Dynes drawsryweddol o Wynedd eisiau gadael Cymru gan 'nad oes croeso'

Yn ôl Stacy Winson, mae dyfarniad y Goruchaf Lys yn gwneud iddi deimlo "nad oes croeso'" iddi yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae dynes drawsryweddol o Wynedd wedi dweud ei bod yn bwriadu gadael y wlad yn sgil dyfarniad y Goruchaf Lys wythnos yn ôl wrth ddiffinio beth ydi dynes dan gyfraith gydraddoldeb.
Yn ôl Stacy Winson, mae'r dyfarniad yn gwneud iddi deimlo "nad oes croeso" iddi yma yng Nghymru, ac mae'n poeni y gallai'r dyfarniad arwain at ragor o droseddau casineb tuag at bobl trawsryweddol.
Mae'r diffiniad yn nodi penllanw brwydr gyfreithiol hir a allai fod â goblygiadau mawr o ran sut mae hawliau sy'n seiliedig ar ryw yn berthnasol ar draws yr Alban, Lloegr a Chymru.
Mae Wales Women Rights Network wedi croesawu'r dyfarniad gan ddweud ei fod yn rhoi diwedd ar sefydliadau yn "camddehongli" y gyfraith ac felly'n amddiffyn merched am flynyddoedd i ddod.
Ddydd Iau fe wnaeth yr AS Llafur, Tonia Antoniazzi alw am asesiad swyddogol o'r "difrod" sydd wedi'i achosi yn sgil mabwysiadu syniadaeth rhywedd gan rai cyrff cyhoeddus.

Stacy Winson gyda'i phartner, Nicholas
Wrth ddyfarnu'r wythnos ddiwethaf, dywedodd y barnwr, yr Arglwydd Hodge, na ddylai'r penderfyniad gael ei weld fel buddugoliaeth i un ochr dros y llall, a phwysleisiodd fod y gyfraith yn dal i roi amddiffyniad rhag gwahaniaethu i bobl drawsryweddol.
Ond degawd ers 'dod allan' yn drawsrwyeddol, mae Stacy Winson yn dweud bod y dyfarniad yn ergyd enfawr.
"Yn syth pan 'nes i glywed 'nes i ddechrau beichio crio," meddai.
"Roeddwn i'n gwybod yn syth bod hwna'n meddwl bod rights fi gyd wedi mynd.
"Fod iwsio toiled wedi mynd, mynd i changing rooms, a mwy a mwy roeddwn i'n meddwl amdano fo - mwya' upset o'n i'n mynd - oherwydd o'n i'n sylweddoli bod hwna'n golygu 'swn i methu mynd allan am noson allan achos fasa rhaid ffeindio toiled a 'sa ddim toiled ar gael."

"Dwi just yn teimlo fel nad oes croeso i fi dim mwy," meddai Stacey Winson
Gofynnwyd i'r Goruchaf Lys benderfynu ar y dehongliad cywir o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy'n berthnasol ledled Prydain.
Dywedodd yr Arglwydd Hodge mai'r cwestiwn pwysig oedd sut mae'r geiriau "menyw" a "rhyw" yn cael eu diffinio yn y ddeddfwriaeth.
Dywedodd wrth y llys yr wythnos ddiwethaf: "Penderfyniad unfrydol y llys hwn yw bod y termau menyw a rhyw yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn cyfeirio at fenyw fiolegol a rhyw biolegol."
'Dwi ddim yn teimlo'n saff'
Dywed Ms Winson pan ddaeth allan gyntaf iddi dderbyn 'camdriniaeth' ac mae'n ofni y bydd y dyfarniad nawr yn arwain at fwy o bobl yn y gymuned drawsryweddol yn wynebu problemau tebyg.
"Dwi just yn teimlo fel nad oes croeso i fi dim mwy," meddai Stacey.
"Dwi'n teimlo fel bod y lle 'ma sydd fod yn saff... Mae Prydain wedi bod i mi erioed fel rhywle sydd efo rhyw ddarn o LGTB rights, a dwi 'di colli hwnna gyd dros nos a dwi ddim yn teimlo'n saff."
Dywed Ms Winson ei bod hi a'i phartner bellach yn bwriadu symud dramor i wlad yn Ewrop y mae'n teimlo sy'n fwy cefnogol i'r gymuned drawsryweddol.

