Atal nyrs o'r gogledd o'r proffesiwn am gam-drin
- Cyhoeddwyd
Mae nyrs “creulon” a “dideimlad” wnaeth gam-drin cleifion bregus yn gorfforol ar uned iechyd meddwl yng ngogledd Cymru wedi cael ei atal rhag gweithio yn y proffesiwn.
Roedd Robert Lang yn gweithio ar ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd cyn i'r uned gael ei chau yn 2013 oherwydd pryderon am ofal.
Fe ddaeth y panel o’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) i'r casgliad fod y nyrs seiciatrig wedi “achosi niwed” i dri chlaf oedrannus trwy ddefnyddio grym diangen ar un dyn, cicio dyn hanner noeth sawl gwaith ar y llawr, a gorfodi meddyginiaeth ar ddynes oedrannus.
Nododd adroddiad panel yr NMC fod Robert Lang wedi dweud yn 2014 “ei bod yn ward anodd a bod staff o dan bwysau”.
Ond daeth Panel Addasrwydd i Ymarfer i’r casgliad fis diwethaf bod “camymddwyn” Mr Lang yn “ddideimlad, yn greulon ac yn amhroffesiynol”, gan ddangos “diffyg gofal llwyr”.
- Cyhoeddwyd3 Mai 2018
- Cyhoeddwyd8 Mai 2018
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2018
Dywedodd teulu un o’r cleifion wrth BBC Cymru eu bod yn “falch” bod Mr Lang wedi cael ei atal rhag gweithio fel nyrs eto, gan ychwanegu “mae’n fymryn bach o gyfiawnder”.
Clywodd pwyllgor yr NMC sut roedd y nyrs wedi plygu pen-glin arthritig claf yn “ffyrnig” wrth ei helpu i mewn i gadair olwyn ym mis Mehefin 2013, gan achosi iddo sgrechian mewn poen.
Fe glywon nhw hefyd fod Mr Lang wedi cicio claf dementia oedd wedi cropian ar y llawr i mewn i swyddfa yn gwisgo pad anymataliaeth yn unig yn 2012/13
Disgrifiodd cydweithiwr sut roedd Mr Lang wedi dweud wrth y claf i adael, ond gan nad oedd y claf yn gallu deall, fe wnaeth y nyrs ei gicio i ffwrdd.
“Roedd fel y byddech chi'n cicio bocs neu wrthrych i'w symud,” meddai'r cydweithiwr.
“Roedd yn ddigon caled i’r [claf] fod wedi teimlo ei fod yn cael ei gicio. Fe'i ciciodd ychydig o weithiau."
Daeth y panel i’r casgliad hefyd bod Robert Lang, a oedd wedi gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru ers 1983, wedi rhoi gorfodi meddyginiaeth yn groes i ewyllys claf ym mis Hydref 2013.
Gwnaeth hyn trwy wthio cadair y claf yn ôl ar ei goesau cefn a gwthio chwistrell i geg y claf.
Dywedodd cydweithiwr gwahanol wrth y pwyllgor: “Roedd hi’n pesychu ac yn poeri. Roeddwn i wedi dychryn.
"Fe wnaeth Robert barhau i wthio’r meddyginiaethau i lawr ei gwddf, a’r ffordd roedd hi’n pesychu a phoeri, mae’n debyg nad aethon nhw lle roedden nhw i fod.”
Dywedodd perthynas wrth BBC Cymru fod Mr Lang wedi trin cleifion yn “annynol” ac nad oedd “yn ffit i fod yn nyrs”.
Daeth panel yr NMC i’r casgliad y byddai ymddygiad Mr Lang yn cael ei ystyried yn “warthus” a’i fod yn gyfystyr â chamymddwyn.
Dywedodd yr adroddiad fod Mr Lang wedi dweud wrth yr NMC ym mis Ionawr 2023 nad oedd ganddo ddiddordeb mewn ymgysylltu â’u proses ddisgyblu ac nad oedd ganddo unrhyw fwriad i ddychwelyd i nyrsio.
Cafodd ei gyfeirio at yr NMC yn 2014 gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar ôl iddynt ei atal o’i waith yn dilyn ymchwiliad i arferion ar y ward.
Mae gwasanaethau iechyd meddwl wedi bod o dan y chwyddwydr ers hynny, ond y gred ydy mai Mr Lang ydy’r aelod cyntaf o staff i gael ei dynnu oddi ar gofrestr mewn cysylltiad â’r digwyddiadau yn ward Tawel Fan.
Dywedodd Carol Shillabeer, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Roedd ymddygiad Mr Lang yn ofnadwy.
"Fe gymrodd fantais o’i safle fel gweithiwr iechyd ac ar ran y bwrdd iechyd rwy’n ymddiheuro am y loes sylweddol mae cleifion a theuluoedd wedi ei brofi oherwydd ei ymddygiad.”
Ychwanegodd fod "y pryderon yn destun ymchwiliadau gan yr heddlu yn ogystal ag archwiliadau allanol gan Donna Ockenden a'r Health and Social Care Advisory Service (HASCAS), ac yn dilyn hynny digwyddodd proses ddisgyblu mewnol, ac nid yw Mr Lang yn gweithio i’r bwrdd iechyd bellach".
"Ers y cyfnod yma mae prosesau wedi eu hadolygu, newid wedi ei gyflwyno ac mae’r bwrdd yn dal wedi ei ymrwymo’n llwyr i ddiogelwch yr holl gleifion yn ein gofal,” meddai Carol Shillabeer.
Pam gymrodd hi 10 mlynedd?
Wrth egluro pam fod y broses ddisgyblu wedi cymryd 10 mlynedd dywedodd Paul Johnson o'r NMC: “Mae’n ddrwg gennym fod yr achos hwn wedi cymryd mor hir.
"Gall achosion addasrwydd i ymarfer fod yn gymhleth gyda nifer o ffactorau’n effeithio ar yr amser mae’n ei chymryd i gyrraedd penderfyniad.
“Gall hyn gynnwys cyfnodau hir o oedi wrth aros am ymchwiliadau cyrff eraill, neu gasglu llawer o wybodaeth a thystiolaeth dros gyfnod hir.”