Teyrngedau i'r gwleidydd Emrys Roberts sydd wedi marw'n 93 oed
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i Emrys Roberts - un o aelodau blaenllaw Plaid Cymru - sydd wedi marw yn 93 oed.
Fe safodd ar ran Plaid Cymru mewn sawl etholiad ond mae'n cael ei gofio'n fwyaf arbennig am gipio 37% o'r bleidlais a dod yn ail yn is-etholiad Merthyr yn 1972.
Wrth roi teyrnged iddo dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru, Marc Jones: "Roedd Emrys Roberts yn hynod o ddylanwadol ar wleidyddiaeth Cymru am dri degawd.
"Roedd ei gyfraniad i'r Blaid yn eithriadol o'r 60au, pan fu yn Ysgrifennydd Cyffredinol egnïol, ac fel ymgeisydd y Blaid yn is-etholiad Merthyr yn 1972.
"Ei orchest etholiadol fwyaf oedd arwain y Blaid i reoli cyngor lleol am y tro cyntaf - ym Merthyr yn 1976. Roedd yn ddylanwad mawr ar genhedlaeth o genedlaetholwyr, ac mae coffa cynnes iawn amdano ym Mhlaid Cymru."
Cafodd Emrys Roberts ei eni yn Royal Leamington Spa yn Sir Warwick, lle'r oedd ei dad, WH Roberts a oedd yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog, yn cadw siop.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd symudodd y teulu i Gaerdydd ac wrth iddo fynychu capel Minny Street fe wnaeth ddysgu siarad Cymraeg.
Arhosodd yn y brifddinas i astudio Cymraeg a Hanes Cymru a dod yn llywydd Undeb y Myfyrwyr.
Fe ymunodd Emrys Roberts â Phlaid Cymru pan yn ifanc gan sefyll ar ran y blaid mewn sawl etholiad - is-etholiad Casnewydd 1956, yn sedd Gogledd Caerdydd yn 1959, is-etholiad Glyn Ebwy yn 1960, yng Ngogledd Caerdydd eto yn 1964, yn is-etholiad Merthyr yn 1972 ac eto yn yr un sedd yn etholiadau cyffredinol 1974.
Yn 1957 roedd e'n un o drefnwyr y Blaid ac yn trefnu'r ymgyrch yn erbyn boddi Capel Celyn a thair blynedd yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol - bu yn y swydd am bedair blynedd.
Rhwng 1975 ac 1981 roedd e'n arwain y Blaid yng Nghyngor Bwrdeistref Merthyr ac o dan ei arweiniad Plaid Cymru oedd yn rheoli'r cyngor o 1976 tan 1979.
Rhwng 1979 ac 1981 ef oedd Is-Lywydd y Blaid.
'Areithiwr tanbaid ac ysbrydoledig'
"Anghofiai fyth ohono yng nghynadledd y Blaid yn 1978 yn siarad yn huawdl iawn o blaid mesur datganoli. Roedd pawb ar eu traed," meddai ei ferch Nia Roberts wrth siarad â Cymru Fyw.
"Roedd e'n areithiwr cwbl danbaid ac ysbrydoledig.
"Ro'dd e'n ddyn oedd mewn i bopeth ac yn garismatig."
Dywedodd yr ymgyrchydd Ffred Ffransis ei fod wedi cael ei ysbrydoli'n fawr gan areithiau Emrys Roberts tra'n y carchar ddiwedd y 60au.
Bu'n gweithio fel newyddiadurwr a golygydd i bapur y Caerphilly Advertiser am gyfnod, rhwng 1974 a 1993 ef oedd Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymuned De Gwent ac yna tan ei ymddeoliad bu'n rheolwr iechyd y GIG yn Nhorfaen.
Yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 1988 ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor Cyhoeddusrwydd ac roedd yn Swyddog y Wasg yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Islwyn yn 1997.
"Tra ym maes iechyd roedd e'n awyddus iawn i glywed llais pobl a sicrhau eu bod yn rhan o ddatblygu gwasanaethau," ychwaegodd ei ferch Nia Roberts.
"Wedi iddo ymddeol bu'n weithgar iawn gyda MIND Cwm Rhymni ac wedi iddo symud nôl i Gaerdydd o Faesycwmwr yn 1997 daeth yn rhan o gangen De Cymru Cymru-Cuba.
"Roedd yn achos a oedd yn agos iawn i'w galon ac roedd e'n hynod o falch fel trysorydd fod y gangen wedi llwyddo i anfon sawl ambiwlans a nwyddau meddygol ac addysgol yno."
Roedd Emrys Roberts yn ddyngarwr ac yn credu bod democratiaeth yn fwyaf effeithiol pan mae penderfyniadau yn cael eu gwneud o fewn cymunedau yn hytrach na gan llywodraethau o bell - am y rheswm hynny roedd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016 ac ysgrifennodd lythyron yn rheolaidd i'r Western Mail o blaid Brexit.
Yn 2017 cyhoeddodd 'Ein Stori Ni' - sef llyfr yn llawn ffeithiau ar hanes Cymru ac yn ddiweddarach fe gafodd y gyfrol ei chyfieithu i Saesneg. Ef hefyd yw awdur y gyfrol "A Bee or Two in My Bonnet" (2011), sef llyfr yn olrhain ei yrfa ac a gyhoeddwyd ar-lein gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru.
Bydd dathliad o'i fywyd yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd ddechrau Mawrth.
Mae'n gadael gweddw Margaret a phump o blant.
Dadansoddiad
Yn sicr Emrys Roberts oedd un o'r areithwyr gwleidyddol gorau yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif ond mae'n debyg ei fod yn cael ei gofio'n bennaf fel ymgeisydd Plaid Cymru mewn is-etholiad a gynhaliwyd ym Merthyr yn 1972.
Yn 1970 roedd S O Davies wedi ennill y sedd fel ymgeisydd annibynnol yn sefyll yn erbyn Llafur - ei gyn-blaid ac roedd Llafur yn deisyfu cael y sedd yma'n ôl yn yr is-etholiad - hen sedd Keir Hardie wrth gwrs.
Fe safodd Emrys Roberts dros Blaid Cymru ac arllwysodd y Blaid bopeth i mewn i'r is-etholiad hwnnw gan drefnu syrcas etholiadol a chyfarfodydd cyhoeddus di-ri gyda'r areithiwr tanbaid yma.
Ar ddiwedd y dydd fe lwyddodd Llafur i adennill y sedd ond dim ond o fwyafrif bychan.
Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach fe lwyddodd Plaid Cymru i gipio'r cyngor lleol gan ennyn enw da i berson a fyddai'n dod yn enw cyfarwydd yn ddiweddarach - ie, dyma ymddangosiad cyntaf Dafydd Wigley ar y llwyfan gwleidyddol.