Dedfrydu dyn am ymosod yn rhywiol ar ferched 11 a 15 oed

Llun heddlu o Alex DaleFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alex Dale wedi treulio 10 mis yn y ddalfa ers cael ei gyhuddo ac mae disgwyl iddo felly gael ei ryddhau mewn rhyw fis

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Gaerdydd sy'n cyfaddef iddo ymosod yn rhywiol ar ddwy ferch 11 a 15 oed yn ne Cymru wedi cael dedfryd o 16 mis o garchar.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd bod y merched yn dal yn ofnus ac yn ofidus wedi'r ymosodiadau a ddigwyddodd o fewn dau ddiwrnod i'w gilydd fis Hydref y llynedd.

Mae Alex Dale, 32, o Adamsdown, hefyd wedi ei wahardd rhag bod mewn cysylltiad heb awdurdod neu heb oruchwyliaeth â phlant dan 18 am 10 mlynedd.

Oherwydd ei fod eisoes wedi treulio 10 mis yn y ddalfa mae disgwyl iddo gael ei ryddhau ymhen mis.

Dywedodd y barnwr Carl Harrison bod angen y cyfyngiad i warchod y cyhoedd rhag niwed.

Yn y digwyddiad cyntaf fe ymosododd Dale ar y ferch 15 oed, oedd yn ei gwisg ysgol, wrth iddo deithio ar fws yn Y Barri, tua 20:30 nos Fercher 23 Hydref.

Eisteddodd wrth ei hymyl gan ddweud ei fod angen help gyda'i ffôn cyn mynd ati i'w gorfodi i bwyso yn erbyn y ffenestr.

Yna fe ddangosodd iddi neges destun yn cynnig £20 am gymryd rhan mewn gweithred ryw gydag ef o dan ei got - neges oedd yn gorffen gyda'r geiriau: "Paid dweud wrth neb."

Rhedodd y ferch i flaen y bws a dweud wrth y gyrrwr beth oedd newydd ddigwydd, ac fe gafodd Dale ei anfon o'r bws.

Safle'r ymosodiad honedig ym MhontprennauFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar y ferch 11 oed rhwng Clwb Golff Caerdydd a Ffordd Pentwyn yn ardal Pontprennau

Yn yr ail ddigwyddiad, aeth Dale at ferch 11 oed oedd yn mynd â'i chi am dro ger clwb golff yng ngogledd Caerdydd yn gynnar gyda'r nos.

Gofynnodd am gyfeiriadau siop leol cyn dweud wrth y plentyn bod rhywbeth ar ei gwddf a'i chusanu ar y gwefusau.

Clywodd y llys ei fod yn ei dal wrth iddi geisio dianc, ac yna ei fod wedi ei gwthio i'r llawr.

'Nerfus, ofnus a bregus'

Clywodd yr achos bod yr ymosodiadau wedi effeithio'n ddifrifol ar y dioddefwyr.

Dywedodd mam y ferch 11 oed bod ei merch yn bryderus ac yn ofidus, yn poeni ynghylch mynd allan a chyfarfod pobl.

Ychwanegodd ei bod wedi colli hyder a bod y cyfan wedi amharu ar ei gwaith ysgol.

Mewn datganiad, dywedodd y ferch 15 oed ei bod yn teimlo'n nerfus, ofnus a bregus.

Doedd dim emosiwn ar wyneb Dale yn y doc.

Cafodd ei ddedfrydu i 16 mis o garchar am annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithred rywiol, a saith mis o garchar am ymosod yn rhywiol ar y ferch iau, gyda'r ddwy ddedfryd yn cydredeg.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Emma Partridge bod y ddwy ferch "yn ddewr eithriadol i rannu beth ddigwyddodd iddyn nhw".

"Mae'r hyn a wnaeth Dale yn dal i gael effaith enfawr ar eu bywydau bob dydd gan gynnwys teimlo'n fregus ar drafnidaeth gyhoeddus ac wrth gerdded ar ben eu hunain.

"Rwy'n gobeithio y bydd dedfryd heddiw'n rhoi rhyw gysur i'r merched ac yn eu helpu i gael eu hyder yn ôl er mwyn symud ymlaen."

Pynciau cysylltiedig