Gyrrwr beic modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Wrecsam

Cafodd yr Heddlu alwad am 19:38 nos Wener 15 Awst
- Cyhoeddwyd
Mae un dyn wedi marw ac un arall wedi dioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ym Mwlchgwyn, Wrecsam.
Fe gafodd Heddlu Gogledd Cymru wybod nos Wener 15 Awst am wrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar y B5340 rhwng yr A525 a Rhydtalog.
Ar ôl cyrraedd fe welon nhw yn rhan o'r gwrthdrawiad oedd grŵp o bedwar beic modur a Range Rover Evoque.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw un o yrwyr y beiciau modur yn y fan a'r lle.
Mae dyn arall wedi dioddef anafiadau difrifol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.