She Ultra: Cymru'n arwain y ffordd i ferched herio'u hunain
![Fe fydd y digwyddiad yn daith o amgylch Pen Llŷn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/768/cpsprodpb/63c9/live/0a38a690-fb59-11ee-9ba1-e1a98176f647.jpg)
Fe fydd y digwyddiad yn daith o amgylch harddwch Pen Llŷn
- Cyhoeddwyd
Bydd y digwyddiad rhedeg ultra benywaidd cyntaf erioed i godi arian ar gyfer elusennau'n cael ei gynnal yng ngogledd Cymru ddydd Sadwrn, gyda dros 550 o ferched wedi cofrestru.
Nod y 'She Ultra' yw annog ac ysbrydoli menywod o bob lefel ffitrwydd i herio eu hunain dros y cwrs 50 cilometr ym Mhen Llŷn.
Daeth y syniad ar ôl i drefnydd y digwyddiad, Huw Williams, gael diagnosis o ganser yn ystod y pandemig.
Yn redwr ultra profiadol, fe sylweddolodd ar ei symptomau tra'n cystadlu yn Ras yr Wyddfa yn 2019.
![Huw Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/640/cpsprodpb/de35/live/b057e1a0-fb57-11ee-9ba1-e1a98176f647.jpg)
Mae 'na fesurau ychwanegol er mwyn annog menywod i gymryd rhan, meddai Huw Williams
Fydd dim modd cael gwared â'r canser yn llwyr, ac mae'r afiechyd wedi effeithio ar ei galon.
Wythnosau cyn y pandemig bu'n rhaid iddo gael llawdriniaeth frys ar y galon ac ar ôl hynny, fe benderfynodd sefydlu digwyddiad ultra a fyddai'n agored i bob menyw, fel ffordd o ddangos ei werthfawrogiad o'r gofal roedd y merched o'i gwmpas wedi'i roi iddo yn dilyn y driniaeth.
Yn ôl Huw Williams, mae yna nifer o bethau i'w gwneud hi'n haws i ferched.
Dywedodd: "Does 'na ddim cut-offs so mae'n golygu bod ganddyn nhw trwy'r dydd i orffen, neu hyd at ganol nos os ydyn nhw eisiau.
"Mae 'na She Ultra ambassadors fydd yn cerdded neu redeg hefo nhw.
"Mae'r aid stations i gyd efo bwyd a diod, ond hefyd sanitary products a hygiene products yna'n barod.
"Maen nhw'n gallu cadw hygiene bags yn y registration a 'da ni'n mynd â nhw ymlaen.
"Mae 'na lefydd i ferched bwmpio llefrith. Ac am y tro cynta' hefyd, mae 'na Wellness Lead yn medru gwneud ymarferion bach cyn y digwyddiad i bobl gael ymlacio."
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2024
Mae'r digwyddiad yn codi arian i elusennau canser menywod, yn cefnogi'r rhai sy'n byw gyda'r clefyd, neu sydd ag anwyliaid â chanser, yn ogystal â rhai sydd wedi colli rhywun i ganser.
Ychwanegodd Huw Williams: "Mae codi arian i'r elusennau canser merched yn hollbwysig, dyna pam ei fod yn ddigwyddiad yn hytrach na ras.
"Pa ffordd well na mynd allan am y diwrnod am dro efo'ch ffrindiau, yn rhywle perffaith fel Pen Llŷn, a gwneud rhywbeth da ar yr un pryd?"
Ymhlith y rhai sy'n ymgymryd â'r her mae'r ffrindiau lleol Amelia Shaw a Jennie Roberts.
Mae'n brofiad hollol newydd iddyn nhw, yn enwedig i Amelia oedd erioed wedi bod ar daith gerdded hirach cyn dechrau hyfforddi ar gyfer y She Ultra.
