Penbleth mynwent o'r Oesoedd Canol yn ne Cymru'n parhau

Mae'r ymchwilwyr wedi canfod 41 o sgerbydau hyd yma, gan gynnwys y plentyn yma
- Cyhoeddwyd
Mae mynwent o'r Oesoedd Canol a gafodd ei chanfod ger Maes Awyr Caerdydd yn parhau i achosi penbleth i archeolegwyr.
Fe wnaeth ymchwilwyr gyhoeddi'r canfyddiad o'r 6ed neu 7fed ganrif - oedd yn cynnwys dwsinau o sgerbydau wedi eu gosod yn ofalus a gydag eitemau anarferol - y llynedd.
Ond mae'r tîm bellach wedi canfod fod bron pob un o'r cyrff yn fenywod, ac er bod eu hesgyrn yn dangos olion gwaith caled - roedd arwyddion o gyfoeth hefyd.
Canfyddiad annisgwyl arall oedd un fenyw wedi ei thaflu mewn ffos, yn wahanol iawn i'r gweddill oedd wedi eu claddu gyda gofal.
Yn ôl Andy Seaman o Brifysgol Caerdydd, sy'n arwain y prosiect, mae pob canfyddiad newydd ar y safle yn "creu darlun mwy diddorol".

Cafodd un sgerbwd ei ganfod mewn ffos, yn wahanol iawn i'r gweddill
Mae tua hanner y safle, sydd o fewn ffiniau Castell Ffwl-y-mwn (Fonmon Castle), wedi ei gloddio, ac mae sgerbydau 39 o oedolion wedi eu canfod hyd yn hyn.
Mae'r profion yn parhau, ond y gred yw bod pob un heblaw un yn fenywod.
"Dydw i ddim yn sicr beth mae'n olygu eto," meddai Dr Seaman.
"Mae'n bosib ei fod yn rhywbeth penodol am y gymuned, neu efallai mai un rhan o'r fynwent ydy hon a bod rhagor o ddynion mewn rhan arall."
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2024
Mae sgerbydau dau blentyn hefyd wedi eu canfod, nifer isel o ystyried bod cyfraddau marwolaethau plant yn sylweddol uwch ar y pryd.
Dywedodd Dr Marion Shiner, archeolegydd o Brifysgol Caerdydd, bod esgyrn y plant yn codi rhagor o gwestiynau.
"Mae'r pridd yn y bedd yn wahanol i feddi'r oedolion", meddai, gan esbonio ei fod yn dywyllach ac yn fwy "organig".
Dywedodd y gallai awgrymu nad oedd yr oedolion a'r plant wedi eu claddu yr un pryd.

Mae canfod darnau o wydr yfed ar y safle yn awgrymu nad cymuned arferol oedd hon
Yn ogystal â'r cyrff, mae eitemau sydd wedi eu canfod hefyd yn ychwanegu at ddirgelwch y safle, gyda'r ymchwilwyr yn credu bod darnau mân o grochenwaith a gwydr yn debygol o fod wedi eu cario i'r fynwent gan bobl oedd yn ymweld.
"Mae gwydr yn brin, ac mae ei ganfod yn rhoi statws eithaf sylweddol i'r safle," meddai Dr Seaman.
Dywedodd bod y gwydr yn debygol o fod wedi ei greu yn y dwyrain canol, Yr Aifft o bosib, ac yna wedi ei droi'n llestri yfed yn ne Ffrainc, cyn dod i Gymru.
Mae'r ymchwilwyr yn dweud bod canfod yr eitemau'n awgrymu nad cymuned arferol oedd hon.

Tua hanner y safle sydd wedi ei gloddio, ond fe fydd y gwaith yn parhau yn yr haf
Mae'r cyrff i gyd wedi eu gosod yn ofalus hefyd, rhai'n gorwedd ac eraill yn eistedd i fyny, ond pob un yn wynebu o'r dwyrain tuag at y gorllewin heblaw un fenyw oedd mewn ffos - sy'n codi cwestiynau eto i'r ymchwilwyr.
Does dim ateb pendant, ond y gred yw ei bod hi wedi troseddu neu wedi ei thaflu allan o'r gymuned am ryw reswm.
Ar ôl profion ar ei hesgyrn, y gred yw ei bod yn ei 30au hwyr neu 40au cynnar pan fu farw.
Roedd wedi torri ei braich ar un adeg, ond roedd hynny wedi gwella, ond roedd haint ar ei dant fyddai wedi bod yn boenus.

Byddai dant y fenyw wedi achosi poen, yn ôl yr ymgyrchwyr
Mae profion ar rhai o'r esgyrn eraill hefyd yn dangos nad yw pob un o'r ardal leol, gyda rhai o rannau eraill o Gymru a de-orllewin Lloegr hefyd o bosib.
Bydd profion DNA pellach yn cadarnhau a oedd y bobl yn perthyn i'w gilydd.
Mae gan yr ymchwilwyr ddiddordeb mawr yn nannedd y bobl - gan eu bod yn gallu rhoi cliwiau am y bwydydd oedd yn cael eu bwyta yn ystod eu bywydau.
"Maen nhw wedi bod yn bwyta deiet cyson iawn gyda llawer o garbohydradau, ond dim llawer o gig, meddai'r osteolegydd Dr Katie Faillace.
"Mae hynny'n wir o'u plentyndod i fod yn oedolion, ac mae'n cael ei weld ar draws y boblogaeth.
"Ond doedd dim pysgod o gwbl. Ar ôl i'r Rhufeiniaid adael, does dim arwyddion o bysgod yn y deiet. Mae'n ddirgelwch mawr."
Mae'r gwaith chwilio'n parhau dros yr haf, ac fe fydd archeolegwyr yn cloddio hanner arall y fynwent, gyda gobaith y bydd yn gallu ateb rhywfaint o ddirgelwch y safle.