Eifion Williams – y cymydog arbennig sy'n cludo nwyddau i 30 o bobl

- Cyhoeddwyd
Un o Gwm-ann ger Llanbedr Pont Steffan yw Eifion Williams, ac mae wedi bod yn gweithio yn siop y pentref ar hyd ei oes, fwy neu lai.
Ei fam a'i dad oedd yn rhedeg y siop o 1958 nes iddo gymryd yr awenau ar ôl gadael yr ysgol yn 1966. Yno y bu'n gweithio nes ymddeol yn 2018.
Ac er iddo ymddeol a chau'r siop, ni ddaeth ei wasanaeth i'r gymuned i ben.

Bu siop Crown Stores yn nheulu Eifion am 60 o flynyddoedd
Tra'r oedd o yn y siop roedd o'n mynd â bocsys o nwyddau i gartrefi pobl; hyd yn oed pan nad oedd ganddo drwydded yrru fe fyddai'n eu cario'r nwyddau iddyn nhw. Fe barhaodd i wneud hynny, hyd yn oed ar ôl gadael y siop, i gwsmeriaid oes a oedd bellach yn eu wythdegau a'u nawdegau.
Ond pan ddaeth y Cyfnod Clo fe ddaeth mwy o alw am ei wasanaeth, eglurodd:
"Doedd llawer o bobl ddim yn moyn mynd mas i siopa eu hunain, felly es i i siopa i lot fwy o bobl ar yr adeg hynny – pobl do'n i ddim yn 'nabod yn dda iawn, oedd ddim ymhell o lle oedd y siop yn Llambed oedd ddim moyn mynd mas.
"O'n nhw'n rhoi'r order i fi ar tecst yn y bore ac o'n i'n mynd â'r neges iddyn nhw ar ôl dod mas o'r archfarchnad neu rywle arall fydden i 'di bod yn siopa."
Helpu cartref henoed
Buan y lledaenodd y gair fod Eifion yn mynd i siopa i bobl nad oedd eisiau, neu oedd ddim yn gallu mynd eu hunain, a daeth cais iddo gan gartref henoed lleol – cartref Hafan Deg, Llanbedr Pont Steffan.
Meddai, " Doedd y staff ddim fod i fynd mas i siopa [ar ran y preswylwyr]. Dechreuais i fynd â phethau i'r preswylwyr fel papurau dyddiol neu wythnosol, cylchgronau, sweets neu siocled, paced o fisgedi neu botel o sgwash a phethau fel 'ny."
Ar un pwynt yn y Cyfnod Clo, meddai, roedd yn prynu gwerth tua £120 o bapurau a chylchgronau ar ran pobl. Ymhlith y pethau eraill oedd Eifion yn eu gwneud i'w gymdogion oedd mynd i godi arian o'r twll yn y wal:
"Ar un adeg siŵr o fod oedd tua chwe charden i wahanol bobl! Fi'n siŵr eu bod nhw'n teimlo'n eithaf saff ar y pryd bod nhw'n rhoi eu cardiau banc i fi."
Cludo i 30 o bobl
Erbyn hyn, nid yw'n mynd â chymaint o nwyddau i bobl ag yr oedd o yn ystod cyfnod Covid ond mae'n dal i fynd i nôl neges i'w gymdogion. Mae Eifion yn tybio ei fod yn helpu tua 30 o bobl yn y gymuned mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ac mae'n bwriadu cario 'mlaen tra mae'n gallu. Dywedodd:
"Os ga' i iechyd i gario mlaen. Fi'n cael lot o sgyrsiau diddorol gyda'r bobl hyn, wedyn 'wy'n cael lot o storïau a fi'n dysgu tipyn fy hunan.
"Dw i mas bob dydd ond dydd Sul. Fi'n mynd i'r dre bob bore i wneud rhywbeth i rywun."
Does dim syndod felly fod Eifion wedi cael ei enwebu am wobr Gwneud Gwahaniaeth BBC Cymru Wales yn y categori Cymydog Arbennig. Beth fyddai'n ei olygu iddo petai'n ennill?
"Bydde fe'n meddwl y byd i fi. Dim bo' fi wedi disgwyl cael cydnabyddiaeth na chymeradwyaeth. Ddaeth e ddim i'n meddwl i o gwbl ambyty 'ny.
"Ond fi'n cofio beth 'wedodd cymydog yn Llambed, oedd e'n mynd i gael ryw wobr, a dywedodd e wrtha' i bod Dai Llanilar wedi dweud wrtho fe, 'Paid â gwrthod dim byd ond cic yn dy din'."
"Oedd Mam yn arfer dweud bod mwy o bleser mewn rhoi na derbyn, mwy o fwynhad, yndyfe, a fi'n teimlo hynny."
Yn ogystal ag Eifion mae'r canlynol wedi'u henwebu yn y categori Cymydog Arbennig: Macy Williams o Wrecsam, Sharon Beck o Fwcle a Tim a Suzanne Silcock o Ynys Môn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf