Pan oedd GLC a'r SFA yn noddi crysau pêl-droed
- Cyhoeddwyd
Yr wythnos yma daeth y newyddion bod y rapiwr 50 Cent yn noddi tîm pêl-droed merched dan-14 AFC Tredelerch yn nwyrain Caerdydd.
Mae'r cit newydd ar gyfer y tîm yn cynnwys y geiriau G-Unit/50 Cent mewn llythrennau bras.
Ond nid Tredelerch yw'r unig glwb yng Nghymru i gael nawdd anghyffredin, felly dyma gipolwg ar ambell un arall.
50 Cent // AFC Tredelerch dan-14
Fe dalodd Curtis James Jackson III (enw iawn 50 Cent) i ferched Tredelerch gael cit newydd.
Yn ôl Richie Brown, rheolwr y tîm; "Roedd tad un o'r merched yn gweithio gyda 50 Cent ar ei daith yn America a Chanada, yn y maes cynhyrchu llwyfan ac fe ofynnodd y cwestiwn, a fyddai'n fodlon noddi'r merched."
Total Network Solutions // Llansantffraid
Er ei fod yn Lloegr, roedd Clwb Pêl-droed Croesoswallt yn un o'r timau hynaf yn system bêl-droed Cymru, ac yn un o sefydlwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 1876.
Ar yr ochr Gymreig o'r ffin, cafodd Clwb Llansantffraid ei sefydlu yn 1959 - daeth yn glwb llwyddiannus gan ennill Cwpan Cymru yn 1996.
Yn 1997 cafodd Llansantffraid ei ail-henwi'n Total Network Solutions, wedi i'r cwmni o Groesoswallt fuddsoddi £250,000 yn y clwb.
Yn 2003 fe unodd y ddau glwb dan yr enw TNS. Ond yn 2006 cafodd Total Network Solutions ei brynu gan BT, ac dyna pryd sefydlwyd yr enw Y Seintiau Newydd/The New Saints (i gadw'r llythrennau TNS).
Super Furry Animals // Caerdydd
Yn 1999 fe noddodd y Super Furry Animals Glwb Dinas Caerdydd.
Roedd enw'r band i'w weld ar hyd blaen y crys a gafodd ei wisgo yng Nghwpan Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Fe gyrhaeddodd Caerdydd y rownd derfynol, gan golli 2-0 i Wrecsam ar y Cae Ras ar 14 Mai, 2000.
C.P.D. Airbus UK Brychdyn
Ers ffurfio'r clwb yn 1946 mae C.P.D. Airbus UK Brychdyn wedi cael sawl enw. Ffurfiwyd y clwb fel CPD Vickers-Armstrong, ac wrth i'r ffatri newid perchnogaeth yn y blynyddoedd a ddilynodd, felly hefyd enw'r clwb. Roeddent yn cael eu hadnabod fel de Havillands, Hawker Siddeley, British Aerospace, a BAE Systems.
Ar ddiwedd y tymor 1999-00 cafodd y clwb ei enwi'n Airbus UK. Ond wedyn cyn tymor 2007-08 cafodd enw'r clwb ei newid unwaith eto, gan ychwanegu enw'r pentref - felly daeth C.P.D. Airbus UK Brychdyn i fodolaeth.
Oherwydd rheolau UEFA ynglŷn â noddi, pan mae'r clwb yn chwarae yng nghystadlaethau Ewrop maent yn cael eu galw'n AUK Brychdyn.
Goldie Lookin Chain // Casnewydd
Ugain mlynedd yn ôl roedd Goldie Lookin Chain o Gasnewydd yn eu hanterth yn dychan a chael hwyl yn y siartiau. Fe noddodd y band Glwb Pêl-droed Casnewydd ar gyfer 2004-05.
Y syniad gwreiddiol oedd i ddefnyddio'r crys yn yr FAW Premier Cup, a oedd yn cynnwys timau a oedd yn chwarae yn strwythur Cymru a Lloegr. Ond fe ddefnyddiodd Casnewydd y crys mewn dwy gêm yng Nghyngres y De (chweched haen pêl-droed Lloegr), yn erbyn Maidenhead United a Redbridge F.C.
Fe wnaeth GLC hefyd ddylunio trydydd crys Casnewydd yn 2021 gan gydweithio efo'r cwmni chwaraeon Hummel.
Banc Barclays // Ely Rangers
Cafodd Clwb Pêl-droed Ely Rangers ei sefydlu yn 1965 ac maen nhw'n chwarae yng Ngwenfô, tu allan i Gaerdydd.
Un o'r pethau mwyaf diddorol am y clwb yw'r bathodyn. Yn nyddiau cynnar y clwb cafwyd cymorth gan Fanc Barclays, ac o ganlyniad cafodd yr 'Eryr haearn' ei ddefnyddio fel bathodyn - sy'n deillio'n unionyrchol o logo Barclays. Hefyd, o ganlyniad i'r cysylltiad yma, llysenw'r clwb yw'r Griffwns (The Griffins).
LaLiga // Llanfairpwll
Mis yn ôl daeth y cyhoeddiad bod un o gynghreiriau pêl-droed mwyaf y byd - LaLiga Sbaen - wedi cytuno i noddi crysau tîm ym mhumed haen cynghreiriau Cymru, Clwb Pêl-droed Llanfairpwll.
"Gan fod nhw'n rebrandio LaLiga efo'r logo newydd - y ddau L - oeddan nhw isio 'neud cysylltiad efo'r tîm efo'r mwya' o Ls yn ei henw nhw," dywedodd Hannah Thomas, ysgrifennydd y clwb.
Dywedodd prif sgoriwr y clwb, Marquis Holland: "Bydd chwarae gyda LaLiga ar ein crysau yn sicr yn rhoi hwb ychwanegol y tymor yma.
"'Dan ni yn barod yn gwylio mwy o bêl-droed Sbaen y tymor yma ac yn edrych ymlaen at ddysgu pethau gan chwaraewyr fel Lewandowski, Griezmann a Bellingham."