Dyn wedi colli taliad anabledd am ei fod yn 'swnio'n iawn dros y ffôn'

Craig Cox
Disgrifiad o’r llun,

Mae Craig Cox yn byw â'r cyflwr Limb Girdle Muscular Dystrophy – cyflwr oes, sy'n gwaethygu'n raddol dros amser

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn a gollodd ei daliad cymorth anabledd am ei fod yn "swnio'n iawn dros y ffôn" yn galw am newid y drefn o asesu.

Mae taliad annibyniaeth personol, neu personal independence payment (PIP), yn gymorth gan Lywodraeth y DU i dros 3.6 miliwn o bobl yng Nghymru a Lloegr sydd â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol, neu anabledd hirdymor.

Mae Craig Cox yn byw â'r cyflwr Limb Girdle Muscular Dystrophy – cyflwr oes, sy'n gwaethygu'n raddol dros amser.

Mae wedi bod yn derbyn taliadau PIP dros y blynyddoedd i helpu ariannu pethau fel ei gar – sydd wedi ei addasu'n bwrpasol.

Ond ar ôl cyfweliad ail-asesiad gorfodol, fe ddaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau i benderfyniad nad oedd angen y taliad arno rhagor, gan ei fod yn "swnio'n iawn dros y ffôn".

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud eu bod nhw'n cefnogi miliynau o bobl bob blwyddyn, ac mai eu blaenoriaeth yw cynnig gwasanaeth cefnogol i bawb sy'n gymwys, cyn gynted ag sy'n bosib.

'Dwi'n poeni am y dyfodol'

Dywedodd Craig, sydd o Bontypridd, ei fod "wedi colli annibyniaeth".

"Roeddwn i'n poeni a oeddwn i'n mynd i allu parhau i weithio, oherwydd dyna fy unig ddull o deithio yn ôl ac ymlaen i'r gwaith, doeddwn i ddim yn gwybod a fydden i'n dal i allu mynd â fy mhlant, casglu fy mhlant, gollwng fy mhlant, mynd ar ddiwrnodau allan oherwydd heb y car hwnnw roeddwn i really wedi colli popeth."

heledd tomos
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Heledd Tomos ei fod yn "broses eitha' negyddol achos ma' rhaid chi feddwl am bopeth chi ffaelu neud"

Yn Ysbyty Treforys, mae'r ffisiotherapydd niwrolegol Heledd Tomos yn annog ei chleifion i ofyn am gymorth gan elusen neu arbenigwr meddygol wrth ymgeisio am y taliad.

"Mae 'na lot o waith papur, a hefyd mae'n broses eitha' negyddol achos ma' rhaid chi feddwl am bopeth chi ffaelu 'neud, ac ma' hynna'n anodd o ran chi'n trio 'neud eich gorau bob dydd i gario 'mlaen yn normal, heb orfod meddwl am beth chi ffaelu 'neud drwy'r amser."

Ychwanegodd bod dweud wrth unigolion sydd â chyflyrau sy'n gwaethygu nad ydyn nhw'n cael y taliad "achos bo' nhw i weld yn well" yn "eithaf creulon".

'Pŵer i ddifetha ein bywydau'

Mae Craig o'r farn fod angen gwasanaeth sy'n deall "nad rhifau ar bapur ydyn ni; rydyn ni'n bobl â bywydau".

"Mae'r pŵer ganddyn nhw i ddifetha ein bywydau gyda chlic o'u bysedd, a dyw e ddim yn effeithio arnyn nhw."

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud eu bod nhw'n cefnogi miliynau o bobl bob blwyddyn, ac mai eu blaenoriaeth nhw yw cynnig gwasanaeth cefnogol i bawb sy'n gymwys, cyn gynted ag sy'n bosib.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod yn gweithio'n agos gyda'r rhai sy'n cynnal yr asesiadau er mwyn gwella'r broses.

Mae apêl Craig, gyda help elusen Muscular Dystrophy UK wedi llwyddo, ac mi fydd nawr yn parhau i dderbyn y taliad, gan obeithio rhoi'r dryswch y tu ôl iddo.

Pynciau cysylltiedig