Ateb y Galw: Dilwyn Price

Dilwyn Price
- Cyhoeddwyd
Mae o'n gymeriad cyfarwydd i filoedd o blant fu'n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni...
Dilwyn Price, sydd wedi gwirfoddoli gyda'r mudiad ers degawdau, ydi meistr y seremoni ar Lwyfan y Cyfrwy lle mae'r holl ganlyniadau yn cael eu cyhoeddi.
Cyn i'r camerâu ddod yn fyw at Mari Lovgreen i ddatgelu'r enillydd, Dilwyn Price sy'n cadw trefn a chael hwyl gyda'r dorf... a heddiw y fo sy'n Ateb y Galw.

Dilwyn Price a Mari Lovgreen yn diddanu'r dorf ar Lwyfan y Cyfrwy 2024. Mae'r lleoliad - a'r ddau gymeriad - wedi dod yn elfen bwysig o'r Eisteddfod ers iddi ail-gychwyn ar ôl y pandemig
Beth yw eich atgof cyntaf?
Yn ddwy neu dair blwydd oed daeth injan stêm i’r stryd lle oeddwn yn byw ym Maes Pennant, Mostyn.
Wrth i Dad fy nghodi i sefyll gyda’r gyrrwr fe agorwyd drws y tân a chlywais y geiriau “Dyma lle mae hogia' drwg yn mynd!”
Neidiais yn syth yn ôl i freichiau diogel Dad!!
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Porth Trecastell, Sir Fôn. Dyma un o lefydd gorau Helen a finnau, lle cawsom gymaint o hwyl ac ymweliadau difyr gyda’r teulu a ffrindiau ar y traeth. Llosgi, chwerthin, oeri, cysgodi...

Porth Trecastell
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Mai 12fed 1970 - dyma’r noson pan gafodd Helen a finnau ein cusan gyntaf.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair
Cyfeillgar, bywiog, direidus

Dilwyn Price
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Tra’n aelod o Cantorion Gwalia, o dan arweiniad y ddiweddar Rhys Jones, cawsom gymaint o hwyl cyn ein hymarferion yn rhannu storïau a hel atgofion am rai o gyngherddau gynt - y fâs blodau, a’r piano a’r angen i fynd i’r toiled yn glasur!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Cefais fy ngwers gyntaf nofio, credwch neu beidio, yn neuadd yr ysgol - pawb yn gorwedd ar gadeiriau ac yn smalio nofio.
Un diwrnod oer ym mis Hydref aethom o Ysgol Bryn Pennant i’r Royal Lido, hen bwll nofio awyr agored ym Mhrestatyn, i dderbyn ein gwers nofio gyntaf go iawn.
Wrth reswm roedd Mam wedi sicrhau fod gennyf bar newydd o trunks - rhai gwlân! Neidiais i mewn i’r dŵr oer ac yna... dwi’n siŵr 'da chi’n gallu dyfalu sut nath y gwlân a’r dŵr wrthdaro!
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Daeth deigryn i’m llygad wrth wylio rhaglen teyrnged ar y teledu i’r ddiweddar chwaraewr rygbi Rob Burrow. Am ddyn, a theulu dewr, yn gorfod wynebu byw gyda MND. Roedd Kevin Sinfield yn ffrind mor annwyl a gwerthfawr.
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Dwi’n siŵr fod gennyf nifer! Diffyg clywed beth mae Helen yn ei ddweud ydi’r diweddaraf!

Dim rhyfedd nad ydi Dilwyn yn clywed Helen gyda'r holl sŵn ar Lwyfan y Cyfrwy...
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?
Dwi wedi troi tudalennau Lord of the Rings mwy nag unwaith ac yn dal i fwynhau'r antur hudolus.
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Yn ddi-os un o’m harwyr ydi Gareth Edwards ond basa’n braf cael sgwrs gyda Tchaikovsky neu Bach neu Handel.
Sut ar y ddaear wnaethant greu gymaint o gampweithiau cerddorol? Pwy oedd yn paratoi'r papur manuscript?
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Pan es i draw i 10 Stryd Downing, 1 Fawrth 2016, eisteddais o gwmpas bwrdd a ddefnyddwyd yng Nghynhadledd G8 2013 draw yng Ngogledd Iwerddon.
Efallai roeddwn yn eistedd yn sêt Angela Merkel neu Barack Obama neu Vladimir Putin...
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Mwynhau cwmni fy nheulu wrth arwain glamp o Jambori!
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Nain a Taid gyda'u wyrion a'u wyresau: (o'r chwith i'r dde) Efa, Lili, Helen, Dilwyn, Noa, Lwsi a Cadi
Dyma luniau o’n nheulu sy’n golygu gymaint i mi. Pob un yn arbennig iawn a gwerth y byd i gyd.
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Gareth Edwards yn sgorio cais dros Gymru i guro’r Crysau Duon!
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2024
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2024