Poblogrwydd gwyliau agos at adref yn yr awyr agored ar gynnydd

Mae cwmnïau gwersylla wedi gweld twf yn niferoedd yr ymwelwyr eleni
- Cyhoeddwyd
Mae arferion pobl wrth drefnu gwyliau wedi newid yn sylweddol eleni, yn ôl cwmnïau teithio, sy'n dweud bod y newid yn cael effaith ar ddiwydiant twristiaeth Cymru.
Cyfuniad o'r argyfwng costau byw a thywydd poeth yr haf hwn sydd wedi arwain at fwy o bobl yn trefnu gwyliau munud olaf a dewis lleoliadau yn agosach at adref.
Ond mae arbenigwyr yn dweud bod y newid hefyd yn rhan o duedd ehangach wrth i bobl geisio gwneud y gorau o unrhyw amser rhydd.
Mae cwmnïau gwersylla wedi gweld twf yn niferoedd yr ymwelwyr, ond mae rhai sydd â busnesau gwely a brecwast a gwestai yn dweud eu bod nhw'n ei chael hi'n anoddach.
"Mae gwersylla yn ffantastig o ffordd i gael gwyliau"
"Mae natur y ffordd mae pobl yn dewis ac yn archebu gwyliau wedi newid," meddai Dr Sara Parry o Ysgol Busnes Bangor.
"Yn y 70au a'r 80au roedd teuluoedd yn tueddu i fynd i'r un lle bob blwyddyn ac roedd 'na lot mwy o ffyddlondeb tuag at ddarparwyr neu gwesty penodol."
Gyda'r twf mewn platfformau ar-lein i brynu gwyliau mae hi'n dweud bod pobl yn dewis gwyliau munud olaf yn seiliedig ar ragolygon y tywydd.
"Maen nhw'n hoffi'r hyblygrwydd yna," meddai, "ac mae 'na lawer o ddewisiadau ar-lein ac mae'n hawdd iawn bwcio gwyliau.
"Mae 'na ddylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n ysbrydoli pobl i fynd i lefydd newydd, mwy ecsotig, ond mae 'na adfywiad wedi bod yn campio hefyd."

"Mae natur y ffordd mae pobl yn dewis ac yn archebu gwyliau wedi newid," meddai Dr Sara Parry
Mae Dr Parry yn dweud bod y newid mewn tueddiadau yn gallu bod yn heriol i ddarparwyr llety - yn enwedig os ydy pobl sydd wedi llogi ystafell ar-lein yn canslo ar fyr rybudd.
"Mae'r gwesty'n colli'r noson ac mae'n anodd iawn gwerthu 'stafell eto ar y diwrnod," meddai.
'Gwyliau lot rhatach'
Ymhlith y busnesau sydd wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr eleni mae safle gwersylla Seiont ger Pontrug yng Ngwynedd.
"Mae llawer mwy o bobl yn dod am wyliau rhatach i'r campsite so 'dan ni llawer mwy prysur blwyddyn yma," meddai Thea Hummel o'r cwmni.
"Mae pobl yn dod i fan 'ma yn lle mynd tramor achos mae o lot rhatach na mynd i rhywle pellach, ac mae'r tywydd wedi bod lot gwell eleni.
"'Dan ni'n gallu llenwi'r cae ac mae 'na vibes lot neisiach pan mae'r lle 'di llenwi ac yn brysur."
Gwell na haul a chwrw wrth y pwll?
Mae Adam Owen o Gaernarfon yn mynd i gampio yno gyda'i bartner a'u tri o blant bob blwyddyn.
Maen nhw'n dueddol o archebu lle funud olaf pan mae'r tywydd yn braf.
Ond a yw aros yno yn cymharu â gwyliau i'r cyfandir?
"Gwylia abroad, haul, cwrw wrth y pwll?" meddai Adam.
"Nadi, ond nid pawb sy'n medru fforddio hynna bob blwyddyn, na?
"So ma hyn yn ffantastig o ffordd i cael mynd i ffwrdd. Mae o gyd am y plant, ma 'na ddigon o betha iddyn nhw neud, so maen nhw yn enjoio dwad yma."
- Cyhoeddwyd14 Ebrill
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf
Yn ôl gwefan Booking.com roedd cynnydd o 23% yn nifer y bobl oedd yn chwilio am wyliau yn ystod mis Gorffennaf o'i gymharu â'r llynedd.
Ac mae Sykes Holiday Cottages, sydd â 23,000 o eiddo ledled y DU, yn dweud bod y bwlch yn y cyfnod rhwng archebu a theithio wedi gostwng 8% eleni.
Mae'r newid mewn ymddygiad yn taro llawer o'r rhai sy'n rhedeg llety gwyliau traddodiadol yn galed, yn ôl PASC sy'n cynrychioli busnesau sy'n darparu llety hunanarlwyo.

"Mae 'na gymaint o waith o seibiannau byr â sydd yna gyda seibiant hirach," medd Nicky Williamson
"Mae pobl yn archebu gwyliau llawer byrrach sy'n golygu nad ydy'n aelodau yn llenwi pob wythnos, felly mae ganddyn nhw ddyddiau "marw" sy'n methu eu llenwi," meddai Nicky Williamson, Prif Swyddog Polisi PASC yng Nghymru.
"Mae 'na gymaint o waith o seibiannau byr â sydd yna gyda seibiant hirach – mae dal angen newid y dillad gwely a'r tyweli, yr un faint o waith am un noson â sydd ar ôl saith noson."
Mae PASC yn rhybuddio bod fwy o wyliau byrrach yn ei gwneud hi'n anoddach i fusnesau i sicrhau bod ganddyn nhw ymwelwyr am dros 182 diwrnod bob blwyddyn.
Os nad ydyn nhw'n cyrraedd y targed, bydd yn rhaid talu treth cyngor ychwanegol, gan eu bod yn cael eu hystyried yn berchnogion ail eiddo neu gartref gwyliau.
Ond mae'r arbenigwr twristiaeth o Brifysgol Bangor, Linda Osti, yn dweud bod y newid i wyliau byr, munud olaf, i'w weld ledled Ewrop.
"Mae'n ymddangos mai dim ond tyfu fydd y sector," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.