Gall tegan a ddyluniwyd gan fenyw o Lanelli fynd i'r lleuad

Llun o ddyluniad o dri teganFfynhonnell y llun, Llawrydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae dyluniad Courtney John, 'y Gorffennol, y Presennol, a'r Dyfodol' yn cynrychioli undod

  • Cyhoeddwyd

Fe allai tegan newydd sydd am gael ei anfon i'r gofod gynnwys dyluniadau gan fenyw o dde-orllewin Cymru.

Mae Courtney John, sy'n 27 o Lanelli, yn rownd derfynol cystadleuaeth ddylunio Nasa.

Bydd masgotiaid yr enillydd yn cael eu hanfon gyda'r criw ar daith Artemis II i'r Lleuad er mwyn gweithredu fel dangosydd disgyrchiant sero (ZGI) - sy'n helpu gofodwyr sefydlu presenoldeb disgyrchiant ar wyneb y Lleuad.

"Rydw i bob amser wedi bod â diddordeb yn y gofod, a byddai'r cyfle i gael rhywbeth rydych chi wedi'i wneud i fynd i'r gofod yn anhygoel," meddai Courtney.

Mae Courtney'n un o 25 o bobl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Mae ei dyluniad o'r enw, 'y Gorffennol, y Presennol, a'r Dyfodol', yn cynnwys tri gofodwr yn dal dwylo mewn cylch.

Bydd y teganau'n gweithredu fel ZGIs sy'n cael eu defnyddio ar longau gofod i ddangos pryd maen nhw wedi cyrraedd pwynt o ddisgyrchiant sero.

Mae teganau'n effeithiol gan eu bod yn feddal ac yn ysgafn.

Dywedodd Courtney, sy'n ddylunydd graffeg, ei bod wedi ceisio creu dyluniad a oedd yn cynrychioli teithiau gofod o'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol gan ddathlu'r syniad o undod.

Mae un ffigwr ar ei dyluniad, sy'n cynrychioli'r gorffennol, yn gwisgo'r siwt ofod o daith Apollo 17 - sef y tro diwethaf i fodau dynol gamu ar y Lleuad ar 19 Rhagfyr 1972.

Mae un arall yn gwisgo siwt ofod criw Artemis II, sy'n cynrychioli'r presennol.

Mae gan y trydydd sy'n cynrychioli'r dyfodol glôb ar ei ben, ac mae negeseuon gan griw Artemis II i'w gweld ar ei gorff.

Llun o ofodwr ar y lleuadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy na hanner can mlynedd wedi bod ers i fodau dynol gamu ar y lleuad

Dywedodd Courtney ei bod "bob amser wedi bod â diddordeb yn y gofod".

Pe bai rhywbeth y mae hi wedi'i ddylunio yn mynd i'r Lleuad dyna fydd "cyflawniad mwyaf fy mywyd" meddai.

"Ond, mae hyd yn oed cael fy newis ar gyfer un o'r ymgeiswyr terfynol yn anhygoel," ychwanegodd.

Roedd mwy na 2,600 o geisiadau ar gyfer y gystadleuaeth, a oedd yn galw am gyflwyniadau yn cynrychioli dynoliaeth, natur archwilio ac ysbryd ymgyrch Artemis.

Mae disgwyl i'r enillydd gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig