Rhodd £2m i adfer Hen Lyfrgell Caerdydd

Cynllun y CBCDC ar gyfer yr Hen LyfrgellFfynhonnell y llun, CBCDC
Disgrifiad o’r llun,

Darlun o gynllun Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer yr Hen Lyfrgell, sy'n cynnwys ardal perfformio tu allan

  • Cyhoeddwyd

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) wedi derbyn rhodd o £2m gan y dyn busnes Syr Howard Stringer ar gyfer eu hymgyrch i adfer Hen Lyfrgell Caerdydd.

Cafodd Howard Stringer ei eni yng Nghaerdydd ond mae wedi treulio'r rhan fwyaf o'i fywyd yn yr Unol Daleithiau, gan weithio fel cadeirydd y Sony Corporation a llywydd newyddion CBS.

Yn ddiweddar cafodd y llyfrgell ei throsglwyddo o ofal Cyngor Caerdydd i'r coleg am gyfnod o 99 mlynedd.

Mae CBCDC nawr yn ceisio codi cyfanswm o £12m ar gyfer prosiect i adfer y llyfrgell.

'Prifddinas greadigol a diwylliannol'

Rhwng rhodd Howard Stringer a'i wraig a chyfraniad gan Sefydliad Mosawi, mae £3m eisoes wedi'i godi.

Mewn datganiad dywedodd CBCDC mai nod y prosiect yw dychwelyd yr adeilad "i'w genhadaeth wreiddiol fel man cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau ac addysg".

Y gobaith yw cwblhau'r cynllun dros gyfnod o bum mlynedd.

Ffynhonnell y llun, CBCDC
Disgrifiad o’r llun,

Bu Syr Howard a'i wraig, y Fonesig Stringer, yn y llyfrgell er mwyn dadorchuddio plac stiwdio newydd

Dywedodd Howard Stringer bod y coleg cerdd a drama "wedi bod yn gonglfaen i ddiwylliant Cymru ers tro".

"Mae troi’r llyfrgell hardd a hanesyddol yn stiwdios rihyrsal ac ystafelloedd dosbarth yn ehangu presenoldeb y Coleg i gymuned ehangach, drwy berfformio ac ymgysylltu â’r cyhoedd tra’n sicrhau ymhellach ei rôl bresennol ac yn y dyfodol fel arweinydd yn natblygiad y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru."

Mewn datganiad dywedodd CBCDC ei bod yn gobeithio "datblygu ei weledigaeth i ddatblygu ymgysylltiad cyhoeddus arloesol, meithrin talent y dyfodol a grymuso rhagoriaeth yn ei holl ffurfiau o galon prifddinas Cymru".

Ychwanegodd cyfarwyddwr cerdd CBCDC, Tim Rhys Evans: “Mae anrheg o £2 filiwn yn gwneud shwt gymaint o wahaniaeth i ni, i wneud yn siŵr [fod] yr addysg ni’n rhoi i’n myfyrwyr ni yn world class a sicrhau dyfodol celfyddydau yng Nghymru.”

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae Caerdydd yn brifddinas greadigol a diwylliannol ac mae’r rhodd hynod hael hwn yn mynd â ni gam yn nes at ddod ag un o’i sefydliadau diwylliannol mwyaf arwyddocaol i ganol y ddinas."

Pynciau cysylltiedig