Cynllun peilonau 'blêr' yn hollti barn yn y canolbarth

Mae arwyddion wedi ymddangos yn yr ardal yn gwrthwynebu'r cynllun
- Cyhoeddwyd
Mae pobl mewn cymunedau yng ngogledd Powys yn cael cyfle i ddweud eu dweud ar gynllun ar gyfer llwybr o beilonau 30 milltir o hyd i ddarparu cyswllt newydd i'r rhwydwaith trydan cenedlaethol.
Mae cysylltiad Efyrnwy Frankton yn cynnwys is-orsaf newydd ger pentref Cefn Coch, darn tair milltir o gebl tanddaearol a llinell trydan 28 milltir o hyd ar beilonau.
Bydd y llwybr yn cysylltu â'r rhwydwaith trydan ger Lower Frankton yn Sir Amwythig.
Ond mae rhai pobl leol yn poeni y bydd y peilonau'n anharddu'r dirwedd leol ac yn difetha golygfeydd o fryniau Maldwyn.
Dywed Green Gen Cymru, sy'n gyfrifol am y prosiect, fod angen y cysylltiad newydd "i ychwanegu capasiti at y rhwydwaith lleol, a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd trwy ddarparu'r seilwaith angenrheidiol i gysylltu ynni gwyrdd â'r grid".
'Ddim yn deall yr ardal'
Mae digwyddiadau ymgynghori yn cael eu cynnal yn neuadd gyhoeddus ac institiwt Llanfair Caereinion (6 Mawrth), Canolfan Gymunedol Llansanffraid (7 Mawrth) a Neuadd Bentref Meifod (8 Mawrth).
Yn y digwyddiadau, mae Green Gen Cymru yn dweud y bydd pobl yn gallu gweld model 3D digidol o'r llwybr.
Mae'n debyg mai hwn fydd yr ymgynghoriad llwybr cyfan olaf cyn i gais cynllunio gael ei gyflwyno.
Dywed y cwmni fod cynllun y cysylltiad wedi cael ei ddylanwadu gan adborth gan gymunedau lleol a rhanddeiliaid yn ystod ymgynghoriad blaenorol, yn ogystal ag asesiad amgylcheddol.
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2023

Dywedodd Myfanwy Alexander nad ydy'r datblygwyr yn deall yr ardal
Ond mae rhai pobl leol yn pryderu am y cynlluniau - mae posteri wedi ymddangos wrth ymyl ffyrdd ger pentref Meifod yn dweud 'Dim Peilonau'.
Yn ôl Myfanwy Alexander: "Wnaethon ni ddim colli'r frwydr y tro diwethaf, a 'da ni ddim yn mynd i golli'r frwydr y tro yma.
"Ma'r cynlluniau yma, ni wedi gwrthwynebu yn y gorffennol, llawer mwy blêr, ma' 'na gymaint o gamgymeriadau mwy blêr, dydyn nhw ddim yn deall yr ardal a ganddyn nhw ddim syniad am y tirlun na'r cymunedau."

Dywedodd Mari Lewis ei bod hi "nôl a mlaen o hyd" dros y cynlluniau.
"Dwi'n teimlo yn bersonol, dwi'n dallt y gwrthwynebiad ynglŷn â sut fydda nhw'n edrych a sut fydd e'n effeithio ar natur yn y pentref ac yn y cwm sydd yn lle prydferth ofnadwy.
"Ar y llaw arall dwi'n dallt mae rhaid i'r pethe yma fynd rhywle, 'da ni gyd angen ynni glân a dwi felly yn mynd o un i'r llall."
Ychwanegodd bod ganddi bryder ynghylch y risg o lifogydd yn sgil yr "holl dunelli o goncrit" fyddai'n rhan o'r cynllun.

Mae Owen Llewellyn Jones yn dweud bod y cwmni'n deall pryderon yn lleol
Dywedodd Owen Llewellyn Jones o Green Gen Cymru fod y cwmni'n "deall yn iawn ein bod yn dod â seilwaith mawr iawn i mewn i ardaloedd o'r wlad nad oes ganddynt hynny ar hyn o bryd".
"Felly rydym yn gwbl gydymdeimladol â'r pryderon hynny.
"Ond yr hyn fyddwn yn ei ddweud mewn gwirionedd, yn enwedig ym Mhowys, yw bod pobl yn derbyn nad yw capasiti'r grid yno ar hyn o bryd.
"Mae'n ymddangos bod pawb yn gwybod am fusnes na all ehangu oherwydd capasiti'r grid neu hyd yn oed berchnogion tir na allant arallgyfeirio, trwy godi tyrbin gwynt bach, oherwydd na allai'r grid ddelio gyda hynny."