Yr hwyliwr ifanc sy'n anelu at gystadlu ar y lefel uchaf

Steffan WilliamsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Steffan Williams gyda'i fedal aur ar ôl ennill pencampwriaeth ranbarthol Hwylio Ieuenctid Prydain yn ddiweddar

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen 15 oed o Geredigion wedi ychwanegu pencampwriaeth hwylio arall i'w restr o lwyddiannau.

Fe enillodd Steffan Williams o Gei Newydd Bencampwriaeth Rhanbarthol Hwylio Ieuenctid Prydain yn nosbarth hwylio Topper yn ddiweddar.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth i hwylwyr ifanc Cymru yn Dale, Sir Benfro - cystadleuaeth dros ddeuddydd sy'n cynnig llwyfan i dalent ifanc ddisgleirio a chystadlu ar y lefel uchel.

Mae Steffan, sydd eisoes yn Bencampwr Topper Cymru ers mis Medi y llynedd, nawr wedi ychwanegu at ei gwpwrdd medalau.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mi fydd Steffan yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Topper Prydain yn Weymouth yn yr haf, ac mae'n "anelu am fod yn y top 5."

'Penwythnos go heriol'

Mae'r disgybl Blwyddyn 10 yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul yn aelod o Glwb Hwylio Cei Newydd ac yn gwirfoddoli gyda Chwaraeon Dŵr Bae Ceredigion.

Roedd wrth ei fodd yn dod i'r brig dros Gymru yn ei gystadleuaeth ddiweddaraf.

"Roedd o bach o sialens ar y diwrnod cynta'," dywedodd.

"Ro'n i wedi methu â hwylio am fis achos arholiadau, ac felly, ro'n i angen dod i arfer eto. Ro'n i'n iawn erbyn yr ail ddiwrnod."

Roedd yn cystadlu yn erbyn 14 arall mewn wyth ras dros y ddau ddiwrnod.

"Roedd hi’n benwythnos go heriol - doedd dim lot o wynt ar y ddau ddiwrnod. Roedd 'na donnau ond fawr o wynt."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Steffan gyda'i dlws a'i fedal am ennill Pencampwriaeth Topper Cymru fis Medi diwethaf

Fe ddechreuodd hwylio yn wyth oed ond dim ond yn gymharol ddiweddar, ers Pasg 2023, mae Steffan wedi bod yn cystadlu.

Dywedodd ei fam, Kate Williams: "Mae Steffan dal i ddysgu ond mae ganddo'r agwedd cywir, positif. Mae'n cystadlu yn erbyn rhai sydd wedi bod wrthi ers blynyddoedd.

"Mae wedi arfer hwylio ar y môr ond mae llynoedd yn wahanol."

'Gymaint o hwyl'

Meddai Steffan: "Mae hwylio ar lyn lot yn anoddach, achos mae'r tirlun yn 'neud i'r gwynt shiffto rownd."

Mae wedi cael ei ddewis i dreulio'r penwythnos hwn yn Weymouth er mwyn derbyn hyfforddiant gan dîm Prydain.

Mae eisoes yn sgwad Topper Cymru ac yn derbyn hyfforddiant misol mewn lleoliadau ar draws Cymru - ym Mhort Talbot, Dale a Phwllheli.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Steffan gyda chyd-aelodau o sgwad Cymru a'u hyfforddwyr

Dywedodd: "Mae 'na rywbeth am fod ar gwch drwy'r amser - mae'n gymaint o hwyl, a dwi'n gystadleuol hefyd!

"Dwi'n 'neud lot o ffrindiau ar ôl yr hwylio hefyd, gyda'r nos.

"Mi fydda' i'n cystadlu ym Mhencampwriaeth Topper Prydain yn Weymouth yn yr haf, a dwi'n anelu am fod yn y top 5."

Môr yn y gwaed

Yn byw mor agos i'r môr yng Nghei Newydd, mae Steffan wedi arfer caiacio a hwylfyrddio.

Roedd ei dad-cu hefyd yn hwylio celfad, felly mae hwylio yn y gwaed.

"Fi’n cofio mynd mas efo fe ers yn ddwy oed - bach o bysgota a chael hwyl," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, RNLI
Disgrifiad o’r llun,

Steffan yn derbyn ei fathodyn aur Blue Peter gan aelodau'r RNLI yng Nghei Newydd pan roedd yn 12 oed

Mae Steffan hefyd yn cefnogi’r RNLI yn lleol ac wedi codi £2,000 drwy badlfyrddio 10 milltir mewn diwrnod pan roedd yn 12 oed.

Fe dderbyniodd fathodyn aur Blue Peter am achub tri pherson oedd yn gaeth ar greigiau yng Nghei Newydd, ac yna am alw am help pan roedd dau fachgen yn gaeth yn yr un lle ychydig ddyddiau’n unig yn ddiweddarach.

Roedd yn wyth oed ar y pryd.

Anelu am yr Olympau

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Steffan yn anelu at gyrraedd y Gemau Olympaidd yn 2028 ac yn dweud y "bydde mor cool i allu cystadlu yn erbyn y gorau'n y byd."

Ddiwedd yr haf, fe fydd yn newid o hwylio Topper i gwch Ilca, sydd yn dipyn mwy heriol.

Dywedodd Kate Williams: "Mae'n gwneud yn rili dda. Mae bron yn top 10 Prydain, ac mae'n anelu am Gemau Olympau 2028."

Mae Steffan mewn cysylltiad ar y cyfryngau cymdeithasol gyda Micky Beckett o Solfach, sy'n cystadlu yn nhîm Prydain yn yr Olympau'r haf hwn.

"Fi ‘di gofyn iddo am gyngor pa gwch i symud iddo, un ai cwch Ilca i ddau neu cwch i un. Mae o'n hwylio Ilca i un, a dyna dwi am neud hefyd.

"Fi’n mynd yn rhy hen i gwch Topper. Mae angen i mi symud i gwch mwy. Mae Ilca yn Olympic class, felly mi fydde'n grêt dilyn Micky Beckett i'r Olympau y tro nesaf.

"Mi fydde mor cool i allu cystadlu yn erbyn y gorau'n y byd.

"Mae pedair blynedd yn bach o stretch ond fi'n teimlo fi'n gallu neud e.

"Diolch byth, mae calendr hwylio Ilca yn gweithio rownd gwaith TGAU!"

Pynciau cysylltiedig