Mae Ms Winson a'i phartner bellach yn bwriadu symud dramor
Mae'r dyfarniad wedi ei groesawu gan ymgyrchwyr sy'n cefnogi hawliau merched.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Wales Women's Rights Network fod hwn yn "ddyfarniad enfawr i fenywod" ac nad oedd y gyfraith bellach yn agored i "gamddehongli".
"Dyma oedd y gyfraith fel y mae hi erioed" meddai Cathy Larkman, Cyfarwyddwr grŵp Cymru.
"Yn anffodus yr hyn a ddigwyddodd dros nifer o flynyddoedd yw bod grwpiau lobïo a sefydliadau wedi camliwio'r gyfraith honno ac yn anffodus mae sefydliadau mawr ac adrannau'r llywodraeth wedi bod yn barod i wrando a gwneud newidiadau ysgubol i'w polisïau mewnol eu hunain.
"Bydd yn rhaid dadwneud hynny i gyd oherwydd mae'r polisïau hynny bellach yn anghyfreithlon," ychwanegodd.
Pwysleisiodd Ms Larkman fod y materion yn "fater hawliau menyw" ac na ddylai canlyniad y dyfarniad "fod i fenywod orfod delio ag ef".
"Dyliwn ni gyd feddwl am y merched sy'n gorfod delio â'r mater hwn er mwyn eu preifatrwydd, eu hurddas a'u diogelwch".

"Y gyfraith orau ydi cyfraith glir a'r gyfraith sydd ddim yn gadael cwestiynau," meddai Niclas Parry
Wrth roi'r dyfarniad, dywedodd yr Arglwydd Hodge fod y ddeddfwriaeth yn rhoi "amddiffyniad i bobl drawsryweddol, nid yn unig rhag gwahaniaethu trwy nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd, ond hefyd yn erbyn gwahaniaethu uniongyrchol, gwahaniaethu anuniongyrchol ac aflonyddu o sylwedd yn eu rhyw gaffaeledig".
Dywedodd y Barnwr sydd wedi ymddeol, Niclas Parry, fod y dyfarniad hefyd yn cynnig eglurhad.
"Y gyfraith orau ydi cyfraith glir a'r gyfraith sydd ddim yn gadael cwestiynau. Mae'r penderfyniad yma wedi diffinio beth ydi menyw ac yn y byd sydd ohoni mae hynny wedi bod yn broblem fawr," meddai.
"Mae'r llys wedi dweud 'da ni wedi edrych ar y gyfraith, a menyw ydi menyw fiolegol'. Gorffen yna.
"Dydi hawliau pobl traws ddim wedi eu heffeithio fan hyn - dan y ddeddf cyfle cyfartal maen nhw dal â'u hawliau ond be mae'r ddeddf yn ei ddweud ydi bod yr hawliau yna wedi cael eu diffinio.
"Yr effaith yw, os siaradwch am eithrio pawb o le diogel yn y carchar neu'r ysbyty ar wahân i fenywod, mae'n golygu menywod biolegol."
'Gwneud pobl eraill yn llai diogel'
Pan ofynnwyd i Stacy Winson am y farn a fynegwyd gan grwpiau fel Wales Women's Rights Network, dywedodd ei bod yn deall y pryderon sydd gan lawer o fenywod, ond ei bod yn teimlo bod y dyfarniad yn anghywir.
"Rwy'n deall, mae yna boeni y bydd pobl yn defnyddio bod yn drawsryweddol i fynd i mewn i doiledau merched a gwneud yr hyn na ddylen nhw fod yn ei wneud, ond eto mae wedi banishio pobl fel fi rhag mynd mewn i lefydd lle dwi'n teimlo ofn [toiledau dynion e.e]."
"Mae mor frustrating oherwydd maen nhw'n ceisio gwneud eu hunain yn ddiogel, ac rydw i'n deall hynny 100%, ond mae (y dyfarniad) wedi gwneud pobl eraill yn llai diogel."
Ychwanegodd ei bod yn credu nad yw ei Thystysgrif Cydnabod Rhywedd, sef cofnod i ddangos newid cyfreithiol i hunaniaeth rhywedd, "yn werth y papur y mae wedi'i ysgrifennu arno mwyach".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd21 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2024