Beiciwr modur wedi'i anafu'n ddifrifol ym Môn
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth wedi i feiciwr modur gael ei anafu yn ddifrifol mewn gwrthdrawiad ar Ynys Môn brynhawn Sadwrn.
Toc wedi 13:30 fe dderbyniodd yr heddlu adroddiadau bod dau gerbyd - car Peugeot 407 llwyd a beic modur Honda du a gwyn - wedi bod mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A545 y tu allan i garej Texaco ger Biwmares.
Roedd y car Peugeot yn teithio o gyfeiriad Porthaethwy a'r beiciwr modur o'r cyfeiriad arall.
Fe aeth y gwasanaethau brys i leoliad y gwrthdrawiad ac fe gafodd beiciwr modur 22 oed ei gludo i ysbyty yn Stoke wedi iddo gael anafiadau difrifol.
Mae'r Ditectif Gwnstabl Eleri Jones o'r Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol yn apelio am dystion.
"Rwy'n annog unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad a na sydd eto wedi siarad â ni i gysylltu mor fuan â phosib neu unrhyw yn a oedd yn yr ardal cyn neu adeg y gwrthdrawiad - ac efallai sydd â lluniau camera cerbyd neu ar ffôn symudol," meddai.