Plentyn wedi marw yn dilyn digwyddiad yn Sir Gaerfyrddin

Cafodd yr heddlu eu galw i Langynnwr tua 18:00 ddydd Iau diwethaf
- Cyhoeddwyd
Mae plentyn wedi marw yn dilyn digwyddiad yn Sir Gaerfyrddin, meddai'r heddlu.
Dywedodd yr heddlu bod swyddogion wedi eu galw i Langynnwr tua 18:00 ar 20 Chwefror, ble roedd plentyn yn wael.
Cafodd y ferch ei chludo i'r ysbyty, ble bu farw'n ddiweddarach, meddai'r heddlu.
Mae un person wedi ei arestio, ac mae'r ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau.

Mae Llangynnwr yn ardal glos iawn, yn ôl y cynghorydd Geraint Bevan
Dywedodd y cynghorydd cymuned Geraint Bevan y byddai'r digwyddiad yn cael effaith fawr yn yr ardal.
"Fel cyngor cymuned ni'n drist iawn o glywed y newyddion ac alla' i fel aelod cyngor rannu ein cydymdeimlad gyda phawb sydd wedi cael eu heffeithio.
"Mae Llangynnwr yn ardal glos iawn, dwi'n siŵr fydd pawb mewn sioc, a bydd pawb yn tynnu at ei gilydd dwi'n siŵr."