Dau ddaeargryn wedi taro'r canolbarth fore Llun
- Cyhoeddwyd
Mae Arolwg Daearegol Prydain wedi cadarnhau bod y canolbarth wedi cael ei ysgwyd gan ddau ddaeargryn bychan fore dydd Llun.
Fe ddigwyddodd y cyntaf am 08:37, ar ddyfnder o 7km, gyda'r canolbwynt ychydig filltiroedd i'r gorllewin o Langurig, yn agos at y ffin rhwng Powys a Cheredigion.
Cafodd ei gryfder ei fesur fel 1.0 (magnitude).
Hanner awr yn ddiweddarach cofnodwyd daeargryn oedd yn mesur 2.3 i'r gogledd o Dregaron yng Ngheredigion, gyda'r canolbwynt yng Nghors Caron, ar ddyfnder o 2km.
Ym mis Chwefror 2023, cafodd daeargryn yn mesur 3.7 ei gofnodi yn ne Powys.
Dyna oedd y daeargryn mwyaf i daro Cymru ers 2018 pan darodd ddaeargryn yn mesur 4.6 ger Abertawe.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2023