhyw newid

Mae'r awgrym y gallai'r gwasanaeth newid wedi codi gwrychyn rhai rhieni.

Mae Gareth Jones yn byw yn sir Merthyr, ac mae ei ferch yn cael addysg Gymraeg.

"Un o'r rhesymau wnaethon ni symud i'r ardal oedd bod 'na lwybr addysg Gymraeg i'n merch ni o'r meithrin i'r ysgol gynradd, i'r ysgol uwchradd a falle tu hwnt i hynny."

Mae'n dadlau byddai effaith colli trafnidiaeth am ddim yn niweidiol i'r Gymraeg.

"Yn yr hir dymor fi'n rhagweld llai o siaradwyr Cymraeg, llai o ddisgyblion mewn addysg Gymraeg," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Olivia yn teimlo fod ganddi hawl i addysg Gymraeg

Mae rhai o ddisgyblion yr ysgol yn cytuno bod angen cadw'r gwasanaeth fel y mae.

Mae Olivia yn 16 oed ac yn byw ym Merthyr, ac yn dweud y byddai hi wedi ailystyried mynd i'r chweched dosbarth pe bai'n rhaid talu am drafnidiaeth.

"Dwi ddim yn siŵr os allai dalu y ffioedd bysiau ond dylen i gael yr hawl i fynd i gael addysg Gymraeg. Bydd angen gofyn i fy rhieni os ydyn ni'n cael yr arian i allu talu'r ffioedd."

Mae Iwan sy'n 17 oed o Ferthyr yn galw'r cynllun yn "syniad eitha twp".

"Dwi'n deall pam bod y cynnig yn bodoli a'r syniad tu ôl iddo fe, does dim llawer o arian yn mynd o gwmpas ar y foment.

"Ond credaf bod addysg uwch yn Gymraeg yn bwysig iawn ac mae gyda ni'r hawl i ddysgu yn y Gymraeg ar lefel uwch."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iwan yn credu bod addysg uwch yn Gymraeg yn bwysig iawn

Yn ôl prif swyddog Menter Iaith Merthyr, Lis McLean, nid dyma'r tro cyntaf y mae'r cyngor wedi ystyried newid y ddarpariaeth trafnidiaeth.

Yn 2014 bu disgyblion ac ymgyrchwyr yn gorymdeithio i neuadd y sir i wrthwynebu newid tebyg i'r drefn.

"Mae'n digwydd bob ychydig o flynyddoedd. Mae wir yn warthus," meddai.

"Dwi'n cofio fy nhad i'n gorymdeithio ac yn gwneud pob math o bethau ar gyfer bws i fynd i Aberdar flynyddoedd yn ôl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynnig "wir yn warthus" yn ôl Lis McLean

Ychwanegodd: "Dwi wedi ymladd drosto fe - dros fy mhlant i, ac mae fy mhlant i nawr yn ymladd drosto fe.

"A fydd yn rhaid i fy wyrion hefyd ymladd dros gael addysg Gymraeg?"

Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Sue Walker, fod aelodau wedi cytuno i edrych ar ddarpariaeth trafnidiaeth addysg ar ôl 16 oed "fel rhan o arbedion effeithlonrwydd y cyngor".

"Nid oes gan yr Awdurdod gyfrifoldeb statudol i ddarparu trafnidiaeth am ddim ar gyfer myfyrwyr 16 oed a hŷn sydd yn parhau â’u hastudiaethau mewn addysg prif ffrwd, addysg bellach ac hyfforddiant – oddi fewn neu’r tu allan i’r fwrdeistref sirol."

Ychwanegodd y llefarydd: "Yn y papur ymgynghorol, mae pedwar opsiwn y mae’r Awdurdod yn gofyn am farn amdanynt.

"Wedi i’r ymgynghoriad gau ar 19 Gorffennaf, bydd papur yn cael ei lunio a bydd aelodau yn gwneud penderfyniad terfynol.”

Pynciau cysylltiedig