Llifogydd Cwmbwrla: Colli cynnwys cartref ond 'diolch am y gymuned'

Mae Nigel Davies wedi byw yn ei gartref oddi ar gylchfan Cwmbwrla ers 30 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Abertawe wedi'i "syfrdanu" gan y gefnogaeth y mae wedi ei dderbyn ar ôl gorfod gadael ei gartref oherwydd llifogydd dinistriol dros y penwythnos.
Cafodd Nigel Davies a'i dad, sy'n methu cerdded heb gymorth, eu hachub gan y gwasanaethau brys ac maen nhw nawr yn aros mewn llety dros dro.
Ddydd Sul roedd cylchfan a'r strydoedd cyfagos yng Nghwmbwrla yn llwyr o dan ddŵr - mae llawer dal i fod heb gyflenwad trydan a busnesau wedi methu agor.
Mae trigolion lleol yn paratoi am lifogydd pellach wrth i rybudd tywydd arall fod mewn grym ar gyfer ddydd Mercher.

Abertawe yw un o'r mannau sydd wedi dioddef llifogydd dros y penwythnos
Mae Nigel Davies wedi byw yn ei gartref oddi ar gylchfan Cwmbwrla ers 30 mlynedd.
Mae'n gofalu am ei dad 80 oed sydd wedi byw yno ers dros 50 mlynedd.
Ddydd Sul roedd llawr gwaelod eu cartref wedi'i "olchi i ffwrdd yn llwyr".
"Roeddwn i'n gwylio fy oergell yn arnofio. Mae fy mhysgod wedi marw. Collais yr holl drydan ar gyfer eu tanc.
"Dwi'n cadw dweud wrth fy hun mai dim ond pethau ydyn nhw. Ond mae rhai o'r pethau'n atgofion ac maen nhw'n amhrisiadwy," meddai.
Ar hyn o bryd mae Nigel a'i dad yn aros mewn llety dros dro sydd ar gael tan ddiwedd yr wythnos yn unig.
Dywed Nigel ei bod hi'n anodd dod o hyd i le addas i aros oherwydd "problemau symud cymhleth" ei dad.
Dywedodd wrth BBC Cymru y bydd hi'n wythnosau neu efallai misoedd cyn y gallen nhw ddychwelyd i'w cartref ond mae'n poeni na fydd e fyth yn ddiogel.
Yn ôl Nigel mae'r sefyllfa yn "anodd" i'w dad.
"Dydy e ddim wedi bod yn dda am yr wythnosau a'r misoedd diwethaf.
"Dydy e ddim yn gallu symud na cherdded heb gymorth ac yna mae'r effaith emosiynol.
"Mae e wedi byw yma am 50 mlynedd, wedi bod yn briod â fy mam am 40 ohonyn nhw. Mae ganddo gymaint o atgofion yn y lle, ac mae llawr gwaelod cyfan y tŷ wedi'i ddinistrio."
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Ers y llifogydd mae tudalen codi arian wedi'i sefydlu i Nigel a'i dad. Mewn llai na 24 awr mae dros £700 wedi ei godi.
Dywedodd Nigel ei fod wedi'i "syfrdanu" gyda'r gefnogaeth.
"Fyddai ddim angen yr arian oherwydd bod yr yswiriant yn talu.
"Ond mae'r ffaith bod rhywun wedi gwneud hynny, a bod pobl wedi edrych ar y sefyllfa a theimlo eu bod nhw'n gallu rhoi rhywbeth - mae hyn wedi fy nghyffwrdd a'n gwneud gwahaniaeth enfawr yn feddyliol."

Yn ôl Malcolm Perrin, perchennog QV Vehicle Hire, efallai na fydd rhai busnesau byth yn adfer o'r golled ariannol
Ar hyd Teras Mansel yng Nghwmbwrla mae llawer o gartrefi a busnesau wedi'u difrodi gan ddŵr y llifogydd ac yn methu â masnachu oherwydd diffyg pŵer.
Yn ôl Malcolm Perrin, perchennog QV Vehicle Hire, efallai na fydd rhai busnesau byth yn adfer o'r golled ariannol.
"Drws nesaf, mae garej fy mab sydd wedi'i ddinistrio'n llwyr. Mae'r lle'n llawn olew, mae wedi colli ei offer, mae ei holl offer yn socian.
"Busnesau bach yw rhain, maen nhw'n dibynnu ar fasnach bob dydd.
Mae'n rhaid iddyn nhw dalu eu cyflogau o hyd, mae'n rhaid iddyn nhw dalu eu biliau o hyd ond does ganddyn nhw ddim byd yn dod i mewn. Does neb wedi dod o gwmpas i roi unrhyw gymorth iddyn nhw."
Ychwanegodd nad oes dim y gallan nhw ei wneud ar hyn o bryd ond dechrau tacluso.
"Allwn ni ddim ateb galwadau ffôn oherwydd does dim trydan, does gennym ni ddim Wi-Fi."
Ymateb Cyngor Abertawe a Dŵr Cymru
Dywedodd Rob Steward, arweinydd cyngor Abertawe, bod hi'n debygol bod y llifogydd yng Nghwmbwrla yn gysylltiedig â chwlfer a ddymchwelodd yn flaenorol ar dir preifat - un nad yw'n eiddo i'r cyngor nac yn cael ei gynnal ganddynt.
"Mae nifer o bympiau wedi cael eu defnyddio ar y safle i helpu i gael gwared â'r dŵr o'r lleoliad hwn ac rydym yn gweithio i sicrhau bod y llwybr prysur hwn yn cael ei ailagor cyn gynted â phosibl," meddai.
"Unwaith y bydd lefelau'r dŵr wedi gostwng, bydd angen cadw'r llwybr ar gau am gyfnod byr i gynnal archwiliadau diogelwch a glanhau wyneb y ffordd."
Mae Dŵr Cymru'n dweud eu bod yn "cefnogi'r broses glanhau" yng Nghwmbwrla.
"Credwn fod y llifogydd wedi'u hachosi gan y cwlfert a gwympodd ac a arweiniodd at dwll suddo yng Nghlwb Cymdeithasol Cwmfelin.
"Nid yw'r cwlfert yn eiddo i Dŵr Cymru nac yn cael ei gynnal a chadw gan y cwmni.
"Rydym wedi bod yn gweithio 24 awr i adfer gwasanaeth i'n rhwydwaith a hefyd i lanhau'r ardal.
"Fel rhan o ddull amlasiantaeth rydym wedi dod â phympiau i mewn i helpu i glirio'r dŵr cyn gynted â phosibl fel y gellid adfer y pŵer."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.