FBI: 'Fe allai dyn orfod ymuno â gang i'w ddiogelu yn y carchar'

Llun artist o San DiegoFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o Daniel Andreas San Diego yn ystod ymddangosiad llys blaenorol

  • Cyhoeddwyd

Mae gwrandawiad estraddodi dyn a gafodd ei arestio yn Sir Conwy wedi dros 20 mlynedd ar ffo rhag yr FBI, wedi clywed efallai y byddai'n rhaid iddo ymuno â gang i'w ddiogelu petae'n cael ei garcharu yn America.

Cafodd yr awgrym ei wneud ar ail ddiwrnod gwrandawiad yn Llys Ynadon Westminster sy'n penderfynu a ddylid anfon Daniel Andreas San Diego i'r Unol Daleithiau i wynebu achos llys.

Roedd Mr San Diego ar restr 'Most Wanted' yr FBI yn dilyn ffrwydradau yn ardal San Francisco, California yn 2003, nes iddo gael ei ganfod a'i arestio mewn tŷ anghysbell ger Maenan yn Nyffryn Conwy fis Tachwedd y llynedd.

Mae'r gwrandawad wedi ei ohirio nawr tan 8 Rhagfyr.

Clywodd y gwrandawiad gan gyn-swyddog carchar oedd yn gweithio i'r adran oedd yn penderfynu lefel risg troseddwyr unigol er mwyn canfod a ddylid eu cadw mewn adrannau diogelwch isafswm, isel, canolradd neu uchel.

Ym marn Shannon Race, pe byddai llys yn cael Mr San Diego yn euog o droseddau terfysgol ac yn ei garcharu am o leiaf 30 o flynyddoedd, fe fyddai'n garcharor adran diogelwch uchel.

Roedd yn "hyderus iawn" taw dyna fyddai'n digwydd, o ystyried ffactorau fel y ffaith ei fod ar restr Most Wanted yr FBI.

Wrth groesholi Ms Race ar ran llywodraeth yr Unol Daleithiau, awgrymodd Joel Smith taw "damcaniaethu" yw unrhyw ymgais ar hyn o bryd i asesu statws a sefyllfa Mr San Diego yn y dyfodol wedi achos llys.

Cytunodd Ms Race, ond bod ei hateb ar sail dros 15 mlynedd o asesu achosion tebyg.

Poster o restr Most Wanted yr FBIFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd San Diego, dde uchaf, yn ymddangos ar restr Most Wanted yr FBI oedd yn cynnwys Osama Bin Laden - cyn-arweinydd al-Qaeda

Mae tîm cyfreithiol Mr San Diego yn dadlau "na fyddai'n gallu amddiffyn ei hun" pe byddai'n cael ei gadw mewn carchar diogelwch uchel lle, meddir, mae yna berygl o drais difrifol.

Dewis arall, maen nhw'n dweud, yw ei gadw dan warchodaeth mewn uned arbenigol yn y tymor hir, ond "prin y byddai hynny'n llai gormesol" gan y gallai gael ei gadw ar wahân am gyfnodau maith.

Llidiart y Coed
Disgrifiad o’r llun,

Y tŷ ym Maenan, sydd wedi ei ddisgrifio fel un "anodd iawn i ddod o hyd iddo", hyd yn oed wrth gerdded yn yr ardal

Clywodd y llys wedyn gan Nicole English, a weithiodd i wasanaeth carchardai'r Unol Daleithiau am 30 o flynyddoedd.

Mae bywyd mewn carchar diogelwch uchel, meddai, yn ymfflamychol, gyda lefelau uchel o ddefnyddio cyffuriau a diwylliant gangiau mwy dwys.

Pan ofynnwyd iddi sut fyddai bywyd Mr San Diego yn y fath amgylchedd, atebodd: "Fe fyddai'n fregus iawn a byddai angen arno ffordd o gael ei warchod."

Fe allai hynny olygu, meddai, ymuno â gang sy'n gorchafu pobl gwyn fel ffordd o gael ei warchod rhag gangiau neu unigolion eraill.

Ond dywedodd wrth gael ei chroesholi nad yw'n sicr pa mor fynych yw'r gangiau neilltuol hynny yn y carchardau ble gallai Mr San Diego gael ei gadw.

Dywedodd Joel Smith bod achosion o ymosodiadau difrifol mewn carchardai diogelwch uchel yn gymharol isel - tri o bob 500 - yn ôl ystadegau llywodraeth yr Unol Daleithiau.

Pynciau cysylltiedig