Staff bwyty cebab wedi 'erlid cwsmer i'r stryd gyda chyllyll'

Efes Kebab HouseFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu yn dweud fod dau ddigwyddiad ar wahân wedi digwydd yn Efes Kebab House ym mis Awst a mis Hydref

  • Cyhoeddwyd

Mae bwyty cebab mewn perygl o golli ei drwydded ar ôl i staff erlid cwsmer i'r stryd gyda chyllyll a chael eu gweld mewn digwyddiad ar wahân gyda gynnau replica.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gwneud cais am adolygiad o drwydded Efes Kebab House ym Mae Colwyn, yn ôl y Gwasanaeth Adrodd ar Ddemocratiaeth Leol.

Clywodd cynghorwyr Conwy bod staff wedi mynd ar ôl cwsmer gyda chyllyll ar ôl iddyn nhw daflu saws a chan diod atynt ar 17 Awst.

Clywodd y cynghorwyr hefyd bod yr heddlu wedi eu galw ar ôl i staff gael eu gweld gyda "drylliau ffug" ar 10 Hydref.

Gofynnodd y perchennog Bilgin Odemis iddo aros ar agor, ac mae'n "gwarantu 100%" na fyddai digwyddiadau o'r fath yn digwydd eto.

'Gor-ymateb i fygythiad lefel isel'

Dywedodd Aaron Haggas o Heddlu Gogledd Cymru wrth y pwyllgor: "Dylai busnesau sy'n cymryd y gyfraith yn eu dwylo eu hunain ddioddef y canlyniadau."

Ychwanegodd fod y staff wedi "gor-ymateb i raddau helaeth iawn i fygythiad lefel isel iawn".

Mewn datganiad dywedodd Mr Odemis: "Llaw ar galon, rwy'n meddwl am y busnes a'r teulu hefyd."

"Y tro nesaf, fe allwch chi gymryd y drwydded i ffwrdd ar unwaith.

"Rhowch fwy o opsiynau i ni a (gadewch i mi) aros a chadw ar agor."

Mae gan y pwyllgor tan 24 Rhagfyr i wneud penderfyniad ar y drwydded.

Pynciau cysylltiedig