'Rhai profiadau mewn unedau iechyd meddwl wedi fy ngwneud i'n fwy sâl'

Mae Francesca wedi parhau i hwylio ers y ddamwainFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe dreuliodd Francesca flynyddoedd mewn unedau iechyd meddwl ar ôl damwain hwylio

  • Cyhoeddwyd

Fe newidiodd bywyd Francesca Murphy yn llwyr yn dilyn damwain hwylio yn 2014.

Aeth yn sownd o dan ei chwch gyda rhaff wedi'i lapio o amgylch ei ffêr ar ôl iddi droi drosodd.

Cafodd ei hachub ac roedd yn iawn yn gorfforol - ond arweiniodd at ddirywiad cyflym yn ei hiechyd meddwl.

Heb y gefnogaeth a gafodd gan ei seicotherapydd, meddai, ni fyddai yma heddiw.

Ond dywedodd hefyd fod rhai o'r profiadau yn yr ysbyty wedi bod yn drawmatig.

Mae Francesca, 27, yn rhannu ei stori wrth i elusen Mind Cymru godi pryderon am y defnydd o ataliadau (restraints) mewn unedau cleifion iechyd meddwl ar draws Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi buddsoddi £2m ar gyfer gwelliannau.

'Tri dyn a menyw yn dal fi lawr'

Mae Francesca, o Abergwaun yn Sir Benfro, wedi treulio amser mewn amryw o unedau cleifion iechyd meddwl ledled Cymru a Lloegr dros y ddegawd ddiwethaf.

Dywedodd y byddai'n cael ei chanfod gan yr heddlu ar ôl mynd ar goll, yn cael ei derbyn i'r ysbyty dros dro ac yna'n cael ei rhyddhau deuddydd yn ddiweddarach.

Ei chyfnod hiraf yn yr ysbyty oedd rhwng chwech a saith mis.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Francesca bellach wedi’i rhyddhau o’r gwasanaethau iechyd meddwl ac wedi mynd yn ôl yn y dŵr

Mae'n dweud fod angen gwelliannau ar unedau iechyd meddwl.

Cafodd ei dal gyda'i hwyneb ar y llawr hatal o leiaf ddwywaith, meddai.

Dylai ymarfer ataliol neu gyfyngol fod yn ddewis olaf bob amser a dylai gweithwyr geisio lleddfu sefyllfaoedd anodd ymlaen llaw.

“[Roedd yn] erchyll," meddai.

"'Wedd gen i dri dyn ac un fenyw yn dal fi lawr ac yna'n fy injecto a fy nhawelu, cyn siarad â fi i leddfu'r sefyllfa.

"'Wen i’n dal i geisio dod dros yr atgofion o’r digwyddiad hwylio a phan oedd rhywbeth o gwmpas fy ffêr, byddai’n triggero popeth oedd yn digwydd.

"Byddai'n fy ngwneud i'n fwy sâl."

'Siarad ar ran y bobl sydd ddim yma'

Dywedodd fod cysondeb gofal a chyfathrebu clir yn hanfodol.

“Roeddwn i’n ffodus i gael therapydd anhygoel,” meddai.

Dywedodd hefyd fod diffyg hyfforddiant anhwylderau bwyta mewn unedau seiciatrig cyffredinol.

Mae Francesca bellach wedi’i rhyddhau o’r gwasanaethau iechyd meddwl ac mae’n gweithio dwy swydd ac wedi mynd yn ôl yn y dŵr.

“Rydw i eisiau siarad ar ran y bobl nad ydyn nhw yma bellach i siarad.”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Francesca wedi cyfrannu at adroddiad newydd gan Mind Cymru

Roedd Francesca yn un o’r bobl a gyfrannodd at adroddiad newydd gan Mind Cymru, sy’n canolbwyntio ar wardiau iechyd meddwl cleifion mewnol yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn codi pryderon am brinder staff, diffyg data a gofal a diogelwch cyffredinol.

Maen nhw hefyd yn dweud bod angen casglu data mwy cynhwysfawr i roi darlun llawnach o ofal ac ataliaeth cleifion mewnol - yn enwedig o ran hil a nodweddion gwarchodedig eraill - i fynd i'r afael ag unrhyw anghydraddoldeb a gwahaniaethu.

Maen nhw'n amlinellu sawl maes y mae angen eu gwella gan gynnwys yr angen i gysoni deddfwriaeth arfer cyfyngol â chyfraith Lloegr.

Dros y ffin, nod Deddf Unedau Iechyd Meddwl (Defnydd Grym) 2018 - neu Cyfraith Seni - yw amddiffyn cleifion rhag defnydd anghymesur ac amhriodol o rym mewn unedau iechyd meddwl.

Yng Nghymru, mae canllawiau yn anstatudol.

Buddsoddiad o £2m

Dywedodd Simon Jones, o Mind Cymru, fod y canllawiau yng Nghymru yn debyg ond bod angen iddynt fod yn ofyniad cyfreithiol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gwella diogelwch ac ansawdd iechyd meddwl yn flaenoriaeth.

Dywedodd fod hynny wedi'i adlewyrchu yn y buddsoddiad o £2m i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau, a oedd yn cynnwys Rhaglen Diogelwch Cleifion Iechyd Meddwl.

“Fe wnaethom ymgynghori’n ddiweddar ar ein Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles ddrafft sydd wedi’i datblygu ar y cyd ag ystod o bartneriaid, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, gan osod ein gweledigaeth ar gyfer gwelliannau dros y 10 mlynedd nesaf,” ychwanegodd.

  • Os yw cynnwys yr erthygl yma wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar wefan BBC Action Line

Pynciau cysylltiedig