Ansicrwydd am ddyfodol Canolfan Gymraeg yr Hen Lyfrgell
- Cyhoeddwyd
Mae yna ansicrwydd am ddyfodol Canolfan Gymraeg yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd ar ôl i adroddiad argymell gwneud nifer o newidiadau yno.
Yn ôl yr adolygiad gan gwmni PHL Ventures, mae yna ddyfodol i'r ganolfan ond mae heriau yn ei wynebu.
Mae'n awgrymu bod angen mwy o arian ar y fenter, sefydlu gweledigaeth glir at y dyfodol ac ail sefydlu bwrdd rheoli i oruchwylio'r fenter.
Dywedodd Cyngor Caerdydd na fydda nhw'n rhoi mwy o arian i'r fenter.
Yn ôl Llywodraeth Cymru fe fydd yr holl ganolfannau iaith a sefydlwyd yn cael eu "gwerthuso maes o law", ond maen nhw'n mynnu mai mater i'r cyngor ydy'r adroddiad.
Angen cydweithio
Cafodd canolfan yr Hen Lyfrgell ei hagor ym mis Chwefror 2016 gyda'r bwriad o fod yn ganolbwynt i fywyd Cymraeg y brifddinas.
Er bod yr adroddiad wedi ei gyflwyno i'r cyngor ym mis Medi 2017, dim ond nawr y daw'n gyhoeddus.
Mae cadeirydd elusen yr Hen Lyfrgell yn beirniadu Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, gan eu cyhuddo o "olchi eu dwylo" gyda'r ganolfan.
Dywedodd Huw Onllwyn Jones bod y ganolfan wedi cael ei "thrafferthion" ond mynnodd bod yna "botensial yno".
Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl bod angen i'r cyngor dalu mwy o sylw i hwn a gweithio gyda ni er mwyn symud ymlaen".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai "mater i Gyngor Sir Caerdydd yw hwn".
"Rhoddwyd grant cyfalaf o £400,000 i Gyngor Caerdydd i sefydlu'r Ganolfan Gymraeg yn yr Hen Lyfrgell a pharatoi cynllun busnes ar gyfer sicrhau cynaliadwyedd y ganolfan i'r dyfodol. Cyflawnwyd amcanion y grant hynny yn 2015," meddai.
"Bydd yr holl ganolfannau iaith a sefydlwyd drwy'r grant yn cael ei gwerthuso maes o law."
Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd maen nhw wedi nodi ers 2015 nad oeddynt "mewn sefyllfa i roi cymhorthdal i'r fenter".
"Mae'n rhaid i'r Hen Lyfrgell ddod yn hyfyw yn ariannol cyn y gall symud ymlaen," meddai.
"Yn anffodus, nid yw'r disgwyliadau o ran y rhenti wedi'u bodloni hyd yma, ac mae'r cyngor wedi cymryd yr awenau er mwyn helpu Menter Caerdydd a'r Hen Lyfrgell Cyf i ganolbwyntio ar ddatblygu cynlluniau ar gyfer dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2017