O Jerwsalem i'r Lan Orllewinol - argraffiadau dau ohebydd

Pentref Palesteinaidd Al Mughayyir ar y Lan Orllewinol
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol barhau mae dau o newyddiadurwyr Newyddion S4C wedi treulio rhai diwrnodau yr wythnos hon yn teithio o Jerwsalem i'r Lan Orllewinol.
Dyma argraffiadau Liam Evans a Gwyn Loader.
Mae'r tymheredd yn anarferol o boeth yn Israel ac ymhell dros 40 gradd.
O Jerwsalem 'dan ni'n teithio rhyw awr i'r Lan Orllewinol ac i bentref Palesteinaidd Al Mughayyir.
Mae'r strydoedd yn dawel a'r mwyafrif yn cysgodi rhag y gwres tanbaid ond ar ochr y bryn mae 'na griw o bedwar o ddynion yn naddu cerrig ac yn dweud wrthym eu bod nhw'n codi wal.
Yn ôl maer y pentref Ameen Abu Aliyah, nod y wal yw cadw'r setlwyr Isrealaidd rhag meddiannu rhagor o dir.
'Pethau wedi gwaethygu'
Ers dechrau'r rhyfel yn Gaza mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y setliadau Israelaidd ar y Lan Orllewinol gyda 22 yn rhagor wedi eu cymeradwyo eleni.
O dan gyfraith ryngwladol mae'r setliadau hyn yn anghyfreithlon, ond mae'r setlwyr yn bwrw ymlaen a chymryd tir gan honni mai tir yr Iddewon ydyw.
"Mae pethau wedi gwaethygu. Mae setliadau newydd yn yr ardal. Mae'r setlwyr yn ymosod ar y bobl yn fwy rheolaidd," meddai Ameen Abu Aliyah.

Gwyn Loader yn gohebu o'r Dwyrain Canol i Newyddion S4C
Mae'r berthynas rhwng y Palesteiniaid a'r setlwyr wedi dirywio ymhellach ers ymosodiadau Hydref 2023 ac wrth deithio drwy'r ardal 'da ni'n cwrdd â dyn ifanc 19 oed, Yakoub Nassan.
Mae'n cerdded gyda chymorth ffrâm ac yn dangos inni ei graith amlwg ar ei wddf.
Mae'n dweud iddo gael ei saethu gan setlwyr Israelaidd ym mis Ebrill ac yn "diolch i Dduw ei fod yn fyw".
Mae ei greithiau'n enghraifft o faint yr atgasedd sydd rhwng y bobloedd ac yntau'n dweud nad oes unrhyw obaith o heddwch rhyngddynt.
Ar hyd y daith hon mae'r pegynnu barn ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd ar y Lan Orllewinol a hefyd yn Gaza wedi bod yn amlwg.

Liam Evans yn Al Mughayyir
Yn ei swyddfa yn Jerwsalem mae dirprwy faer y ddinas Arieh King yn dadlau bod gan y setlwyr Israelaidd hawl i fod yno er yn condemio'r trais.
Mae ei safbwyntiau ynglŷn â Phalesteiniaid yn ddi-flewyn ar dafod ac yn rhai y byddai nifer yn eu hystyried yn eithafol.
Gan fynnu fod gan setlwyr yr hawl i fyw ar y Lan Orllewinol mae'n troi ei sylw at yr hyn sy'n digwydd yn Gaza.
Ers ymosodiadau 7 Hydref mae Gweinyddiaeth Iechyd Gaza sy'n cael ei rheoli gan Hamas yn dweud bod dros 60,000 wedi marw yn sgil cyrchoedd Israel ac mae'r nifer sy'n marw o ddiffyg maeth hefyd yn cynyddu bob dydd.
Mae'r hyn sy'n digwydd yn Gaza wedi arwain at nifer o wledydd fel Ffrainc, Canada, Awstralia a'r Deyrnas Unedig i ddweud bod bwriad cydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd erbyn yr Hydref.

"Dwi'n poeni am oroesi ac yn y Dwyrain Canol, un ffordd sydd i wneud hynny," meddai Arieh King
Mae Arieh King yn chwyrn ei feirniadaeth.
"Dwi'n poeni dim am y rhagrithwyr hyn," meddai.
"Dim y twpsyn Starmer, dim Macron sydd yn wrth-Semitaidd. Dim y Cenhedloedd Unedig.
"Dwi'n poeni am oroesi ac yn y Dwyrain Canol, un ffordd sydd i wneud hynny sef bod yn gryf."
Mae hefyd yn cyhuddo'r Cenhedloedd Unedig am yr oedi sy'n digwydd wrth sicrhau cyflenwadau bwyd a nwyddau i Gaza ac fel Prif Weinidog y wlad, Benjamin Netenyahu, mae'n gwrthod bod newyn yn Gaza.
Da ni'n teithio i gyrion dinas Jerwsalem i glywed gan fudiad dyngarol B'Tselem.
Yno 'da ni'n cwrdd â Kareem Jubran sy'n gweithio i geisio helpu sicrhau cyflenwadau i Gaza.
Mae'n dweud yn blaen bod "newyn go iawn yn digwydd yn Gaza".
"Mae'r canlyniadau yn drychinebus i bobl yno.
"Mae degau wedi marw oherwydd diffyg maeth."

"Mae pethau'n anodd ond dwi'n gobeithio," meddai Yuval Inbar
Tu hwnt i wleidyddion a mudiadau dyngarol, 'da ni'n penderfynu siarad â phobl ar y stryd yn Jerwsalem fel modd o fesur y farn gyhoeddus.
Roedd hynny yr un mor ranedig â'r disgwyl - gydag un yn dweud bod hi'n falch o weld pobl Gaza yn dioddef, un arall yn gwrthod bod newyn yno gan roi'r bai ar Hamas, ac un arall yn dweud ei fod yn poeni'n arw am bobl Gaza.
Tri ateb a thri safbwynt hollol wahanol.
Mae'r pegynnu barn ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd yn Gaza, ynglŷn ag ymateb y Prif Weinidog, Benjamin Netenyahu, a'r hyn sy'n digwydd ar y Lan Orllewinol yn fawr.
Mewn rhanbarth ansefydlog llawn brwydro mae'n anodd gweld sut mae dod â'r ddwy ochr ynghyd.
Ond mae gan Yuval Inbar sydd wedi dysgu Cymraeg ac yn byw yn Jerwsalem obaith y bydd cadoediad a modd o symud ymlaen.
"Yn y dyfodol, ddim y flwyddyn nesaf, ddim mewn 10 mlynedd, ond yn y dyfodol dwi'n meddwl allai bod yn bosib.
"Mae pethau'n anodd ond dwi'n gobeithio... dwi'n gobeithio."
Prin iawn yw'r rheini d'a ni di siarad efo sy'n dweud hyn ond mae geiriau Yuval yn cynnig llygedyn o obaith y daw cadoediad yn fuan er bod y lôn i gyrraedd hynny'n hir.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.