Cartŵn a Chywydd: Dwi awydd ail Foduan!

Ai dyma'r olygfa yn eich tŷ chi ar ôl dychwelyd adref o Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd?Ffynhonnell y llun, Mei Mac
Disgrifiad o’r llun,

Ai dyma'r olygfa yn eich tŷ chi ar ôl dychwelyd adref o Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd?

  • Cyhoeddwyd

Oes gyda chi garafán sydd angen ei gwagio, llond y lle o ddillad budron ac esgidiau sy'n sgrechian am sgrwbiad? Ond ar ôl wythnos llawn dop yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd, ydy meddwl am eich rhestr faith o dasgau yn profi'n anodd ar hyn o bryd?

Os mai ydy yw eich ateb, efallai eich bod yn profi rhai o symptomau Blŵs Boduan.

I leddfu ychydig bach ar y teimladau tosturiol yma, mae Cymru Fyw wedi gofyn i'r prifardd a'r cartwnydd, Meirion MacIntyre Huws, lunio cartŵn a chywydd ar eich cyfer.

Mwynhewch, ac ymlaen i Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn 2024!

Dwi awydd ail Foduan!

Da! O! Da oedd Boduan:

Tŷ Gwerin, chwerthin a chân,

wythnos pan nad oedd nosi

ar fy hen ŵyl annwyl i

a hithau’r iaith orau ’rioed

yn cynnal llanc a henoed.

Ond ow! Fe ddaeth i’w diwedd.

Waeth i mi â syrthio i ’medd.

Ll’gadau uwchben sachau sy’,

arennau’n dechrau crynu

a rhyw ‘Be wna-i?’ erbyn nos

"Agor y botel agos?’

Â’r garafan at ei hanner

mewn geriach cant o blant blêr

un di-awch a llesg yw dyn

â’i ymennydd fel menyn,

a’r gwagedd oer a’r gwgu

mawr mwll ym mhob twll o’r tŷ.

Eto i gyd ail wynt a gaf

yn dŵad drwy’r gwyll duaf;

wythnos hir sy’n cosi’r co’,

yn hwb i droi’r niwl heibio.

Yn dow-dow mi gaf ail dân,

dwi awydd ail Foduan!

Meirion MacIntyre Huws

Awst 2023

Pynciau cysylltiedig