Llanrwst: Carchar am ymosodiad rhyw wrth i ddynes gysgu
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei garcharu am ymosod yn rhywiol ar ddynes mewn adeilad yn Llanrwst tra'r oedd hi'n cysgu.
Dywedodd yr heddlu bod Giorgian-Cristian Martin, 27 oed, yn gweithio yn yr ardal ar adeg yr ymosodiad ym mis Medi 2023.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug, cafodd Martin, sydd heb gartref parhaol, ddedfryd o chwe blynedd a dau fis o garchar.
Roedd wedi cyfaddef ymosod yn rhywiol a thresbasu gyda'r bwriad o gyflawni trosedd ryw.
Dywedodd y Prif Uwch Arolygydd, Jason Devonport, o Heddlu'r Gogledd: "Roedd yr achos yma'n frawychus a bydd yn effeithio ar y dioddefwr am amser hir.
"Mi hoffwn ni eu canmol nhw am eu dewrder mewn amgylchiadau anodd iawn.
"Rydw i'n croesawu'r ddedfryd yma. Mae'n dangos nad oes lle i drais yn erbyn merched yn ein cymdeithas, a fel llu, rydyn ni'n benderfynol i ddod ag unrhyw droseddwyr i gyfraith.
"Rydyn ni'n ymchwilio'n drylwyr i adroddiadau o'r natur yma ac rydyn ni'n benderfynol o sicrhau fod pobl yng ngogledd Cymru yn teimlo'n ddiogel."