Tân yn dal i achosi trafferthion i deithwyr trên y de ddwyrain

Trên yng ngorsaf Caerdydd CanologFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r trafferthion barhau tan ddiwedd y dydd

  • Cyhoeddwyd

Mae gwasanaethau trên yn dal i gael eu heffeithio ddydd Mawrth yn dilyn tân rhwng Caerdydd a Chasnewydd dros y penwythnos.

Cafodd rhywfaint o geblau a signalau eu difrodi yn y tân mewn is-orsaf drydan ger Llansanffraid Gwynllŵg brynhawn Sul.

Ni fydd rhai gwasanaethau ar gael i deithwyr ddydd Mawrth, tra bod disgwyl i deithiau eraill wynebu oedi wrth i'r gwaith o drwsio'r ceblau trydan barhau.

Mae gwasanaethau yn lle trên yn cael eu trefnu, ac mae disgwyl i'r trafferthion barhau tan ddiwedd y dydd.

Mae modd gwirio'r amserlenni diweddaraf ar wefannau Trafnidiaeth Cymru, dolen allanol a Great Western Railway., dolen allanol