Hanner Marathon Caerdydd yn denu miloedd i'r brifddinas
Disgrifiad o’r llun, Miriam Chebet oedd yr enillydd yng nghategori'r merched
1 o 5
- Cyhoeddwyd
Fe ddaeth miloedd i Gaerdydd ddydd Sul i redeg hanner marathon y brifddinas.
Yn ôl y trefnwyr, roedd dros 29,000 o bobl wedi cofrestru i redeg eleni - y nifer fwyaf yn hanes y digwyddiad.
Patrick Moisin o Kenya enillodd yng nghategori'r dynion gydag amser o 1:00:01, a Miriam Chebet - hefyd o Kenya - oedd y cyflymaf ymhlith y menywod, fe orffennodd hi gydag amser o 1:06:43.
Callum Hall ddaeth i'r brig ymhlith defnyddwyr cadeiriau olwyn (55:05) tra bod ei wraig, Jade Hall wedi gorffen yn ail (57:57).
Mae Cyngor Caerdydd wedi rhybuddio bod disgwyl i'r ddinas fod yn hynod o brysur ddydd Sul, ac mae ymwelwyr yn cael eu hannog i gynllunio o flaen llaw.
![Lisa Price, 36, a Carly Parsons, 38](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/e2b3/live/89d97410-83df-11ef-80e4-25a27c8ff151.jpg)
Lisa Price, 36, a Carly Parsons, 38
Roedd y chwiorydd Lisa Price, 36, a Carly Parsons, 38, wrth eu boddau ar y llinell derfyn.
"Redais i tua phedwar munud yn gyflymach nag o'n i wedi ei obeithio," meddai Lisa.
Roedd Carly yn rhedeg er mwyn codi arian ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru.
"Mae'r achos yn un mor werthfawr," ychwanegodd.
![James Clatworthy](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/c60e/live/97459480-83df-11ef-8503-93b6e950eb2d.jpg)
James Clatworthy o Gaerdydd
Roedd James Clatworthy, 29 oed o Gaerdydd, yn codi arian ar gyfer elusen Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.
Cafodd driniaeth yno 15 mlynedd yn ôl pan yr oedd ganddo leucemia.
"Hebddyn nhw, fyddwn i wedi gorfod mynd i Lundain i gael triniaeth, yn bell o fy nheulu a'n ffrindiau," meddai.
"Ges i leucemia ddwywaith, felly dreuliais i gyfnodau hir yn yr ysbyty... Ro'n i yno am naw mis y tro cyntaf, a naw mis yr eildro, felly iddyn nhw mae'r diolch bo' fi'n gallu rhedeg hanner marathon heddiw."
![OIivia Michael](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/c7a7/live/c72bb210-83df-11ef-8503-93b6e950eb2d.jpg)
OIivia Michael o Gastell-nedd ar ôl cwblhau'r ras am y pumed tro
Dim dyma'r tro cyntaf i Olivia Michael o Gastell-nedd, sy'n gweithio i'r gwasanaeth iechyd, gwblhau'r hanner marathon yng Nghaerdydd.
"Doedd o ddim rhy ddrwg, roedd y tywydd yn iawn a nes i osod amser gorau newydd i fi'n hun.
"Dyma'r pumed tro i mi redeg y ras, ac mae 'na wastad awyrgylch neis yma yng Nghaerdydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd29 Medi 2023
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2023