Cofio Dorothy Jones, yr athrawes 'ysbrydoledig' o Langwm

Dorothy JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Yn wreiddiol o ardal Trawsfynydd, symudodd Dorothy Jones i Langwm yn y 1950au

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r gyn-athrawes a hyfforddwraig "ysbrydoledig", Dorothy Jones, a fu farw yn 90 oed yn ddiweddar.

Bu'n athrawes yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy am nifer o flynyddoedd, a hefyd yn hyfforddi cenedlaethau o bobl ifanc ardal Llangwm, Sir Conwy ar gyfer eisteddfodau o bob math.

Dywedodd ei theulu ei bod yn credu'n gryf mewn "meithrin talent a throsglwyddo'r un cariad at iaith i'r to iau", a bod "eisteddfodau bach a mawr yn rhan ganolog o'i bywyd".

Yn 2013, derbyniodd Medal Goffa T H Parry Williams am ei chyfraniad gwirfoddol yn ardal Llangwm.

Yn wreiddiol o Lawr-plwyf, Trawsfynydd, symudodd i Langwm yn 1955 fel athrawes ifanc, ac yna bu'n bennaeth Adran Anghenion Arbennig Ysgol Glan Clwyd.

Roedd yn rhan greiddiol o Adran, Uwchadran ac Aelwyd yr Urdd yn Llangwm ac yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o baratoi'r rhaglen weithgareddau flynyddol - yn ogystal â hyfforddi unigolion a phartïon ar gyfer eisteddfodau.

'Diolch Anti Dorothy'

Un a gafodd ei hyfforddi gan Dorothy Jones yn Aelwyd Llangwm oedd Andrea Parry, a ddywedodd na fyddai "wedi cael yr hyder i sefyll ar lwyfan a chael yr holl brofiadau ym myd llefaru a thu hwnt" heb ei chefnogaeth.

"Mae fy nyled yn enfawr i Dorothy Jones am rannu efo mi ei chariad at eiriau a thrwy ei harweiniad a'i harbenigedd mi gefais fy rhoi ar ben ffordd efo degau o ddarnau barddoniaeth a rhyddiaith."

Ychwanegodd mai "Anti Dorothy oedd hi i mi... yn perthyn 'run diferyn o waed i mi ond yn ymgorfforiad perffaith o gadernid, gwybodaeth, gofal a gwreiddiau".

"Dawn dweud naturiol, dim giamocs diangen a hithau yn angerddol dros ddiwylliant, pobl ifanc, a'i hardal.

"Roedd mynd draw am ymarfer yn gyfuniad o roi'r byd yn ei le yn ogystal â thrafod y darnau llefaru ac mae ei chyfraniad i'r Aelwyd... boed hynny yn Aelwyd yr Urdd Llangwm, aelwyd ei chartref a'i theulu ac aelwyd Gymraeg yn amhrisiadwy.

"Diolch Anti Dorothy."

Dorothy JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dorothy yn derbyn Medal Goffa T H Parry Williams yn 2013

Mewn datganiad, dywedodd ei theulu bod Dorothy Jones "wrth ei bodd yng nghwmni plant o bob cefndir a gallu, a dotiai ar eu llwyddiant".

Yn ei gwaith fel athrawes yng Nglan Clwyd bu'n creu sioeau cerdd yr ysgol ac "uchafbwynt blynyddol iddi oedd gwasanaeth Nadolig y Gadeirlan a hithau wedi cyfansoddi rhai o'r carolau gyda'r diweddar Gilmour Griffiths".

"Mae'n sicr iddi hyfforddi cenedlaethau o blant ac ieuenctid, credai mewn meithrin talent a throsglwyddo'r un cariad at iaith i'r to iau.

"Bu eisteddfodau bach a mawr yn rhan ganolog o'i bywyd."

Ychwanegodd: "Fe'i hurddwyd i'r Orsedd yn 2005, derbyniodd Dlws Coffa Eurig Wyn, Y Faner Newydd ac yna Medal Syr T H Parry-Williams yn 2013, oedd meddai hi, yn 'fraint fwya' mywyd'.

"Doedd hi ddim ofn mynegi ei barn ac roedd gwarchod y 'Pethe' o'r pwys mwyaf iddi.

"Byddai'n llawn egni ac wrth ei bodd allan. Yn ddyddiol – hyd yn oed yn ei 80au byddai'n cerdded i'r topie a rhedeg i lawr nôl 'i brofi i mi fy hun mod i'n dal i fedru!'"

'Ei chyfraniad hi yn fawr iawn'

Dywedodd Bethan Smallwood, arweinydd Côr Meibion Llangwm mai Dorothy Jones oedd ei hathrawes gyntaf yn Ysgol Gynradd Llangwm, a wnaeth "gyflwyno ni i farddoniaeth gorau Cymru a dwi'n cofio'r gwersi arbennig efo hi".

"Roedd hi wedi chwarae rhan allweddol yn oll weithgareddau'r Urdd yma yn Llangwm trwy ei hoes...

"Mi oedd adran Aelwyd yr Urdd wastad yn agos at ei chalon hi drwy'r holl flynyddoedd, roedd hi'n hyfforddi partïon adrodd bob blwyddyn ar gyfer yr Urdd yn ddi-feth."

Dywedodd bod y gymuned "wastad yn gallu dibynnu ar ei chefnogaeth hi i holl ddigwyddiadau diwylliannol yn Llangwm", a'i bod yn "teimlo bod ni yma yn Llangwm a Chymru gyfan wedi colli person arbennig iawn a'i dylanwad hi yn bellgyrhaeddol".

"Roedd ei chyfraniad hi yn fawr iawn."

Pynciau cysylltiedig