Oes gan Elis James gysylltiad gyda phob person o Gymru?

"Mae pob person o Gymru, dwi'n credu, eisiau cysylltu gyda phobl eraill," meddai Elis James
- Cyhoeddwyd
Mae'n hen ystrydeb fod Cymry yn perthyn neu'n adnabod ei gilydd ac mae'r comedïwr Elis James yn ceisio darganfod os yw hynny'n wir.
Fel rhan o'i bodlediad 'Elis & John' ar BBC Sounds, mae'r comedïwr a'r cyflwynydd o Gaerfyrddin yn cael ei gyflwyno i berson o Gymru ac mae ganddo 60 eiliad i ddod o hyd i rywun y mae'r ddau yn eu hadnabod.
Dywedodd bod hynny "ar sail y ffaith fod pob person o Gymru, dwi'n credu, eisiau cysylltu gyda phobl eraill".
"Mae Cymru'n wlad mor fach ond hefyd mae'n wlad o bentrefi a threfi bach," meddai.
"Does dim lot o ddinasoedd mawr yng Nghymru so ni gyd yn 'nabod ein gilydd, yn enwedig os chi'n siarad Cymraeg."
Mewn dros 50% o achosion mae Elis yn canfod cysylltiad o ryw fath o fewn 60 eiliad, sy'n cefnogi'r awgrym bod y rhan fwyaf o Gymry yn 'nabod ei gilydd.

Mae Elis James (dde) yn cyflwyno podlediad gyda'r digrifwr John Robins
Dechreuodd y cyfan ym mis Gorffennaf 2024.
Tra'n cyd-gyflwyno ei bodlediad gyda'r digrifwr John Robins, dywedodd Elis fod dyn o'r enw Dave o Tokyo wedi ffonio'r sioe, oedd yn wreiddiol o Aberystwyth.
"O fewn tua 10 eiliad, nes i enwi bwyti 30 person o'n i'n 'nabod yn Aber a o'dd e'n 'nabod tua 28 o' nhw," meddai Elis.
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd16 Medi 2015
- Cyhoeddwyd28 Medi 2022
Eglurodd bod "y cynhyrchydd wedi sylwi o'dd rywbeth yn y ffaith bod Cymry yn trio cysylltu gyda'n gilydd, felly ni 'di troi e mewn i eitem nawr sy'n rhan fawr o'r sioe" o'r enw y 'Cymru Connection'.
"Fi'n credu, yn enwedig y gwrandawyr o Gymru, bod pobl yn gallu uniaethu gyda fe," meddai.
Y person cyntaf i ffonio oedd James o Langollen, ac fe wnaeth Elis ddarganfod bod gan y ddau ohonyn nhw gysylltiad gyda'r cefnogwr pêl-droed Thomas Wynne Lewis, neu 'Tomi Caws'.
Drwy ofyn cwestiynau fel lle aethon nhw i'r ysgol, eu hoed, a hyd yn oed a ydyn nhw'n 'nabod ei fam, mae gan Elis 60 eiliad i ddod o hyd i rywun y mae'r ddau yn eu hadnabod.

Elis James yn cyflwyno ei bodlediad Elis & John
Yn ôl Elis, mae'r Cymru Connection yn mynd o nerth i nerth.
"Fi wrth fy modd bod gymaint o bobl yn licio fe.
"Mae'r Saeson yn licio fe a fi'n credu bod Saeson - yn enwedig o ogledd Lloegr - ma' nhw'n uniaethu gyda'r ffordd 'ma ni'n trio cysylltu gyda'n gilydd.
"A mae'r Cymry yn rili licio fe.
"Bydda i'n cerdded lawr y stryd yng Nghymru a bydd rhywun yn dod lan ata i a dweud 'fi'n 'nabod rhywun sy'n gweithio gyda dy chwaer di', a 'na beth yw Cymru Connection i fi.
"Bob tro fi'n mynd ar wylie, bydda i'n cwrdd â rhywun sy'n dod o rywle fel Hermon, ac o fewn dwy funud byddwn ni'n 'nabod yr un bobl, so ni'n dod â hwnna i'r radio."
'Haws os yw'r person yn siarad Cymraeg'
Ychwanegodd Elis ei fod "wastad yn ffeindio fe'n haws os yw'r person sy'n ffonio mewn yn siarad Cymraeg".
"Y peth gyda'r Cymry Cymraeg, mae cymdeithas Gymraeg ymhob prifysgol, ni'n neud pethe fel yr Eisteddfod, Maes B.
"Os chi'n clywed rhywun yn siarad Cymraeg ar y stryd, mae perffaith hawl 'da chi fynd lan atyn nhw a gofyn 'O le chi'n dod te?'
"Os bydden i'n Madrid neu Paris, bydden i yn mynd lan atyn nhw a siarad Cymraeg.
"Mae system addysg iaith Gymraeg - achos pethe fel Glan-llyn a Llangrannog - ma' fe'n ffordd o gyflwyno plant ifanc i bobl o bob cwr o Gymru, felly os chi'n siarad Cymraeg, mae lot fwy o siawns bydda i'n 'nabod chi.
"Mae Cymru'n wlad fach gyda diwylliant pendant, unigryw, felly yn enwedig os chi dramor... mae wastad pethe sy'n cysylltu ni.
"Sai'n gwybod os bydde rhywun o Sbaen yn teimlo fel hyn achos mae Sbaen mor fawr a mae'n wlad mor wahanol - a ni yn wlad fach a dyna pam ni'n licio stico gyda'n gilydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd24 Mai 2019