Pysgota anghyfreithlon 'allan o reolaeth' yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae pysgota anghyfreithlon yn broblem sydd "allan o reolaeth" ar afonydd Cymru gan gael effaith ddifrifol ar rywogaethau prin fel yr eog, yn ôl grwpiau pysgota.
Dywedodd un gymdeithas fod ei haelodau’n dod ar draws gangiau potsio “drwy’r amser,” gan arwain at wrthdaro a “bygythiadau o drais”.
Soniodd grŵp arall am ddod o hyd i rwydi badminton wedi’u gosod ar draws afonydd, gan ddweud bod potswyr yn ymddwyn mewn modd “digywilydd” oherwydd diffyg gorfodaeth.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu bod yn cymryd pysgota anghyfreithlon "o ddifrif" ond eu bod yn dibynnu ar wybodaeth gan y gymuned bysgota gan nad oes gan y corff adnoddau i roi staff "ar bob afon, bob amser o'r dydd".
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae pysgotwyr afon wedi eu gorfodi gan y gyfraith i ryddhau unrhyw eog maen nhw'n ei ddal - yn ogystal â sewin dros faint penodol - oherwydd bod niferoedd y ddwy rywogaeth yn prinhau.
Y llynedd daeth rhybudd mewn adroddiad CNC, dolen allanol y gallai eogiaid gwyllt yr Iwerydd ddiflannu’n gyfan gwbl o afonydd Cymru o fewn dau ddegawd - dirywiad sy’n cael ei feio ar ffactorau megis newid hinsawdd, llygredd a gorbysgota yn y môr.
Mae llyfrau log Cymdeithas Bysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfni yng Ngwynedd yn adrodd y stori'n glir.
Cafodd mwy na 400 o eogiaid eu dal gan bysgotwyr ar y Seiont nôl yn 1988, tra bod hynny wedi gostwng i ffigyrau sengl yn ddiweddar.
'Potsio dal i'w weld yn rhywbeth rhamantus'
Dywedodd y cadeirydd Dr Robin Parry ei fod yn golygu bod unrhyw bysgota anghyfreithlon hyd yn oed yn fwy niweidiol.
“Mae potsio 'di bod yn rhywbeth rhamantus bron yn dydy. Pawb yn gwenu am y peth felly, ond dydy o ddim 'wan.
“Beth sy’n digwydd ydy mae 'na chydig iawn o samwn sy’n dod yn ôl, yn y pyllau 'ma mae’r dŵr yn mynd i lawr, a mae’r pysgod yn sownd yn y pyllau.
“Yn anffodus mae 'na griwiau sy’n mynd yna gyda magl neu [fachau] gaff ac yn tynnu nhw allan.
“Be' 'da ni’n gweld ydy tystiolaeth maen nhw 'di bod 'na - rhwydi yn arbennig.
"'Da ni’n ffeindio rhwydi yn eitha' aml, rhai yn rhwydi amateur fel fyddech chi’n weld yn yr ardd efo badminton, ond rhai yn rhwydi iawn efo floats a phwysau arnyn nhw wedi eu gosod yn daclus.”
I Huw Hughes, ysgrifennydd y gymdeithas ers 1979 a chyn-dditectif, mae gweld nifer y pysgod yn dirywio wedi bod yn “siomedigaeth fawr”.
Mae’n dweud fod pysgota anghyfreithlon “allan o reolaeth ers blynyddoedd”.
Mae’n dadlau ei bod hi’n “hollol anghywir” i ddweud fod CNC yn ymateb i adroddiadau pan maen nhw’n cael gwybod amdanynt.
“’Da ni 'di bod yn reportio i Cyfoeth Naturiol Cymru, a dim 'di’i wneud," meddai.
"'Da ni 'di gyrru nifer o bethau iddyn nhw, yn enwedig y dyddiau yma wrth gwrs efo pethau yn dod ar Facebook - lluniau pobl efo eogiaid wedi potsio.
“Yr ateb ydy mwy o giperiaid wrth gwrs.”
'Ddim yn flaenoriaeth'
Dywedodd Dr Parry fod y gymdeithas wedi rhoi gwybod i CNC am bob digwyddiad o bysgota anghyfreithlon honedig yr oedd aelodau wedi eu gweld.
“Mae’n amlwg fod o ddim yn flaenoriaeth achos dy’n nhw [CNC] ddim yn rhoi’r adnoddau tuag ato fo.
"Dwi’n gwybod ma' 'na bethau arall yn galw ym mhob cyfeiriad yn does, ond mae’r eog ar fin darfod yng Nghymru ac ym Mhrydain."
Ychwanegodd mai dim ond unwaith yn y chwech neu saith mlynedd ddiwethaf iddo weld un o swyddogion CNC yn gwirio trwyddedau pysgota ar ochr yr afon.
Ben arall y wlad, ar Afon Ogwr ger Pen-y-bont, dywedodd y pysgotwr Mark Ryan fod potsio yn broblem “anferthol" a'i fod yn ymddangos fel petai wedi gwaethygu "yn y pump i 10 mlynedd ddiwethaf".