![Amelia Shaw a Jennie Roberts](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/640/cpsprodpb/23d6/live/1b5875a0-fb58-11ee-9ba1-e1a98176f647.jpg)
Fe fydd Amelia a Jennie ymhlith y menywod fydd yn cymryd rhan
Roedd y syniad o wneud digwyddiad merched yn unig yn apelio, meddai Amelia: "Gwneud o 'efo dynion, mae 'na fwy o competition.
"Ti'n teimlo 'o, dwi'm yn dda iawn am wneud hyn'. Mae'n fwy cyfforddus i wneud o efo grŵp o genod."
Ychwanegodd Jennie ei bod wedi bod yn haws hyfforddi fel criw o ferched: "Faswn i byth yn gallu gwneud y training ar ben fy hun o gwbl.
"'Da ni 'di bod yn mynd i'r gym, 'da ni 'di cychwyn nofio yn y môr, just i helpu ni physically a mentally a mae o'n gweithio."
Meddai Amelia: "Faswn i ddim yn edrych ar fy hun a d'eud 'sa hi'n gallu gwneud 50k' ond dwi yn gallu gwneud o.
"Mae lot o genod dwi'n meddwl mor self-conscious maen nhw'n poeni be' mae pobl eraill yn meddwl, ond does dim rhaid.
"Dwi'n example o hynny dwi'n meddwl. Do'n i ddim yn licio cerdded, do'n i byth yn mynd am hike neu rhywbeth.
"Ond rŵan dwi'n gallu gwneud o a dwi'n mwynhau gwneud o."
![She Ultra](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/640/cpsprodpb/418e/live/31d185a0-fb59-11ee-9ba1-e1a98176f647.jpg)
Mae rhedwyr ultra benywaidd wedi cael ychydig mwy o sylw yn ddiweddar ar ôl camp Jasmin Paris fel y fenyw gyntaf erioed i gwblhau Marathon Barkley yn yr Unol Daleithiau - un o'r rasys anoddaf yn y byd - ac mae'n dweud iddi hi ei wneud o dros ferched ledled y byd.
Ond mae'r ystadegau'n dangos nad yw menywod yn draddodiadol yn tueddu i wneud y math yma o ddigwyddiadau.
Yn ôl ystadegau, dim ond traean o redwyr ultra y DU sy'n ferched, dolen allanol.
Ers 2020, mae nifer y menywod sy'n cystadlu dros bob pellter wedi gostwng 10%, gyda'r gostyngiad mwyaf mewn digwyddiadau ultra.
Mae 24% yn llai o fenywod yn cymryd rhan mewn marathon ultra, o'i gymharu â digwyddiadau 5 cilometr.
![Mared Llywelyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/611/cpsprodpb/3b3e/live/a0754d80-fb58-11ee-9ba1-e1a98176f647.jpg)
Mae Mared Llywelyn yn falch o gael rhannu'r her o farathon ultra
Mae Mared Llywelyn yn redwr ultra profiadol ac yn un o lysgenhadon She Ultra sy'n gobeithio ysbrydoli mwy o fenywod i ymgymryd â heriau tebyg.
Meddai: "Mae'n rhywbeth sydd wedi datblygu'n naturiol i fi, o ddechrau rhedeg i gynyddu'r pellter mewn ffordd, ond dydy hynny ddim yn wir i bawb.
"Dwi'n 'nabod ambell un fydd yn cymryd rhan ddydd Sadwrn sy'n gwneud rhywbeth fel hyn am y tro cyntaf a dwi mor falch eu bod nhw'n mynd i gael yr un math o brofiad ag ydw i wedi'i gael ac wedi mwynhau gymaint."
Mae cynlluniau eisoes ar y gweill ar gyfer y She Ultra nesaf yn 2025, lle bydd y trefnwyr hefyd yn cyflwyno cyfleusterau gofal plant.
Maen nhw hefyd yn trefnu digwyddiad tebyg ym Mhortiwgal yn ogystal ag yng ngogledd Cymru.