Dyn o Bwllheli â chanser terfynol yn ceisio codi £1m i elusennau
![Huw Williams yn dal medal 'SheUltra'](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2048/cpsprodpb/b462/live/495df120-e7cd-11ef-a697-15c17ea31ce4.jpg)
Cafodd Huw Williams ddiagnosis o ganser terfynol yn 2019
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Bwllheli, sydd â chanser terfynol, wedi trefnu ras er mwyn ceisio codi £1m i elusennau canser menywod.
Cafodd Huw Williams, 53, ddiagnosis o ganser terfynol yn 2019.
Ag yntau'n rhedwr brwd, mae bellach yn trefnu ras SheUltra - marathon ultra i ferched yn unig ym Mhen Llŷn - er mwyn ceisio codi £1m.
Fe fydd y cystadleuwr yn rhedeg, heicio neu gerdded cwrs 31 milltir - yn dechrau yn Abersoch ac yn gorffen ym Mhwllheli - ym mis Ebrill.
Dyma fydd yr ail waith i'r digwyddiad gael ei gynnal, ac mae wedi tyfu'n sylweddol eleni.
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2024
Cyn iddo dderbyn ei ddiagnosis, roedd Huw yn aml yn rhedeg dros bellteroedd hir.
Fe gymrodd rhan ym Marathon des Sables ym Moroco, sy'n cael ei hystyried fel y ras droed anoddaf yn y byd.
Rhedodd 156 milltir ar draws Anialwch y Sahara ond wrth hyfforddi, dywedodd nad oedd yn "teimlo'n iawn" ac aeth "yn ôl ac ymlaen at y doctor i geisio darganfod beth oedd yn digwydd".
Ar ôl syrthio yn ei gartref mewn poen ofnadwy ym mis Hydref 2019, cafodd Huw ei gludo i'r ysbyty.
Dywedodd: "Daeth un o'r meddygon iau i fyny, ac roedd ei wyneb yn edrych fel wyneb rhywun oedd yn mynd i roi newyddion drwg i chi."
Cafodd wybod iddo gael canser ar ei goluddion, a briwiau ar ei afu. Roedd ganddo hefyd furmur y galon, gyda thair o falfiau ei galon wedi'u difrodi.
Yn ôl Huw, doedd meddygon ddim yn gallu dweud wrtho pa mor hir y byddai'n byw, a'i fod o bosib wedi cael y tiwmorau am tua 12 mlynedd.
'Digwyddiad, nid ras'
Cafodd ras SheUltra cyntaf Pen Llŷn ei chynnal ym mis Ebrill y llynedd, gyda 500 o fenywod o bob cwr o'r byd yn teithio i ogledd Cymru i gymryd rhan.
Ond eleni mae disgwyl 1,800 o gystadleuwyr.
Yn ôl Huw, mae'r ras yn bwysig i fenywod deimlo "yr un mor werthfawr â'r ferch gyntaf dros y llinell, ac yn cael ei gwerthfawrogi gymaint â'r un olaf dros y llinell".
Dywedodd bod y cwrs yn fwy o "ddigwyddiad, nid ras", heb unrhyw derfyn amser i'w gwblhau.
"Mae'r holl staff sy'n wynebu'r cyhoedd yn ferched, mae 95% o'r rhai sy'n gweithio ar y digwyddiad yn ferched," meddai.
![Medal aur gyda geiriau 'Sheultra - ultra marathon' wedi'u hysgrifennu arno](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1680/cpsprodpb/dde0/live/af728d20-e798-11ef-87aa-f115baaf16d4.jpg)
Mae Huw yn gobeithio bydd y menywod yn teimlo'n "werthfawr" wrth gwblhau'r ras
"Rydym am godi cymaint o arian ag y gallwn. Rydym wedi codi £30,000 ers mis Ionawr y llynedd ac rydym am dargedu £1m mewn pum mlynedd.
"Rwyf wedi dewis pum mlynedd oherwydd dyna'r amser y bydd rhai pobl â chanser yn cael byw unwaith y byddan nhw'n cael diagnosis o ganser terfynol, ac mae hynny os ydych chi'n lwcus."
Mae trefnu'r ras wedi rhoi "pwrpas ychwanegol" i Huw i wneud "rhywbeth mor werth chweil", meddai.
"Mae canser yn eich newid. Rydych chi'n wahanol. Mae popeth yn newid.
"Fy nod yw creu gwaddol o obaith."
Fe fydd ras SheUltra yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 12 Ebrill.