'Rheolwyr Cymru'n haeddu’r un clod â'r chwaraewyr'
- Cyhoeddwyd
Does dim dwywaith fod llwyddiant tîm pêl-droed Cymru dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn y tu hwnt i ddisgwyliadau'r mwyafrif o'u cefnogwyr - gan gyrraedd rownd gynderfynol Euro 2016 ac yna rownd yr 16 olaf yn 2020.
Nawr, fe allai'r tîm gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Chwaraewr sydd wedi bod yn un o gonglfeini'r llwyddiant diweddar yw'r golgeidwad Wayne Hennessey.
Fe fydd chwaraewr 35 oed yn aros i glywed ddydd Iau pwy yn union fydd yn y garfan i wynebu'r Alban neu Wcráin yng Nghaerdydd ar ddydd Sul 5 Mehefin.
Bydd y rheolwr Robert Page hefyd yn cynnwys chwaraewyr yn y garfan ar gyfer gemau Cymru yng nghystadleuaeth Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a Gwlad Pwyl.
Roedd Hennessey yng ngharfannau Cymru yn Ewro 2016 ac Ewro 2020 - ac yn y gôl i Gymru wrth iddyn nhw guro Awstria fis Mawrth i sicrhau lle yn rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd Qatar 2022.
Gyda Chymru ar drothwy sicrhau lle yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958 mae Hennessey yn dweud fod y rheolwyr rhyngwladol dros y 15 mlynedd ddiwethaf yn haeddu'r un clod ac mae'r chwaraewyr wedi'i dderbyn.
John Toshack oedd y cyntaf i ddewis Hennessey i Gymru, ac enillodd ei gap cyntaf yn erbyn Seland Newydd yn 2007.
Mae pedwar rheolwr arall wedi ei ddewis ers hynny, gan gynnwys y rheolwr diweddaraf Robert Page.
Yn ôl Hennessey, mae Page wedi sefydlu ei hun yn y rôl ers 2020 ar ôl iddo gael ei benodi wedi i Ryan Giggs sefyll o'r neilltu tra'n aros am achos llys ar gyhuddiad o achosi niwed corfforol.
Erbyn hyn mae'r garfan yn cyfeirio at Page fel y 'Gaffer', meddai.
"Dwi'n teimlo'n ffodus a dweud y gwir," meddai Hennessey tra'n siarad â BBC Cymru yng nghanolfan ymarfer ei glwb Burnley.
"Rydyn ni fel gwlad wedi cael chwaraewyr a rheolwr gwych.
"Gary Speed oedd y sylfaen, ac wedi ein gosod ni ar y trywydd iawn a symud ymlaen - bendith i'w enaid.
"Wedyn yn amlwg fe ddaeth Chris Coleman a gwneud gwaith gwych ond dal i gadw pethau'r un fath, a pharhau i symud i'r cyfeiriad cywir, ac yna Ryan yn dod i mewn a rŵan Pagey.
"Mae popeth wedi aros yr un fath, sy'n hanfodol i'r chwaraewyr, ac fel 'da chi'n gallu gweld mae'r perfformiadau wedi dilyn ar y cae.
"Mae gan y chwaraewyr berthynas agos, a dechreuodd hynny gyda Gary Speed."
Collodd Hennessey ei le fel dewis cyntaf Cymru yn y gôl yn dilyn anaf yn erbyn Bwlgaria ym mis Hydref 2020 gyda golwr Caerlŷr, Danny Ward, rhwng y pyst ar gyfer Euro 2020 a'r rhan fwyaf o'r ymgyrch i gyrraedd Qatar 2022.
Ond mae Hennessey yn parhau yn un o hoelion wyth y garfan, ac wedi chwarae ei ran yn erbyn Awstria ym mis Mawrth ar ôl i Ward gael llawdriniaeth ar ei ben-glin.
"Mae bod yn golwr yn gallu bod yn anodd - dim ond un lle sydd ar gael yn y tîm," meddai Hennessey.
"Mae Danny wedi dod i mewn i'r tîm ac wedi chwarae yn dda iawn.
"Roedd yr anaf yn anffodus iawn i Dan. Mae o'n foi hyfryd.
"Mae o'n holliach rŵan, felly mae yna ddigon o gystadleuaeth yn y garfan am le yn y tîm."
Pan fydd Page yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer gemau Cymru fis nesa' yng Nghynghrair y Cenhedloedd a'r gêm ail gyfle yn erbyn un ai Wcráin neu'r Alban, bydd enw Hennessey ar y rhestr.
"Byddai'n gwbl wych [i gyrraedd Cwpan y Byd)], nid yn unig i ni fel grŵp o chwaraewyr ond hefyd i'r genedl gyfan sydd wedi bod yn ein cefnogi," meddai.
Mae Hennessey yn rhan o oes aur pêl-droed Cymru, ac efallai mai dyma'r cyfle olaf i nifer gyrraedd Cwpan y Byd.
"I fi yn bersonol byddai'r profiad yn anhygoel - ac i fy nheulu.
"Ond wedyn dwi'n edrych ar chwaraewyr fel [Gareth] Bale, [Aaron] Ramsey, [Chris] Gunter ac [Joe] Allen… maen nhw'n dal i chwarae ac wedi bod yn wych i Gymru a dwi'n gobeithio gall hynny barhau, a'u bod nhw'n cyrraedd Cwpan y Byd.
"Iddyn nhw gyrraedd Cwpan y Byd, dwi'n siŵr y bydd eu teuluoedd yn falch ofnadwy."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2022