Y lloeren gyntaf o Gymru i gael ei lansio i'r gofod eleni

  • Cyhoeddwyd
Render of satelliteFfynhonnell y llun, Space Forge
Disgrifiad o’r llun,

Bydd lloeren Space Forge yn cael ei lansio fel rhan o ymgyrch gan Virgin Orbit

Bydd y lloeren gyntaf o Gymru yn cael ei lansio i'r gofod yn ddiweddarach eleni.

Cafodd lloeren Space Forge ei hadeiladu yn ardal Tredelerch yng Nghaerdydd, a bydd yn cael ei lansio o Newquay yng Nghernyw.

Prawf fydd hwn, a'r flwyddyn nesaf mae'r cwmni yn gobeithio lansio'r lloeren gyntaf erioed fydd yn gallu dychwelyd i'r ddaear.

Mae'n rhan o ymgyrch gan Virgin Orbit, fydd yn gweld sawl lloeren yn cael ei yrru i'r gofod.

Ffynhonnell y llun, Space Forge
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Josh Western gyd-sylfaenu Space Forge gydag Andrew Bacon

Mae Space Forge wedi bod yn gweithio gyda chwmni Lumi Space mewn ymdrech i greu'r lloeren gyntaf fyddai'n gallu dychwelyd i'r ddaear a chael ei defnyddio eto.

Ni fydd y lloeren fydd yn cael ei lansio'n ddiweddarach eleni yn dychwelyd, ond y gobaith yw y bydd yn brawf ar gyfer lansiad o'r fath y flwyddyn nesaf.

Fe wnaeth prif weithredwr Space Forge, Joshua Western, greu'r cwmni yn 2018, gan fynd yn llawn amser yn 2020 - yr wythnos aeth y DU i'r cyfnod clo cyntaf.

Wedi llwyddiant cychwynnol, fe wnaeth y cwmni symud i safle mawr yn nwyrain Caerdydd y llynedd.

Ffynhonnell y llun, Space Forge
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni wedi tyfu o ddau aelod o staff i 40 o fewn ychydig dros ddwy flynedd

"Am 13 mis roedden ni'n gweithredu heb adeilad - yn gyrru nwyddau o amgylch Ewrop i'n staff weithio arnyn nhw," meddai Mr Western.

"Wnaethon ni ddim cwrdd rhai ohonyn nhw am chwech neu saith mis.

"Ym Mawrth 2020 roedd gennym ni ddau aelod o staff. Nawr mae gennym ni 40 llawn amser, oll yn gweithio yng Nghaerdydd."

Mae Space Forge yn rhagweld y bydd y lloeren gyntaf wedi'i chwblhau erbyn diwedd y mis, ac yna bydd yn cael ei yrru i Gernyw er mwyn cael ei lansio i'r gofod.

Pynciau cysylltiedig