Rheolwr CPD Y Bala yn gadael ar ôl 22 mlynedd wrth y llyw

Colin CatonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymunodd Colin Caton â CPD Y Bala yn ôl yn 2003

  • Cyhoeddwyd

Mae rheolwr Clwb Pêl-droed Y Bala wedi gadael ei rôl ar ôl 22 mlynedd wrth y llyw.

Fe ddechreuodd Colin Caton yn y swydd yn ôl yn 2003, pan roedd y clwb yn yr hen drydedd haen ym mhyramid pêl-droed Cymru.

Ers hynny mae Caton wedi bod wrth y llyw am 880 o gemau, ac mae'r clwb bellach wedi bod yn cystadlu yn yr haen uchaf ers 16 mlynedd yn olynol ar ôl ennill dyrchafiad 'nôl yn 2009.

Gorffennodd y clwb yn ail yn y Cymru Premier dair gwaith dan arweiniad Caton, gan sicrhau lle yn Ewrop naw gwaith.

Fe wnaethon nhw hefyd ennill Cwpan Cymru yn 2017, a Chwpan y Gynghrair yn 2023.

Blwyddyn 'anodd iawn'

Ond fe fu hi'n dymor siomedig i'r Bala eleni, gan orffen yn chweched yn y tabl a cholli yn erbyn Met Caerdydd yng ngemau ail gyfle Ewrop.

Mewn datganiad, dywedodd y clwb bod y 12 mis diwethaf wedi bod yn "anodd iawn", gyda swydd Caton "bron yn amhosib".

Ychwanegodd: "Bydd y Clwb yn ddiolchgar am byth i Colin am ei wasanaeth rhagorol, ei ymrwymiad llwyr i'r swydd, ei ymroddiad, ei frwdfrydedd, ei broffesiynoldeb a'i gyflawniadau rhagorol.

"Ni fydd ei ymddiswyddiad yn effeithio ar y cyfeillgarwch a'r berthynas deuluol sydd ganddo â chynifer o fewn y clwb."

Pynciau cysylltiedig