Diwrnod cofio VE: 'Daeth ddim un ohonyn nhw yn ôl'

Evan Arthur Davies
- Cyhoeddwyd
Ganwyd John Davies, y pensaer o Langeitho, yn 1943. Pythefnos wedi ei enedigaeth cafodd ei dad, y peilot Evan Arthur Davies, ei ladd wrth ymosod ar longau tanfor Almaenig yn Lorient.
Deunaw mlynedd wedi ei farwolaeth mi wnaeth John a'i deulu ddarganfod beth oedd wedi digwydd iddo fe a'i griw ar y noson olaf hynny.
Ar ddiwrnod cofio VE mae John wedi rhannu stori ddirdynnol ei dad gyda Cymru Fyw. Gallwch hefyd glywed y stori ar raglen Beti a'i Phobol ar Radio Cymru.

Evan Arthur Davies yn hedfan Lancaster VN-Q 50 Squadron RAF allan o Skellingthorpe ger Lincoln yn 1942.
Yn yr Ail Ryfel Byd roedd fy nhad yn beilot yn yr RAF ac yn hedfan Lancaster o tu fas i Lincoln.
Pan oedd Mam (Elizabeth Davies) yn cael fi, daeth hi'n ôl i Benbre at ei rhieni achos oedd fy nhad yn hedfan lot ac o dan straen mawr. Dywedodd Mam fod yn well gyda'r bois oedd yn hedfan fod ar y maes awyr gyda'i gilydd - byw yn y byd od 'na a mynd mas ddwywaith, dair gwaith bob wythnos. A ddim yn gwybod os o'n nhw'n dod nôl neu beidio.
Oedd Dad yn hedfan ac yn ymosod dros Dusseldorf y nosweth ges i'n ngeni, sef 27 Ionawr 1943. Fe gafodd newyddion fy ngenedigaeth pan ddaeth e nôl ac fe brynodd gwrw i bob un o'r squadron oedd yn hedfan y nosweth hynny.
Roedd maes awyr ym Mhenbre ar y pryd, hyfforddi o'n nhw'n gwneud mwyaf yno. Ond daeth fy nhad lawr i flight testo'r Lancaster newydd oedd e'n hedfan ar 29 Ionawr, a gath e weld fi. Y tro cyntaf a'r tro ola'.
Cafodd fy nhad ei ladd ar 13 Chwefror 1943, 17 diwrnod ar ôl fy ngenedigaeth a'r nosweth cyn ei bedwerydd pen-blwydd priodas.
Telegram
Aeth rhyw chwe mis heibio cyn i fy mam wybod yn iawn fod e wedi ei ladd. Oedden nhw'n cael telegram y diwrnod nesaf ac roedd pawb yn ofn y telegram. Achos dim ond un peth oedd e'n dweud, sef Missing. 'Na gyd oedd e'n dweud.
Drwy'r Groes Goch dyma nhw'n cael y wybodaeth mewn rhyw chwe mis fod fy nhad wedi cael ei gladdu yn Gavres yn Llydaw.
Roedd e'n gyfnod anodd iawn i'r teulu. A cholles i lot o bwysau. Fel babi, o'n i'n rhyw saith pwys a hanner pan ges i'n ngeni. Erbyn y Pasg o'n i'n rhyw bedair pwys. Wedodd Mam fod hi wedi ffaelu a rhoi digon o fwyd i fi yr adeg hynny.

Elizabeth Davies yn 1939
Ymweld â'r bedd
Oedd y rhan 'na o Lydaw yn bell yr adeg hynny ac yn anodd iawn i gyrraedd. Ond dwi'n falch bod e wedi ei gladdu fan 'na achos maen nhw'n gofalu am ei fedd e hyd heddiw.
Pan ges i drwydded gyrru yn 18 mlwydd oed aethon ni mas i weld y bedd, Mam a'i chwaer, fy annwyl modryb Lyn, a finnau.

'Mam a fi': John gyda'i fam
Ac ro'n i'n sefyll ar bwys y bedd pan ddaeth foneddiges weddw ata ni a gofyn os o'n i'n nabod rhywun yn y bedd. A wedes i mai fy nhad oedd y peilot. Dywedodd hi wedyn fod rhywun yn y pentre' am gwrdd â ni.
Ac aethon ni lawr i'r pentre' pysgota bach yma oedd yn llawn bythynnod bach. Ac aethon ni i un ohonyn nhw. A dechreuodd ei ffrind hi siarad yn glou yn nhafodiaith Llydaw. Roedd hi'n amhosib deall beth oedd hi'n ddweud.
Daeth ei merch hi mewn ac oedd hi'n siarad Ffrangeg cyfoes. A dechreuodd hi ddweud fod fy nhad yn ymosod ar Lorient y noson cafodd ei ladd. Roedd Gavres ochr draw y bae i Lorient, lle roedd porthladd llongau tanfor Almaenig oedd yn mynd mas i'r Atlantic.
A dywedodd hi bod y pentrefwyr mas yn edrych draw i'r bae ac wedi gweld yr awyrennau yn dod mewn. Doedd dim dynion yn y pentre' ar y pryd achos roedd yr Almaenwyr yn meddwl efallai byddai'r ymosodiad yn dod so o'n nhw wedi symud bob dyn mas o oed 15 i 60. Felly dim ond bechgyn, menywod a hen ddynion oedd yna.
A welodd hi awyren fy nhad yn mynd i lawr yn y môr.
Sioc
Ac wedyn gathon ni'r sioc fwyaf. Achos dywedodd hi bod pump o'r dynion o'r awyren wedi dod i'r traeth mewn dingi rwber. Roedd wyth yng nghriw yr awyren y nosweth hynny felly roedd tri ar goll rhywle.
Roedd Mam eisiau gwybod os oedd fy nhad wedi cael ei anafu. Gofynnais i'r cwestiwn a dywedodd y fenyw fod e'n gorwedd ar waelod y dingi fel petai'n cysgu. Oedd fy nhad wedi darfod yn barod.
Roedd tri arall heb niwed ond roedd yr un ifanc, sef William Hogg o Ganada, wedi cael ei anafu yn wael dros ben. Buodd e fyw am rhyw 20 munud cyn marw ar y traeth.
Wedyn daeth yr Almaenwyr. Dywedon nhw, 'claddwch rhain, awn ni bant â'r lleill'. A dyna beth ddigwyddodd. Felly boneddiges o'r pentre' gladdodd fy nhad a William Hogg, ei ffrind ac aelod o'i griw.

Bedd Evan Arthur Davies a'i gyfaill William Hogg
Dywedodd hi'r bore nesaf fod y tri dyn (oedd ar y dingi ond heb anafu) wedi dod heibio'r fynwent ond wedi cael eu martsio bant gan yr Almaenwyr.
Y peth mwya' trist yw daeth ddim un ohonyn nhw yn ôl.
Mae'n amlwg bod nhw wedi eu lladd gan yr Almaenwyr. Does dim syniad ble maen nhw wedi cael eu claddu ac efallai bod nhw wedi eu llosgi.
Does dim pwynt edrych yn ôl. Mae rhyfel yn beth ofnadwy.
Gwrandewch ar stori John Davies ar Beti a'i Phobol ar Radio Cymru.

Evan Arthur Davies
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd1 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd8 Mai 2020