Gorau Chwarae Cyd Chwarae: Hanes arwyddair tîm pêl-droed Cymru

Bathodyn Gorau Chwarae Cyd ChwaraeFfynhonnell y llun, CBDC
  • Cyhoeddwyd

'Gorau Chwarae Cyd Chwarae' - yr arwyddair sy'n gyfarwydd iawn i gefnogwyr Cymru wrth i'r tîm cenedlaethol baratoi ar gyfer eu gêm yn erbyn Twrci ddydd Gwener yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ond nifer bach fydd yn ymwybodol o darddiad yr arwyddair, heblaw o bosib am y cefnogwyr hynny fydd yn teithio o Bont-y-clun i Gaerdydd.

Y tîm pêl-droed o Rondda Cynon Taf oedd y cyntaf i ddefnyddio'r geiriau ar eu crysau yn 1920au, ac maen nhw dal i'w ddefnyddio hyd heddiw.

"Thomas Edgar Russell - neu Tommy Russell - yw'r dyn i ddiolch am sicrhau fod yr arwyddair wedi cael ei fabwysiadau gan y tîm cenedlaethol yn 1951," meddai Tudor Davies, Cadeirydd Clwb Pêl-droed Pont-y-clun.

Ffynhonnell y llun, Tudor Davies
Disgrifiad o’r llun,

Tudor Davies yw cadeirydd clwb Pont-y-clun

"Fe hefyd oedd tu cefn i'r arwyddair mae'n debyg.

"Mae yna gellwair ysgafn wedi bod dros y blynyddoedd gyda'r Gymdeithas, ynglŷn â phwy bia'r arwyddair, ond yn bendant fan hyn wnaeth e' gael ei wisgo gyntaf a 'dy ni wedi bod yn ei wisgo byth ers hynny," ychwanegodd.

"Does dim dyddiad pendant, ond y gred yw bod y clwb wedi dechrau defnyddio'r arwyddair rhywbryd yn ystod y '20au."

"Roedd e'n hoff o'r arwyddair am ei fod yn pwysleisio'r pwysigrwydd o chwarae fel tîm."

Ffurfio clwb Pont-y-clun

Russell oedd golwr Pont-y-clun ac ysgrifennydd y clwb ond roedd hefyd yn ddylanwadol yn rhengoedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru gan ddod yn llywydd rhwng 1967 a 1972.

Wrth i'r Gymdeithas ddathlu ei phen-blwydd yn 75 oed yn 1951, cafodd y penderfyniad ei wneud fod angen bathodyn, gydag arwyddair oddi tano i'w roi ar y crys coch.

A dyna pryd ymddangosodd 'Gorau Chwarae Cyd Chwarae' am y tro cyntaf, a hynny yn erbyn tîm dethol X1 Prydain Fawr.

Roedd yr arwyddair yn ymddangos o dan fathodyn o'r ddraig ar gefndir gwyrdd ac wedi ei amgylchynu gan 11 o gennin, gan gynrychioli 11 o chwaraewyr y tîm a hefyd symbol cenedlaethol Cymru.

Erbyn hyn mae'r arwyddair ar grys Cymru wedi ei wahanu o'r bathodyn, gan ymddangos ar gefn y coler; daeth y newid yn 2019.

Yn ogystal â chael ei wisgo ddydd Gwener gan Gymru wrth iddynt wynebu Twrci, fe fydd yr arwyddair hefyd yn ymddangos ar grysau Pont-y-clun wrth iddynt droedio i'r cae yn erbyn Prifysgol Abertawe ddydd Sadwrn.

Cafodd y clwb o Rondda Cynon Taf ei ffurfio yn 1896 gan ymuno â Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn 1922.

Erbyn hyn maen nhw’n chwarae yn Ardal De Orllewin, Cynghrair Pêl-droed Cymru.

Ffynhonnell y llun, CPD Pontyclun
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd clwb Pontyclun ei ffurfio yn 1896

Dywed clerc y cyngor lleol, Julius Roszkowski, fod yna falchder yn perthyn i'r ffaith fod yr arwyddair wedi cael ei fathu gyntaf gan glwb y dref. Ychwanegodd fod y dref hefyd wedi cyfrannu yn eu tro i hanes y bêl hirgron yng Nghymru.

"Mae yna le i ymfalchïo yng nghlwb pêl-droed a chlwb rygbi'r dre, gan fod y ddau wedi cael dylanwad yn eu maes.

"Do, am le gymharol fach mae'r ddau glwb gafodd eu ffurfio tua'r un amser wedi gadael eu marc.

"'Dy ni'n gwybod am 'Gorau Chwarae' a bod hynny wedi cael ei fachu gan y tîm cenedlaethol ac yna mae'r maswr rhyngwladol Cliff Jones - roedd e' yn llywydd ar y clwb rygbi yma ond hefyd daeth e yn llywydd ar Undeb Rygbi Cymru yn ystod dathliadau eu canmlwyddiant yn 1980-81."

Pynciau cysylltiedig