'Doedd gen i ddim dewis ond mynd i'r pwll glo' yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Mae Emrys Hughes yn dweud ei fod "yn gwybod dim byd am y pwll glo" pan gafodd ei anfon yno i weithio
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emrys Hughes yn dweud ei fod "yn gwybod dim byd am y pwll glo" pan gafodd ei anfon yno i weithio

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymro gafodd ei anfon i weithio mewn pwll glo yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn dweud "nad oedd eisiau bod yna" ond nad oedd ganddo ddewis.

Roedd Emrys Hughes, sy'n 98 oed, yn gobeithio ymuno â'r llu awyr, ond roedd yn un o'r miloedd o fechgyn a dynion gafodd eu gorfodi i fynd i'r pyllau glo.

Roedden nhw'n cael eu hadnabod fel 'Bechgyn Bevin'.

Dywedodd: "Doedd ganddoch chi ddim dewis ond mynd i'r pyllau glo a dyna ddigwyddodd i fi yn anffodus.

"O'ddach chi'n registro ac os o'dd y number yn gorffen efo 5 neu 0, o'dd rhaid i chi fynd lawr i'r pwll glo.

"Be' o'n i ddim yn dallt oedd pam bod y miners eu hunain 'di cael eu gyrru i'r lluoedd arfog a gyrru ni yn eu lle nhw, yn gwybod dim byd am y pwll glo."

Yn wreiddiol o Rostryfan yng Ngwynedd, mae Emrys bellach yn byw gyda'i wraig, Pauline, yn Llanfairpwll ar Ynys Môn.

Roedd bechgyn a dynion yn cael eu hanfon i'r pyllau gan fod glo yn cael ei ddefnyddio i bweru ffatrïoedd oedd yn cynhyrchu arfau.

Roedden nhw'n gwneud gwaith glowyr oedd wedi mynd i ymladd, ond roedd nifer yn meddwl bod y dynion gafodd eu hanfon i'r pyllau glo yn ceisio osgoi mynd i ryfel.

"O'dd gweld fy ffrindiau i gyd yn mynd i'r fyddin neu'r llu awyr a minnau yn mynd i fanna [y pwll glo], o'dd pawb yn meddwl bo' chi'n conscientious objector," meddai Emrys Hughes.

Emrys Hughes a'i wraig, Pauline, yn edrych ar ddogfennau o'i gyfnod yn y pwll glo
Disgrifiad o’r llun,

Emrys Hughes a'i wraig, Pauline, yn edrych ar ddogfennau o'i gyfnod yn y pwll glo

Rhwng 1943 a 1948, bu'n gweithio ym mhwll glo Llai yn Wrecsam ac mae'n dweud nad oes ganddo lawer o atgofion o'i gyfnod yn y pwll.

"O'dd o'n sioc ofnadwy mynd lawr tro cynta ac oedd o reit ddyfn. Oeddan ni'n mynd lawr tua mil o droedfeddi.

"Oeddach chi mond yn mynd i gwaith, mynd adra a wedyn gwely a wedyn codi am 5 y bore neu pa bynnag shifft oeddach chi, yr un fath oedd o drwy'r amser 'de," meddai.

Dywedodd bod y gwaith yn heriol a bod "rhywun yn brifo neu wbath o hyd".

'Brechdan yn ddu'

Ei waith dyddiol yn y pwll oedd "llenwi'r trycs efo glo a'u pushio nhw at y lifft".

"O'dd digon o lwch yna a doedd gynnoch chi ddim masg adeg yna. Oeddach chi'n mynd â brechdan efo chi ac oeddach chi'n agor y bocs ac oeddan nhw gyd yn ddu.

"Oeddach chi'n cael shower cyn mynd adra... oeddach chi'n falch o gael dŵr drostach a chael dod fyny i'r awyr agored."

Mae'n cyfaddef ei fod o "isho mynd adra... ond mi nes i aros a dod adra bob chwe wythnos i gael dillad glân".

Emrys yn gael badge Bechgyn BevinFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Emrys (chwith) yn derbyn ei fathodyn Bechgyn Bevin i nodi ei gyfraniad i'r Ail Ryfel Byd

Er hynny, mae gan Emrys Hughes atgofion melys o'i gyfnod yn aros gyda theulu yn Rhosllanerchrugog yn ystod y blynyddoedd y bu'n gweithio yn y pwll.

Dywedodd: "O'dd dau ohonan ni yna - fi a Bertwin o Llandwrog - ac o'ddan ni yn ysgol efo'n gilydd.

"O'ddan ni'n mynd i Capel Mawr, Wrecsam a weithiau o'ddan ni'n mynd i'r institute a chwarae billiards yn y nos."

Llyfr dogni Emrys Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Bu Emrys Hughes yn byw gyda theulu yn Rhosllanerchrugog tra'r oedd yn gweithio yn y pwll glo yn Llai

Gyda digwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws Cymru yr wythnos hon i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VE, mae Emrys yn cofio'r digwyddiadau ar y pryd i ddathlu diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop.

"Mi'r oedd partïon yn bob pentre', baneri yn bob man a phobl yn cael panad o de yma ac acw, a felly o'dd hi drwy Gymru i gyd."

Dywedodd ei fod yn "falch o gael dod adra" a bod ei gyfnod yn y pwll glo wedi dod i ben.

Llun cyffredinol o fechgyn yn y pwll gloFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd miloedd o fechgyn a dynion eu hanfon i weithio yn y pwll glo yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Yn wahanol i'r rhai oedd yn gwasanaethu gyda'r fyddin, bu'n rhaid i nifer o lowyr aros yn y pyllau glo tan 1948.

Doedd dim pensiwn milwrol na sicrwydd y gallwn nhw ddychwelyd i'w swyddi blaenorol.

Ond cafodd Emrys swydd fel gyrrwr bws a bu'n gwneud hynny am 65 o flynyddoedd.

Bathodyn Bechgyn Bevin
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i ddynion fel Emrys Hughes aros tan 1995 i gael cydnabyddiaeth swyddogol o'u cyfraniad i'r rhyfel

Doedd dim cydnabyddiaeth swyddogol gan Lywodraeth y DU o waith Bechgyn Bevin tan 1995 ac roedd hynny'n "bwysig iawn" yn ôl Emrys.

"Mae'n dangos ein bod ni wedi gwneud rhywbeth yn ystod y rhyfel," meddai.

"Doedd ganddon ni ddim medalau ond heb ein gwaith ni, fyddai dim glo ar gyfer y ffatrïoedd."

Ond mae Emrys yn poeni fod "pobl wedi anghofio" yr hyn wnaethon nhw.

"Faint sy'n cofio fo rŵan? Ychydig iawn sy'n cofio ond mae'n bwysig."

Pynciau cysylltiedig