Wayne Hennessey, un o fawrion pêl-droed Cymru, yn ymddeol

Chwaraeodd Hennessey 109 o weithiau dros Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae un o gôl-geidwaid gorau Cymru, Wayne Hennessey, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o chwarae pêl-droed.
Fe gafodd y golwr 38 oed, sy'n wreiddiol o Fiwmares ym Môn, yrfa a barodd am bron i ddau ddegawd.
Chwaraeodd 109 o weithiau dros Gymru ac roedd yn rhan allweddol o'r tîm a gyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Euro 2016.
Chwaraeodd Hennessey am y tro cyntaf yn broffesiynol yn 2006 i Wolverhampton Wanderers cyn mynd ar fenthyg i glybiau gan gynnwys Bristol City, Stockport County a Yeovil Town, cyn symud yn barhaol i Crystal Palace, Burnley a'i glwb olaf Nottingham Forest.
"Rwyf wedi penderfynu dod â fy ngyrfa chwarae i ben, wrth edrych yn ôl rwy'n ddiolchgar ac wrth edrych ymlaen rwy'n optimistig wrth gymryd y camau nesaf ar fy nhaith bêl-droed," meddai Hennessey ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Hennessey "mae gen i atgofion anhygoel o chwarae ar lefel clybiau a rhyngwladol"
Dim ond naw gwaith chwaraeodd Hennessey i Forest ar ôl cael ei drosglwyddo yno am ddim o Burnley yn 2022
Cafodd anaf difrifol i wäell y ffêr (Achilles tendon) ar ddiwedd tymor 2023-24 a effeithiodd ar ei gyfraniad.
Er gwaethaf y diffyg gemau, fe gynigiodd rheolwr Forest, Nuno Espirito Santo, gytundeb tymor byr newydd i Hennessey ym mis Ionawr 2025 tan ddiwedd y tymor.
Mae dal yn bosib y gallai Hennessey aros gyda Forest trwy ymuno â'r staff, ond does dim cadarnhad eto ei fod wedi cymryd camau i ddechrau hyfforddi.
"Mae gen i atgofion anhygoel o chwarae ar lefel clybiau a rhyngwladol," ychwanegodd Hennessey.
"O fy nyddiau cynnar yn Wolves, mynd ar fenthyg i Stockport a Yeovil, a fy amser gyda Crystal Palace, Burnley a Nottingham Forest, lluniodd pob clwb fi ar y cae ac oddi arno.
"Gan fy mod i wedi cael fy ngeni a'm magu yng ngogledd Cymru, roedd hi bob amser yn freuddwyd i chwarae ar y lefel uchaf.
"Roedd yn fraint chwarae yn yr Uwch Gynghrair a thros fy ngwlad dros 100 o weithiau.
"Haf 2016 oedd uchafbwynt fy ngyrfa, ar ôl cyrraedd rownd derfynol Cwpan yr FA gyda Palace ac yna rownd gyn-derfynol yr Ewros gyda fy annwyl Gymru."
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
Gwnaeth Hennessey ei ymddangosiad cyntaf dros dîm dynion Cymru mewn gêm gyfeillgar 2-2 yn erbyn Seland Newydd ar 26 Mai 2007.
Fe ddaeth ei gap olaf fel eilydd hanner amser yn erbyn Gibraltar yn Wrecsam ym mis Hydref 2023.
Chwaraeodd ran allweddol wrth i dîm dynion Cymru gyrraedd Euro 2016 - eu twrnamaint rhyngwladol mawr cyntaf ers Cwpan y Byd yn 1958.
Doedd Hennessey methu chwarae yn y gêm agoriadol, pan gurodd Cymru Slofacia o ddwy gôl i un, oherwydd sbasm yn ei gefn.
Ond fe ddechreuodd gweddill y gemau gan gynnwys y gêm yn rownd yr wyth olaf pan gurodd Cymru Gwlad Belg 3-1, cyn colli i Bortiwgal yn y gêm gyn-derfynol.
Roedd hefyd yn rhan o'r timau a chwaraeodd yn Euro 2020 ac yn Nghwpan y Byd 2022.
Yn ystod y golled i Iran yng Nghwpan y Byd, fe gafodd Hennessey ei anfon oddi ar y cae - ef oedd y trydydd gôl-geidwad yn hanes Cwpan y Byd i gael ei anfon oddi ar y cae.
'Cymryd nerth o'r gefnogaeth'
"Mae wedi bod yn anrhydedd chwarae ochr yn ochr â rhai chwaraewyr gwych ac hefyd yn erbyn rhai a gweithio gyda rhai rheolwyr, hyfforddwyr, staff meddygol, cyfryngau a staff cymorth anhygoel," ychwanegodd Hennessey, ac fe ddiolchodd hefyd i'w deulu a'i asiant am eu cefnogaeth.
"Rwyf hefyd yn cydnabod y berthynas gref o fewn cymuned y gôl-geidwaid rydw i wedi'i brofi drwy gydol fy ngyrfa: drwy weithio gyda'n gilydd o ddydd i ddydd, a chefnogi a bod yn galonogol pwy bynnag yw'r dewis cyntaf.
"Mae cefnogwyr wedi bod yn asgwrn cefn y gefnogaeth drwy gydol fy amser yn chwarae, yn enwedig yn ystod yr amseroedd ges i anafiadau.
"Roeddwn i'n gallu cymryd gymaint o nerth o'ch cefnogaeth chi."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.