Fel cadeirydd Cymdeithas Bysgota Ogwr mae’n teimlo bod yna "ddirywiad gwirioneddol a mewnlifiad o bobl yn pysgota'n anghyfreithlon ar yr afon".
Yn ddiweddar roedd un o'i aelodau wedi cael ei fygwth gan griw o ddynion ac wedi’i "erlid" at ei gar, meddai.
"Mae'n cael cryn effaith ar ein haelodau - maen nhw wedi dioddef trawma," meddai.
"Rydych chi'n dod i lawr yma i'r lle hyfryd, hyfryd hwn am heddwch a llonyddwch ac mae gwrthdaro a thrais yn ofnadwy."
'Does dim cosb - mae’n drist'
Mewn digwyddiad arall, roedd aelodau wedi ffilmio a chasglu tystiolaeth yn honni fod criw mawr o ddynion wedi bod yn llwytho pysgod i gist car.
Cafodd y deunydd ei yrru at CNC fel mater brys, ond “fe wnaethon nhw droi lan wythnos yn ddiweddarach - ar ôl iddyn nhw adael”.
"Mae gwybod bod eogiaid wedi cael eu cymryd ar ôl yr holl ymdrechion rydyn ni wedi bod drwyddyn nhw fel clwb i gael [polisi] ‘dal a rhyddhau’ yn ofnadwy," ychwanegodd.
Dywedodd fod y ffaith gall “pobl ddod yma heb unrhyw ganlyniadau o’i gweithredoedd” oherwydd “does dim cosb - mae’n drist.”
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2023
Gofynnodd BBC Cymru i CNC am nifer yr adroddiadau o bysgota anghyfreithlon a’r lefelau gorfodi, a daeth data i law am y pedair blynedd ddiwethaf.
Roedd mwy na 200 o adroddiadau o bysgota anghyfreithlon bob blwyddyn rhwng 2021-23, gyda 250 yn 2023.
Cafodd 25 o ddigwyddiadau eu clustnodi yn rhai lefel uchel yn 2021, a oedd yn golygu bod angen ymateb ar unwaith, gyda 31 yn 2022 a 54 yn 2023.
Arweiniodd camau gorfodi at 165 o droseddau'n cael eu herlyn yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf - y rhan fwyaf am bysgota heb drwydded.
Dywedodd Ben Wilson, prif swyddog pysgodfeydd CNC ei fod yn dangos bod y sefydliad yn gweithredu.
Mae gan CNC 28 o staff ag awdurdod arbennig o dan y Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw (SAFFA) i ymchwilio i droseddau pysgodfeydd.
Fodd bynnag, mae gan y swyddogion hyn hefyd ystod eang o feysydd eraill i ddelio â nhw - gan gynnwys troseddau sy'n ymwneud â gwastraff.
Yn ymarferol, dywedwyd wrth BBC Cymru mai dim ond rhwng wyth a 10 o swyddogion sy'n ymroddedig i bysgodfeydd.
Dywedodd Mr Wilson nad yw CNC "yn hunanfodlon" ac mae'n rhannu pryder y gymuned bysgota am golli unrhyw bysgod.
Mae CNC yn cymryd pysgota anghyfreithlon o ddifrif, meddai, ond nid oes ganddo ddigon o staff "i gynnig ymateb golau glas ar unwaith".
'Rydyn ni'n eu dal'
“Mewn byd delfrydol byddai gennym rhywun ar bob afon, bob amser o’r dydd, ymateb 24 awr ac ati," meddai.
“Nid oes gennym ni’r arian am hynny, felly rydym yn fwyfwy dibynnol ar gael adroddiadau a gwybodaeth gan bobl ar lawr gwlad - yn bennaf gan bysgotwyr a physgodfeydd.
"Dydyn ni ddim yn hunanfodlon. Pan gawn ni'r wybodaeth honno rydyn ni'n rhoi patrolau at ei gilydd. Gallwn ymateb.
“Os ydych chi’n gweld rhai o’r achosion rydyn ni wedi gallu mynd â nhw i’r llys yn ddiweddar, rydyn ni wedi cael rhai dirwyon eithaf trwm yn erbyn pobl.
"Felly mae yna ataliad gwirioneddol i unrhyw un a allai gael ei ddal yn pysgota'n anghyfreithlon. Ac rydyn ni'n eu dal. Mae rhai dirwyon difrifol, a dedfrydau carchar.
"Rydyn ni allan yna ar lan yr afon. Rydyn ni'n ymchwilio'n rheolaidd i'r ardaloedd hynny sydd â risg uchel ac ar yr adegau hynny o'r flwyddyn sy'n risg uchel.
"Ond y peth pwysig iawn yw bod pobl - maen nhw'n gweld rhywbeth, maen nhw'n ei adrodd i ni."
“Oherwydd os nad ydym yn gwybod amdano, ni allwn ymateb iddo o gwbl.”