Merch wedi'i harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio

heddluFfynhonnell y llun, PA
  • Cyhoeddwyd

Mae merch yn ei harddegau wedi cael ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl i dri o bobl gael eu hanafu ar dir ysgol.

Cafodd dau athro ac un disgybl yn ei arddegau eu cludo i'r ysbyty yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin fore Mercher.

Roedd y tri wedi cael anafiadau o ganlyniad i gael eu trywanu.

Mae BBC Cymru yn deall mai un o'r athrawon a gafodd ei hanafu yn y digwyddiad yw Fiona Elias.

Nos Fercher dywedodd Heddlu Dyfed-Powys nad oedd yr anafiadau yn peryglu bywyd. Bydd yr ysgol ar gau ddydd Iau.

Yn y cyfamser, mae Cefin Campbell, cyn-ddisgybl yr ysgol ac Aelod o'r Senedd i Ganolbarth a Gorllewin Cymru, wedi dweud fod ei frawd yn athro yn yr ysgol.

Disgrifiad,

Cefin Campbell AS, yn dweud fod ei frawd yn athro yn yr ysgol

"Mae'n debyg mai 'mrawd oedd un o'r cyntaf i gyrraedd y digwyddiad ac wedi gorfod delio gyda sefyllfa gwbl frawychus a dweud y gwir," meddai yn fyw ar raglen Newyddion S4C nos Fercher.

Dywedodd ei fod yn "llawn emosiwn" am fod y digwyddiad yn "gwbl, gwbl annisgwyl".

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio ac wedi apelio ar bobl i ddileu fideos o'r digwyddiad ar-lein.

Disgrifiad o’r llun,

Mae BBC Cymru yn deall mai un o'r athrawon a gafodd ei hanafu yn y digwyddiad yw Fiona Elias

Ar un adeg roedd cannoedd o rieni yn disgwyl am eu plant y tu allan i giatiau’r ysgol yn ceisio cael mwy o wybodaeth.

Fe gafodd y disgyblion eu cadw mewn dosbarthiadau, a'u rhyddhau o'r ysgol mewn grwpiau tua 15:20.

Dywedodd Osian, un o ddisgyblion yr ysgol fod pawb yn "rhedeg rownd a sgrechen".

"O' ni gyd jyst bach yn shocked, oedd pawb i gyd dros y lle.

"O'n i'n ofn iawn... o fi i gyd a ffrindiau fi yn rhedeg ffordd arall o ni jyst yn trio cadw i ffwrdd o beth oedd yn digwydd."

Disgrifiad,

Profiad disgybl: 'Ni gyd mewn bach o sioc ac ofn'

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ross Evans bod yr heddlu wedi'u galw i'r ysgol am 11:20.

"Fe ddaeth y gwasanaethau brys yn syth a bu'n rhaid cau'r ysgol er mwyn sicrhau diogelwch pawb ar y safle," meddai.

Wrth gyfeirio at y ferch yn ei harddegau sydd wedi cael ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ychwanegodd Mr Evans ei bod yn parhau yn y ddalfa.

Dywedodd hefyd bod cyllell wedi'i chanfod ac y bydd yn cael ei defnyddio fel rhan o'r dystiolaeth.

"Fe fyddwn i'n hoffi cysuro rhieni a'r cyhoedd bod y digwyddiad wedi dod i ben a bod y disgyblion bellach wedi gadael yr ysgol," meddai.

"Rydyn ni'n gweithio gyda'r ysgol ac asiantaethau eraill er mwyn sicrhau bod cefnogaeth briodol ar gael."

"Roedd hwn yn ddigwyddiad a wnaeth achosi loes ac ry'n yn meddwl am y dioddefwyr, eu teuluoedd a phawb y mae'r digwyddiad wedi cael effaith arnyn nhw."

Ychwanegodd yr heddlu eu bod yn "ymwybodol bod lluniau a fideos o'r digwyddiad yn cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol".

"Byddwn yn gofyn i hwn gael ei dynnu er mwyn osgoi bod mewn dirmyg llys ac achos gofid i'r rheiny sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad.

"Gofynnwn i bobl beidio â cheisio dyfalu be ddigwyddodd tra bo ymchwiliad yr heddlu'n mynd rhagddo."

Ychwanegodd Mr Evans y bydd mwy o blismyn yn yr ardal yn ystod y dyddiau nesaf wrth i'r ymchwiliad barhau.

Disgrifiad o’r llun,

“Chi byth yn disgwyl rhywbeth fel hyn yn Rhydaman," meddai Justin Williams

Dywedodd Justin Williams fod ei merch, sydd ym mlwyddyn 7 yn yr ysgol, wedi anfon neges destun i ddweud bod yr ysgol wedi'i chloi yn sgil y digwyddiad.

“Ma' hi’n iawn, ond just becso nawr am y bobl sy' 'di cael damwain.

“Ma' hi’n shocking be' sy' 'di digwydd.

“Chi byth yn disgwyl rhywbeth fel hyn yn Rhydaman.”

Disgrifiad o’r llun,

Pobl wedi casglu tu allan i'r ysgol yn gynharach ddydd Mercher

Dywedodd Lisa Barrett, sydd â phlentyn yn yr ysgol, fod ei merch wedi anfon neges ati yn dweud eu bod mewn "lockdown".

"Mae'n bryderus iawn, iawn. Fe wnaeth fy merch yrru fideo ata i o rywun yn cael eu cymryd oddi yno ar stretcher," meddai yn fuan wedi'r digwyddiad.

"Dydych chi ddim yn disgwyl y peth - rydych chi'n gyrru'ch plant i'r ysgol ac yn meddwl y byddan nhw'n saff."

Disgrifiad o’r llun,

Teuluoedd yn falch o weld eu plant wedi'r digwyddiad

'Newyddion ofnadwy'

Yn ymateb i'r digwyddiad, dywedodd y prif weinidog Vaughan Gething ar X: "Newyddion ofnadwy am ddigwyddiad difrifol yn Ysgol Dyffryn Aman.

"'Dwi'n meddwl am y gymuned wrth i ni geisio canfod mwy o wybodaeth."

Dywedodd prif weinidog y DU, Rishi Sunak, ei fod "wedi cael braw" o glywed y newyddion o Rydaman.

Ychwanegodd yr aelod lleol o'r Senedd, Adam Price o Blaid Cymru - sy'n gyn-ddisgybl yn yr ysgol - ei fod yn "meddwl am y rheiny sydd wedi'u heffeithio gan y digwyddiad".