'Ein mab 3 oed wedi marw ers dros flwyddyn a ni dal ddim yn gwybod pam'

Roedd Tomos yn llawn egni, medd ei rieni Aled a KatieFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tomos yn llawn egni, meddai ei rieni Aled a Katie

  • Cyhoeddwyd

Mae rhieni bachgen bach o Sir Gâr yn dweud eu bod wedi bod yn aros dros flwyddyn i gael gwybod pam fu farw eu mab.

Bu farw Tomos Ieuan Llewellyn-Jones o Garwe ger Llanelli yn sydyn ar 2 Mehefin 2024, yn dair oed.

Dywedodd ei rieni nad ydyn nhw wedi gallu cofrestru ei farwolaeth, gan fod prinder patholegwyr i nodi'r achos yn swyddogol.

"Mae'n straen ofnadwy," meddai ei dad, Aled Wyn Jones.

"Maen nhw'n dweud mai dim ond un patholegydd plant sydd yn 'neud de Cymru a de-orllewin Lloegr. Dwi'n ffindio hynny'n anodd iawn."

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud bod "heriau sylweddol yn effeithio ar wasanaethau patholeg post-mortem" a'u bod yn ceisio gwella'r sefyllfa.

Disgrifiad,

Mae rhieni Tomos yn dal i aros am atebion

Cafodd Tomos ei eni gyda syndrom Down ac anhwylder ar ei goluddyn, ond roedd yn gwella'n dda ar ôl y lawdriniaeth a gafodd yn ddeufis oed.

"O'dd Tomos yn llawn egni, yn llawn bywyd," meddai Aled.

"Os byddech chi'n mynd mewn i ystafell, bydde fe'n 'neud yn siŵr bo chi'n gwenu.

"O'dd e'n llawn bywyd ond cafodd ei gymryd o ni yn rhy gynnar."

Tomos a'i rieni Katie Louise Llewellyn ac Aled Wyn JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Tomos a'i rieni Katie Louise Llewellyn ac Aled Wyn Jones yn stadiwm Molineux, cartref Wolverhampton Wanderers

Mae ffigyrau diweddar gan Goleg Brenhinol y Patholegwyr yn dangos bod yna brinder patholegwyr plant ar draws y DU.

Dau batholegydd plant sydd yng Nghymru ac mae'r ffigyrau yn dangos bod angen llenwi 30 swydd ar draws y DU - sef 37% o'r gweithlu.

Ychwanegodd mam Tomos, Katie Louise Llewellyn, ei bod wedi siarad â rhieni eraill sydd wedi cael profiad tebyg.

"Rwy'n rhan o grŵp 2Wish Cymru, a phan wnes i bostio amdano fe wnaeth llawer o rieni eraill ymateb gan ddweud eu bod wedi bod drwy'r un profiad – rhai'n aros ers misoedd, fel ni."

Ychwanegodd: "Mae'n ddigon anodd colli plentyn – ond wedyn i gael eich gadael i aros am atebion, mae hynny'n creu mwy o boen.

"Dylai fod mwy o batholegwyr plant – ac yn nes adref."

Aled Wyn Jones a'i fab - y diweddar TomosFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Aled Wyn Jones a'i fab - y diweddar Tomos

Mae Aled yn galw am newid: "Dyle ni ddim gorfod aros blwyddyn i ffindio mas be' ddigwyddodd.

"Dylai rhywun arall fod yn y swydd, neu rywun o Loegr ddod i helpu."

Dywedodd Aled bod yr aros yn effeithio'n fawr ar eu hiechyd meddwl nhw fel rhieni.

"Mae fi a Katie yn beio ein hunain. Ni jyst eisiau atebion – ni ddim yn trio cau'r drws, ond mae angen gwybod be' ddigwyddodd.

"Bob tro dwi'n cysylltu â'r crwner, mae'n dweud nad oes ateb wedi dod gan y patholegydd eto.

"Ni hyd yn oed wedi methu cofrestru marwolaeth Tomos achos does dim cadarnhad o'r rheswm am ei farwolaeth.

"Mae'n cael effaith arnon ni bob dydd."

Bu farw Tomos ar 2 Mehefin 2024 yn dair oedFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dydy rhieni Tomos heb allu cofrestru ei farwolaeth hyd yma

Dywedodd Dr Nia Bowen o Gaerfyrddin, a fu'n gweithio ym maes patholeg, fod y "system wedi torri" ers blynyddoedd.

"Ma' 'da ni gyfradd uchel yn gweithio tu allan i oriau gwaith yn ddi-dâl," meddai.

"Hefyd mae'r gyfradd ymddeol yn uwch o fewn y maes na meysydd eraill ac ma'r oedran ma' patholegwyr yn ymddeol yn is - mae hynna'n meddwl bo ni'n mynd i golli arbenigwyr dros y blynyddau nesa' hyn.

Nia Bowen
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o resymau pam bod dim digon o batholegwyr, medd Dr Nia Bowen fu'n gweithio yn y maes

"Wrth gwrs does dim digon yn dod mewn i'r maes yn y lle cynta' - yn draddodiadol dyw e ddim yn faes atyniadol ar gyfer doctoriaid ifanc - mae'r tâl yn is na meysydd eraill.

"Hefyd mae 'na strategaethau newydd bellach sydd eisiau sicrhau canlyniadau cywir a buan o fewn maes cancr a mae hwnna yn tynnu mwy o batholegwyr o waith routine bob dydd.

"Mae hyn yn newid anferth ar gyfer patholeg yn gyffredinol ac yn achosi oedi - yn enwedig i deuluoedd sy'n galaru."

TomosFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae angladd Tomos wedi ei gynnal ond mae'r teulu eto i wybod achos ei farwolaeth

Yn ôl swyddfa'r crwner, does dim modd cynnal cwest cyn cael canlyniadau gan y patholegydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw patholeg plant.

Wrth gysylltu â'r llywodraeth honno, dywedodd Y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod "heriau sylweddol yn effeithio ar wasanaethau patholeg post-mortem" a'u bod yn "gweithio ar frys i ganfod ateb hir dymor er mwyn gwella'r gwasanaeth".

Yn y cyfamser i Aled a Katie mae'r aros yn parhau.

"Mae Tomos bach wedi marw ers dros flwyddyn a ni dal ddim yn gwybod be' ddigwyddodd," meddai Aled.

"Dylai fe ddim cymryd mor hir â hyn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.